Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth

Rhannu Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth ar Facebook Rhannu Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth Ar Twitter Rhannu Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth Ar LinkedIn E-bost Cyflwyniad i'r Gacen Dystiolaeth dolen

Click here for English / Cliciwch yma am Saesneg

Beth yw Cacen Dystiolaeth y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd?

Dull syml o ddeall a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth i wneud penderfyniadau gwell.

Pam mae’r Gacen Dystiolaeth yn bwysig?

Wrth i Gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau, maen nhw'n cael effaith ar iechyd a lles pobl. Mae angen tystiolaeth dda i wneud penderfyniadau da - ond mae “tystiolaeth” yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae'r Gacen Dystiolaeth yn ei gwneud hi'n glir ac yn deg drwy ddangos yr holl fathau o dystiolaeth sy'n bwysig.

Beth sydd yn y Gacen?

1. Profiad Bywyd Straeon gwir a phrofiadau gan bobl yn y gymuned.

2. Gwybodaeth Broffesiynol Beth mae gweithwyr proffesiynol yn ei wybod o'u gwaith o ddydd i ddydd.

3. Ymchwil Academaidd Astudiaethau a darganfyddiadau o brifysgolion ac ymchwilwyr.

4. Data Poblogaeth Ffeithiau a ffigurau am bobl - megis oedran, rhywedd, a thueddiadau.

5. Data Sefydliadol Gwybodaeth ynglŷn â gwasanaethau a sut maen nhw'n perfformio.

6. Mesur Effaith Tystiolaeth sy'n dangos beth sy'n gweithio a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud.

Sut mae'r Gacen Dystiolaeth yn helpu?

· Mae'n helpu i nodi bylchau yn y dystiolaeth.

· Mae'n magu hyder staff ac aelodau etholedig.

· Mae'n gwneud penderfyniadau'n fwy tryloyw a theg.

Pam mae hyn yn dda i bawb?

· I drigolion: Mae eich llais yn bwysig wrth wneud penderfyniadau.

· I wasanaethau: Mae'n helpu i wella gwaith cynllunio a darparu.

· I Gynghorau: Mae'n creu polisïau cryfach, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Hoffech chi wybod rhagor?

Mae modd gwylio gweminar y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal lle'r ydyn ni'n cyflwyno'n Cacen Dystiolaeth isod neu lawrlwytho'n Cacen Dystiolaeth o adran dogfennau'r dudalen yma.

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth, mae modd cysylltu â ni, cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr neu'n dilyn ni ar LinkedIn.

Diweddaru: 18 Rhag 2025, 03:49 PM