Gwneud Defnydd o Ddulliau Gwerthuso

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Mae’r sesiynau wedi’i dylunio i ddatblygu sgiliau ym mhob math o dystiolaeth yn y Gacen Dystiolaeth.
Drwy fynychu’r sesiwn hon, byddwch yn datblygu sgiliau:

Deall, cryfhau a dangos effaith eich gwaith drwy ddefnyddio dulliau gwerthuso.
Mae’r cwrs hwn yn eich cefnogi i gamu nol o ddyletswyddau dydd-i-ddydd a deall sut i werthuso effaith gwaith ac ymyriadau'r gwasanaeth. Byddwch yn dysgu sut i ddiffinio problemau yn fwy mawl, dylunio ymyriadau sy’n cynnwys gwahanol rhanddeiliaid a chynllunio gwerthusiadau ystyrlon a defnyddiol.
P’un ai ydych chi’n ceisio dangos gwerth gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli, cynllunio ymyriad newydd, gwneud cais am gyllid, neu wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich hyder i werthuso.
Bydd y diwrnod yn gymysgedd o gyfraniadau byr ac ymarferion, enghreifftiau go iawn, ac amser strwythuredig i chi weithio ar eich gwasanaeth neu brosiect, fel eich bod chi’n gadael gyda syniadau i’w rhoi ar waith yn syth!
Dysgwch sut i:
• Esbonio beth yw gwerthuso, pam ei fod o’n bwysig a dangos effaith gwasanaethau ac ymyriadau.
• Diffinio problemau a chanlyniadau yn gliriach.
• Defnyddio’r gacen dystiolaeth i ddisgrifio sut mae modd defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth gyda'i gilydd.
• Datblygu model newid i egluro sut mae disgwyl i ymyriad greu newid.
• Cynllunio gwerthusiad ymarferol sydd yn werthfawr, yn ddichonadwy ac yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Cynulleidfa darged
Mae’r cwrs yn cael ei anelu at:
• Weithwyr a swyddogion rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau
• Reolwyr ac arweinwyr tîm sydd yn gweithio ar ddylunio neu wella gwasanaethau
• Pobl sy’n ysgrifennu ceisiadau cyllid, achosion busnes neu adroddiadau gwasanaeth
Gwybodaeth am y sesiwn
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal mewn person (wyneb-yn-wyneb). Yn anffodus, fydd cinio ddim yn cael ei ddarparu.
Beth i'w ddisgwyl
Mae hon yn sesiwn diwrnod cyfan. Byddwch yn gallu gwrando, cymryd rhan a gofyn cwestiynau.
Iaith
Rhowch wybod i ni os hoffech sesiwn Gymraeg neu Saesneg.
Hygyrchedd
Rhowch wybod i ni os ydych chi angen cefnogaeth neu addasiadau er mwyn cymryd rhan.
Recordio
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio.
📅 Er sylw: mae isafswm o 6 mynychwr ar gyfer y sesiynau Cymraeg a Saesneg . Os na allwn gynnig y cwrs yn eich iaith ddewisol ar y dyddiad ddewisoch chi, byddwn yn cysylltu â chi i drafod.
Gallwch weld ac archebu lle yn un o’n sesiynau isod.