Cyflwyniad - Tlodi Plant

Rhannu Cyflwyniad - Tlodi Plant ar Facebook Rhannu Cyflwyniad - Tlodi Plant Ar Twitter Rhannu Cyflwyniad - Tlodi Plant Ar LinkedIn E-bost Cyflwyniad - Tlodi Plant dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Yng Nghymru, mae 24% o blant yn byw mewn tlodi (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2025a). Mae cynnydd tuag at leddfu cyfraddau tlodi plant yn y DU wedi bod yn araf; roedd adroddiad gan UNICEF yn rhoi’r cynnydd a wnaed gan y DU i leihau tlodi plant yn y 37ain safle allan o 39 o wledydd ag incwm uchel (UNICEF, 2023). Mae Rhondda Cynon Taf, bwrdeistref sirol yn ne-ddwyrain Cymru, yn gyson wedi dangos cyfraddau tlodi plant uchel, gyda ffigyrau diweddar yn awgrymu bod 27.2% o blant dan 16 oed yn byw mewn tlodi cymharol (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2025a).

Ym mis Rhagfyr 2024, fe wnaeth Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ffurfio Gweithgor Tlodi Plant. Gofynnwyd i Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT gynorthwyo’r Gweithgor i:

  • archwilio’r agweddau ar dlodi plant sydd o fewn cylch gwaith y Cyngor i ymdrin â hwy; a
  • datblygu argymhellion a oleuwyd gan dystiolaeth y gallai’r Cyngor eu rhoi ar waith i dorri’r cylch tlodi ar gyfer plant a theuluoedd yn RhCT.

I wneud hyn, bu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn cydweithio’n agos gyda’r Gweithgor i adnabod cwestiynau ymchwil a bu’n eu cynorthwyo i gyrchu, dehongli a defnyddio’r chwe math gwahanol o dystiolaeth o ‘gacen dystiolaeth’ y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (tudalen ii) i ateb y cwestiynau ymchwil hyn. I sicrhau bod profiad byw yn cael ei integreiddio fel rhan o’r broses, fe wnaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT gynorthwyo mudiadau’r sector gwirfoddol a phobl â phrofiad personol o dlodi i ymuno â’r gweithgor. Am y tro cyntaf, roedd gan aelodau’r cyhoedd hawliau pleidleisio llawn ar Weithgor Trosolwg a Chraffu. Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r broses o gefnogi’r Gweithgor a’r dystiolaeth a adolygwyd ganddynt i wneud eu 18 argymhelliad (gweler Atodiad 4).

Y dull a’r cwestiynau ymchwil

Defnyddiwyd cyfarfodydd cychwynnol gyda’r Gweithgor i gytuno ar Gylch Gorchwyl a phennu’r maes ffocws, o ystyried maint pwnc tlodi plant. Fe wnaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, un o’r partneriaid sy’n cydweithio gyda’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, hwyluso gweithdy i adnabod meysydd o ddiddordeb o fewn y Gweithgor, yn dilyn cyflwyniad ar eu rhaglen waith ar warthnod tlodi (gweler Morgan, Coles-Riley a Hill-Dixon, 2024). Wedyn, rhoddwyd y cyfle i’r Aelodau bleidleisio ar eu meysydd o ddiddordeb. Fe arweiniodd hyn at y cwestiwn ymchwil trosfwaol cytunedig canlynol:

Sut allwn ni weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau’n fwy croesawus a grymusol i blant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan dlodi?

Fe wnaeth y cwestiwn hwn ein galluogi i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Meysydd lle mae gan y Cyngor alluogedd i weithredu
  • Sut y gallai’r Cyngor newid sut y mae’n gweithio gyda phartneriaid cymunedol, yn ogystal â gwneud newidiadau i wasanaethau a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor; a
  • Sut y gellid lleihau gwarthnod, yn ogystal â’i gwneud hi’n haws i drigolion gael mynediad at wasanaethau.

