Llwyddiant mawr i lansiad Animeiddiad y Gacen Dystiolaeth

Rhannu Llwyddiant mawr i lansiad Animeiddiad y Gacen Dystiolaeth ar Facebook Rhannu Llwyddiant mawr i lansiad Animeiddiad y Gacen Dystiolaeth Ar Twitter Rhannu Llwyddiant mawr i lansiad Animeiddiad y Gacen Dystiolaeth Ar LinkedIn E-bost Llwyddiant mawr i lansiad Animeiddiad y Gacen Dystiolaeth dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Un o uchafbwyntiau Cynhadledd Flynyddol 2026 CYBI RhCT oedd lansiad ein Hanimeiddiad y Gacen Dystiolaeth i gynulleidfa frwdfrydig.

Fframwaith syml ond pwerus yw'r Gacen Dystiolaeth sy'n dangos sut mae mathau amrywiol o dystiolaeth - data, ymchwil, mewnwelediad proffesiynol a phrofiad byw - yn dod ynghyd i gefnogi gwneud penderfyniadau gwell, mwy cynhwysol, a chynhwysfawr.

Roedd yr animeiddiad yn ymdrech tîm enfawr, dan arweinyddiaeth Shannon Lee, Swyddog Ymgysylltiad y Cyhoedd a Chymuned, ochr yn ochr â'n Tîm Llais y Gymuned newydd, yn gweithio gyda'r gwneuthurwr ffilm Hugh Griffiths o Lily Pad Films, i greu animeiddiad deniadol a hygyrch sy'n esbonio'r Gacen Dystiolaeth. Rhannodd aelodau eraill o'r tîm eu talentau i roi lleisiau yn y Gymraeg a Saesneg.

Roedd yr ymateb yn y gynhadledd i'r animeiddiad a'r dull hwn o weithio gydag ymchwil - gan roi cyfranogiad cymunedol wrth ei galon, yn gadarnhaol dros ben. Rydyn ni wedi cyffroi i weld sut mae sefydliadau yn defnyddio'r Gacen Dystiolaeth er mwyn grymuso ataliad, polisi ac ymarfer.

"Mor ddiddorol i weld sut mae'r elfennau yn cyd-eistedd dan un ymbarél a sut wnaeth hi wella ymglymiad aelodau, gwneud penderfyniadau cymunedol a diwylliant ymchwil."

"Clywed gan yr ymgynghorwyr profiad byw a'r Cyngor am sut mae proses y Gacen Dystiolaeth wedi'u helpu i benderfynu ar undeg wyth o argymhellion. Ac animeiddiad y Gacen Dystiolaeth!"

"Dw i'n dwlu ar animeiddiad y Gacen Dystiolaeth; bydda i'n ei rannu."

Rydyn ni'n gobeithio bydd yr animeiddiad yn mynd yn rhan allweddol o gyflwyno'n prosiect ni, gan helpu i esbonio diben ein gwaith a'r rôl hanfodol mae'r Gacen Dystiolaeth yn ei chwarae yn gwneud penderfyniadau wedi'u goleuo gan dystiolaeth. Rydyn ni'n gobeithio bydd e'n cael ei rannu'n bell.

Rydych chi'n gallu gwylio'r animeiddiad yma: RCT HDRC Evidence Pie

Ac, os hoffech chi ddysgu mwy am y Gacen Dystiolaeth, gwyliwch ein gweminar: Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth | Gwnewch Newidyn RhCT

Diweddaru: 06 Mai 2026, 02:16 PM