Cynllunio a chreu ar y cyd animeiddiad am dystiolaeth
Cynllunio a chreu ar y cyd animeiddiad am dystiolaeth
Beth yw hyn?
Mae’n cyfle i weithio fel rhan o dîm bach i helpu cyd-gynllunio animeiddiad byr sy’n esbonio Cacen Dystiolaeth y CYBI, beth yw tystiolaeth a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio.
Byddwch chi’n gweithio gyda animeiddiwr lleol i helpu creu’r fideo mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddeall yn hawdd beth yw tystiolaeth. Bydd y fideo yn cael ei wneud gan ddefnyddio animeiddio symud-a-stop, felly mae’r cyfle hwn yn rhoi siawns i chi gymryd rhan a chreu’r lluniau ar gyfer y fideo os hoffech chi!
Nifer yr Ymgynghorwyr Profiad Byw sydd eu hangen:
Mae angen 2 Ymgynghorwr Profiad Byw arnon ni
Beth fydd rhaid i mi ei wneud?
- Ymuno â gweithgor bach i helpu cyd-greu'r animeiddiad
Rhannu syniadau ac awgrymiadau am beth yw tystiolaeth a sut gall hyn cael ei gyfleu yn yr animeiddiad
Cymryd rhan yn cynllunio’r animeiddiad (rydyn ni’n defnyddio symud-a-stop felly gallech chi helpu darlunio/lliwio’r cynlluniau)
Gweithio fel tîm i wneud yr animeiddiad yn hawdd I'w ddeall (defnyddion iaith a delweddau hygyrch)
Gwrando ar syniadau pobl eraill a pharchu awgrymiadau
Bydd y Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi i ymgymryd â'r cyfle yma.
Pa brofiad sydd ei angen arna i?
- Dealltwriaeth sylfaenol o beth yw tystiolaeth A
Profiad o greu animeiddiadau neu fideos NEU
Profiad o weithio fel rhan o dîm ar brosiect creadigol NEU
Profiad o rannu gwybodaeth mewn ffordd hygyrch.
Am ba mor hir y bydd rhaid i mi fod ynghlwm â'r gwaith?
Bydd rhaid i chi allu mynychu cyfarfod cyntaf y gweithgor, wedi’i amlinellu isod:
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
07/10/25 | 3 – 4.30pm |
|
Bydd hyd at 5 cyfarfod arall yn cael eu cynnal rhwng Hydref ac Ionawr. Bydd dyddiadau yn cael eu trefnu gyda holl aelodau’r gweithgor.
(Os oes gyda chi gwestiynau am ddyddiadau/amseroedd y cyfarfodydd, cysylltwch â Shannon - CYBI@rctcbc.gov.uk)
Beth yw'r manteision i fi?
Fe gewch chi dalebau am eich cyfraniad ar gyfradd o £20 yr awr. Mae talebau'n cynnwys Amazon, Love2Shop a Chredydau Tempo Time
Byddwch chi'n cael eich cynorthwyo gan Garfan y CYBI drwy gydol eich cyfnod yn cyfranogi
Byddwch chi’n cael cyfle i weithio fel rhan o dîm creadigol a gweithio gydag animeiddiwr lleol
Rydych chi’n gallu datblygu sgiliau creadigol a llywio cyfeiriad creadigol yr animeiddiad
Bydd eich cyfraniad yn sicrhau bod yr animeiddiad yn hawdd I'w ddeall ac yn rhannu gwybodaeth am beth yw tystiolaeth
Bydd yr animeiddiad yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan gyda’ch enw chi wedi’i achredu
Pa gymorth sydd ar gael?
Fe gewch chi gymorth uniongyrchol gan garfan y CYBI i'ch helpu chi i ddeall eich rôl ac ateb eich cwestiynau
Mae cymorth ymarferol ar gael i'ch helpu i fynd i gyfarfodydd
Beth fydd y cam nesaf?
Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cyfle yma, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod.
(Os bydd nifer o ffurflenni'n dod i law, bydd rhaid i ni gynnal proses ddethol. Byddwn ni'n rhannu'r manylion llawn gyda chi ar y pryd).
Bydd aelod o garfan y CYBI yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am y camau nesaf
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni Mynegi Diddordeb:
12yp ar y 29ain Medi
Os oes gyda chi ymholiadau am y cyfle, y talebau neu'r ffurflen Mynegi Diddordeb, cysylltu â ni.
