Ebrill 2026

Rydym bellach yn gweithio ar Ran 2 ein prosiect gwariant ataliol, sydd yn edrych ar wasanaethau yn RhCT sy’n anelu i atal digartrefedd.

Mae tîm CYBI RhCT wedi adnabod cwestiynau ymchwil ac fe fyddwn yn archwilio sut gellir gwario arian i atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Bydd hyn yn cynnwys profi ein diffiniadau o wariant ataliol mewn gwahanol gyd-destunau.

Fe fyddwn ni’n defnyddio tystiolaeth o bob rhan o’r Gacen Dystiolaeth. Ar gyfer y cwestiynau sy’n berthnasol i dystiolaeth academaidd, rydym yn cyd-weithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Effaith Digartrefedd, a manteisio ar eu harbenigedd yn y maes hwn.

Rhannu Ebrill 2026 ar Facebook Rhannu Ebrill 2026 Ar Twitter Rhannu Ebrill 2026 Ar LinkedIn E-bost Ebrill 2026 dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>