Deall Diffyg Ymgysylltiad

Rhannu Deall Diffyg Ymgysylltiad ar Facebook Rhannu Deall Diffyg Ymgysylltiad Ar Twitter Rhannu Deall Diffyg Ymgysylltiad Ar LinkedIn E-bost Deall Diffyg Ymgysylltiad dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Am y prosiect yma

Mae Cyngor RhCT eisiau deall mwy am y bobl sy ddim yn defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd a Hamdden ar hyn o bryd. Er ein bod ni'n casglu gwybodaeth dda am ddefnyddwyr rheolaidd, rydyn ni'n gwybod llawer llai am drigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma yn anaml, o bryd i'w gilydd neu ddim o gwbl. Bwriad y prosiect yma yw llenwi'r bwlch yna gan wrando ar brofiadau trigolion â lleisiau sy'n cael eu clywed yn llai aml. Rydyn ni eisiau deall yr hyn sy'n atal pobl rhag defnyddio'r gwasanaethau hyn, beth allai'u gwneud nhw'n fwy apelgar, a sut rydyn ni'n gallu cynllunio gwasanaethau, llefydd a chyfleoedd sy'n cwrdd ag anghenion ein poblogaeth gyfan yn well.

Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd:

· defnyddio ein gwasanaethau'n aml neu o bryd i'w gilydd

· byth neu bron byth yn defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd neu Hamdden RhCT

· ddim yn gwybod llawer am yr hyn mae'r gwasanaethau yma yn eu cynnig

· wedi ystyried eu defnyddio nhw ond sy heb gymryd y cam nesaf

· ddim yn siŵr os bod y gwasanaethau yma ar eu cyfer 'nhw'

· yn teimlo bod y gwasanaethau yma ddim yn cwrdd â'u hanghenion

· yn rhan o gymuned nad yw eu profiadau yn cael eu casglu yn aml

Bydd eich barnau yn ein helpu ni i ddeall yr hyn sy'n atal pobl rhag ymgysylltu â'r hyn allai annog mwy o drigolion i gymryd rhan yn y dyfodol.

Beth wnewn ni

Fe wnewn ni gasglu ystod o brofiad byw, adborth, a thystiolaeth gan bobl ar draws RhCT er mwyn deall yn well:

Anghenion y boblogaeth ehangach i gefnogi gwaith mwy ffocysedig a gwell gynllunio gwasanaethau

Y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd a Hamdden

Yr hyn fyddai'n helpu pobl i ymgysylltu yn fwy hyderus - gan gynnwys ffactorau ymarferol, diwylliannol, cymdeithasol ac emosiynol

Sut mae'r gwasanaethau yma'n cyfrannu i gydlyniad cymunedol, lles ac ansawdd bywyd

Sut rydyn ni'n gallu mesur eu heffaith ehangach ar drigolion a chymunedau

Ein hamcan yw defnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwasanaethau sy'n fwy croesawgar, perthnasol a hygyrch i bawb.

Sut allwch chi gymryd rhan

Cwblhewch ein harolwg isod a rhannwch eich profiadau, hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi defnyddio'r gwasanaethau o'r blaen. Bydd eich barn yn ein helpu ni ddeall yr hyn sy angen newid a'r hyn fydd yn gwneud gwasanaethau yn fwy apelgar neu hygyrch.

Dim ond ychydig o funudau mae'r arolwg yn ei gymryd, a bydd popeth eich bod chi'n rhannu yn aros yn ddiogel a chyfrinachol.

  • Mae modd i chi chwarae rhan bwysig yn y prosiect hwn drwy gwblhau'r arolwg isod. Nid oes angen gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ayyb) i'r arolwg yma (os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi).  Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i geisio adnabod pwy ydych, felly peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol mewn unrhyw flychau testun rhydd.  Gweler y polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

    Os hoffech chi unrhyw gymorth wrth gwblhau'r arolwg, neu os hoffech chi gael yr arolwg mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost aton ni: CYBI@rctcbc.gov.uk(Dolen allanol)(Dolen allanol)

    Dim ond at ddibenion cefnogi'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhannu ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r CYBI yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth(Dolen allanol)(Dolen allanol) (dolen allanol).

    Cwblhau'r arolwg
    Rhannu Hamdden, Diwylliant & Llyfrgelloedd - Arolwg y Cyhoedd ar Facebook Rhannu Hamdden, Diwylliant & Llyfrgelloedd - Arolwg y Cyhoedd Ar Twitter Rhannu Hamdden, Diwylliant & Llyfrgelloedd - Arolwg y Cyhoedd Ar LinkedIn E-bost Hamdden, Diwylliant & Llyfrgelloedd - Arolwg y Cyhoedd dolen
Cyhoeddi: 05 Mar 2026, 09:11 AC