Dysgu dros Ginio: Osgoi Ofn Data

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Mae’r sesiynau wedi’i dylunio i ddatblygu sgiliau ym mhob math o dystiolaeth yn y Gacen Dystiolaeth.
Drwy fynychu’r sesiwn hon, byddwch yn datblygu sgiliau:

Mae Gwneud Defnydd o Ddata: Osgoi Ofn Data yn gwrs rhagarweiniol, i adeiladu hyder, sydd wedi’i ddylunio i helpu pobl deimlo’n fwy cyfforddus, galluog a chadarnhaol am ddefnyddio data wrth wneud penderfyniadau bob dydd. Mae’r cwrs yn defnyddio iaith syml, enghreifftiau ymarferol a senarios perthnasol i symleiddio data a lleihau pryder.
Pwrpas y cwrs
Mae’r cwrs yn anelu i:
Leihau ofn sydd ynghlwm â data
Dangos nad oes rhaid i ddata fod yn gymhleth neu’n dechnegol i fod yn ddefnyddiol
Adeiladu hyder i gwestiynu data a’i ddefnyddio mewn ffordd addas
Annog dull cadarnhaol, cymesur a moesol wrth weithio gyda thystiolaeth
Yn hytrach na dysgu technegau dadansoddol, mae’r ffocws ar feddylfryd, hyder a defnydd ymarferol.
Gwybodaeth am y sesiwn
Mae hon yn sesiwn ar-lein ar Microsoft Teams. Gallwch ymuno drwy’r ddolen a ddarperir i chi – nid oes angen cyfrif Teams.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd y sesiwn yn para oddeutu 45 munud. Byddwch yn gallu gwrando, cymryd rhan a gofyn cwestiynau.
Iaith
Rhowch wybod i ni os hoffech sesiwn Gymraeg neu Saesneg.
Hygyrchedd
Rhowch wybod i ni os ydych chi angen cefnogaeth neu addasiadau er mwyn cymryd rhan.
Recordio
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio.
Gallwch weld ac archebu lle yn un o’n sesiynau isod.