• Aelod o'r tîm, Jennifer Mmbone Lagosa
    Jennifer Mmbone Lagosa
    Profiad Gwaith Ionawr 2025 @ CYBI
    Mae Jennifer yn fyfyrwraig ryngwladol sy'n astudio am radd BSc mewn Busnes a Rheoli ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn rheoli prosiectau yn seiliedig ar ei chefndir a'i gwybodaeth. Mae hi'n frwdfrydig, yn freuddwydiwr y tu hwnt i'r ffiniau ac yn angerddol am ddysgu a hunanddatblygiad. Ymunodd hi â’n cynllun interniaeth i ennill gwybodaeth a phrofiad yn rhan o’i lleoliad 10 wythnos. Yn ystod ei hamser rhydd, mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu, yn teithio i archwilio diwylliannau a phrofiadau newydd, ac yn ehangu ei safbwyntiau personol a phroffesiynol.
    Cuddio bio
  • Aelod o'r tîm, Shehab Bhuiyan
    Shehab Bhuiyan
    Profiad Gwaith Ionawr 2025 @ CYBI
    Mae Shehab yn fyfyriwr rhyngwladol ym Mhrifysgol De Cymru, yn astudio tuag at radd BA mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae ei waith academaidd yn canolbwyntio ar ddulliau rheoli pobl, ymddygiad sefydliadol, ac adnoddau dynol strategol. Mae Shehab yn gweithio fel intern yn rhan o garfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd.
    Cuddio bio
  • Aelod o'r tîm, Shawon Kabir
    Shawon Kabir
    Profiad Gwaith Ionawr 2025 @ CYBI
    Mae Shawon yn fyfyriwr Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'n ennill profiad ymarferol gyda charfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd. Yn rhan o’i waith cwrs, mae wedi datblygu sylfaen gref mewn meysydd AD allweddol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, cyfathrebu ar gyfer busnes ac ymddygiad sefydliadol.  Mae Shawon yn angerddol am Adnoddau Dynol a datblygu cymunedol. 
    Cuddio bio