Chwefror 2026


Mae ein hadroddiad Magu bellach wedi'i gyhoeddi!

Rydym yn falch o rannu ein hadroddiad cyntaf o’r prosiect ‘Gwariant Ataliol’.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar un o feysydd ‘Gwariant Ataliol’ y Cyngor – atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod – archwilio sut gall gwariant ataliol wneud gwahaniaeth i deuluoedd, ac adnabod pa dystiolaeth sydd ei angen i ddangos gwerth hirdymor.

Mae tua £1.17 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn yn RhCT ar atal gwahanu rhieni a'u babanod, gyda thua 55% o hyn yn cael ei gyfeirio at atal trydyddol: ymyrryd i atal problemau rhag gwaethygu neu ddigwydd eto.

Roedd ein hymchwil yn canolbwyntio ar Wasanaeth Magu – llwybr integredig ar gyfer unigolion beichiog a'u teuluoedd, gyda phrif nod o leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal.

Mae arwyddion cynnar yn dangos bod Magu yn helpu i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, gwella lles teuluoedd ac mae ganddo’r potensial i leihau costau hirdymor i’r Cyngor yn sylweddol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma


Rhannu Chwefror 2026 ar Facebook Rhannu Chwefror 2026 Ar Twitter Rhannu Chwefror 2026 Ar LinkedIn E-bost Chwefror 2026 dolen
<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>