Cynorthwyo â gwaith recriwtio ein Swyddog Cyfathrebu Newydd
Cynorthwyo â gwaith recriwtio ein Swyddog Cyfathrebu Newydd
Beth yw hyn?
Dyma gyfle i fod yn rhan o'r panel cyfweld ar gyfer ein Swyddog Cyfathrebu newydd yn rhan o'r CYBI. Rydyn ni'n chwilio am Ymgynghorydd Profiad Byw i ymuno â'r panel a chynorthwyo wrth ofyn cwestiynau, asesu addasrwydd ymgeiswyr, a lleisio'u barn yn y broses llunio penderfyniadau.
Nifer yr Ymgynghorwyr Profiad Bywyd sydd eu hangen:
Mae angen 1 Ymgynghorydd Profiad Byw
Beth fydd rhaid i mi ei wneud?
Mynychu diwrnod/dyddiau'r cyfweliad (bydd mwy nac un diwrnod yn dibynnu ar nifer y ceisiadau) yn aelod o'r panel cyfweld
Cynorthwyo wrth ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr yn ystod y cyfweliad
Nodi adborth am bob ymgeisydd a'u hymatebion gan ddefnyddio templed cyfweliad y Cyngor
Gweithio gyda gweddill y panel er mwyn nodi'r ymgeisydd mwyaf addas ar gyfer y swydd.
Bydd y Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi i ymgymryd â'r cyfle yma.
Pa brofiad sydd ei angen arna i?
Gwybodaeth am sut mae modd i Swyddog Cyfathrebu helpu prosiect (e.e. drwy rannu negeseuon clir, helpu rhagor o bobl i ddeall y gwaith, a sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys)
A
Profiad o brosesau recriwtio cynhwysol a hygyrch (yn ymgeisydd neu yn gyflogwr) NEU
Profiad o ymgeisio am swydd NEU
Profiad o gynnal cyfweliadau neu gymryd rhan mewn cyfweliad
Am ba mor hir y bydd rhaid i mi fod ynghlwm â'r gwaith?
Bydd rhaid i chi allu mynychu'r 3 ddiwrnod cyfweliad sydd wedi'u nodi isod.
Bydd gofyn i chi fynychu uchafswm o ddau ddiwrnod os ydyn ni'n derbyn llai o geisiadau
(Os oes gyda chi gwestiynau am ddyddiadau/amseroedd y cyfarfodydd, cysylltwch â Shannon - CYBI@rctcbc.gov.uk)
Dyddiad | Amser |
16/10/25 | 9:00 – 17:00 |
22/10/25 | 9:00 – 17:00 |
24/10/25 | 9:00 – 17:00 |
Beth yw'r manteision i fi?
Fe gewch chi dalebau am eich cyfraniad ar gyfradd o £20 yr awr. Mae talebau'n cynnwys Amazon, Love2Shop a Chredydau Tempo Time
Byddwch chi'n cael eich cynorthwyo gan Garfan y CYBI drwy gydol eich cyfnod yn cyfranogi.
Byddwch chi'n derbyn y cyfle i ddylanwadu pwy fyddwn ni'n eu penodi i'r swydd.
Mae modd i chi ddatblygu eich sgiliau cyfweld drwy eich cyfranogiad uniongyrchol â darpariaeth y cyfweliadau
Pa gymorth sydd ar gael?
Fe gewch chi gymorth uniongyrchol gan garfan y CYBI i'ch helpu chi i ddeall eich rôl ac ateb eich cwestiynau
Bydd hefyd modd darparu hyfforddiant i'ch cefnogi yn y rôl
Mae cymorth ymarferol ar gael i'ch helpu i fynd i gyfarfodydd
Beth fydd y cam nesaf?
Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cyfle yma, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod
(Os bydd nifer o ffurflenni'n dod i law, bydd rhaid i ni gynnal proses ddethol. Byddwn ni'n rhannu'r manylion llawn gyda chi ar y pryd).
- Bydd aelod o garfan y CYBI yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am y camau nesaf
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni Mynegi Diddordeb:
Hanner dydd ar 7 Hydref
Os oes gyda chi ymholiadau am y cyfle, y talebau neu'r ffurflen Mynegi Diddordeb, cysylltu â ni.