Wedyn fe ddatblygom ni is-gwestiynau ymchwil i rannu’r cwestiwn trosfwaol yn rannau llai. Roedd pob is-gwestiwn yn ein galluogi i ddefnyddio a chyflwyno amrywiaeth eang o ddata a thystiolaeth i Aelodau. I ddechrau, fe wnaeth y rhain gynorthwyo Aelodau i gyrchu a dehongli tystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol â ffocws eang. O ystyried cwmpas sylweddol y pwnc, gofynnwyd wedyn i’r Aelodau benderfynu pa feysydd oedd bwysicaf a mwyaf perthnasol i RhCT a’i drigolion. Roedd is-gwestiynau dilynol yn canolbwyntio wedyn ar gynorthwyo Aelodau i gyrchu a dehongli tystiolaeth fwy lleol am gyd-destun a phrofiadau yn RhCT. Roedd y dull hwn yn cynnwys rhai pwyntiau penderfynu lle defnyddiodd Aelodau dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt i adnabod meysydd ffocws penodol a hidlo tystiolaeth genedlaethol eang i ganolbwyntio ar ddata mwy lleol. Ar y cyfan, roedd y broses yn golygu bod Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT wedi darparu amryw ffynonellau gwybodaeth ar draws ein Teisen Dystiolaeth ar gyfer Aelodau, gyda hyn yn darparu sail iddynt ddatblygu argymhellion pendant a seiliedig-ar-wybodaeth a allai wneud gwahaniaeth i drigolion yn RhCT.

Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu ein bod yn gyntaf wedi cynnal adolygiad cwmpasu o lenyddiaeth academaidd a llwyd i ddeall pa wasanaethau oedd yn cael yr effaith fwyaf ar dlodi, y rhwystrau i’r gwasanaethau hynny, a’r hyn sy’n gweithio i gynyddu cyfraddau derbyn (CY1-3). Wedyn fe wnaethom adolygu data sefydliadol a data ar y boblogaeth i ddeall yn well pa wasanaethau oedd yn cael eu darparu yn RhCT ar y pryd, a chyfraddau derbyn y gwasanaethau hyn (C4-5). Roedd y ddau gwestiwn olaf (C6-7) yn ymwneud â’r rhwystrau penodol i gael mynediad at wasanaethau yn RhCT, a’r cyfleoedd ar gyfer newid yn lleol i wneud gwasanaethau’n fwy croesawus a grymusol. Mae Tabl 1 isod yn darparu trosolwg o’r cwestiynau ymchwil, dulliau’r ymchwil a’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd.

Tabl 1: Dulliau a thystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer pob is-gwestiwn ymchwil

Cwestiwn Ymchwil Trosfwaol: Sut allwn ni weithio gyda chymunedau i wneud gwasanaethau’n fwy croesawus a grymusol i blant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan dlodi?

Is-Gwestiwn Ymchwil

Dulliau

Tystiolaeth

1. Pa wasanaethau sydd bwysicaf i leddfu tlodi?

  • Sgyrsiau gydag arbenigwyr academaidd
  • Adolygiad cwmpasu
  • Tystiolaeth academaidd
  • Profiad byw (o dystiolaeth academaidd)

2. Beth yw’r rhwystrau i gael mynediad at y gwasanaethau pwysicaf?

3. Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi?

  • Data mesur effaith

4. Pa rai o’r gwasanaethau pwysicaf ar gyfer lleddfu tlodi a ddarperir yn RhCT?

  • Casglu a dadansoddi data
  • Sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol a chynrychiolwyr â phrofiad personol
  • Data sefydliadol
  • Gwybodaeth broffesiynol

5. Beth yw cyfradd derbyn y gwasanaethau hyn yn RhCT?

  • Casglu a dadansoddi data
  • Sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol
  • Data ar y boblogaeth
  • Data sefydliadol
  • Gwybodaeth broffesiynol

6. Beth yw’r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau pwysig ar gyfer lleddfu tlodi a brofir gan blant a theuluoedd ar incwm isel yn RhCT?

  • Arolwg
  • Gweithdai gyda mudiadau yn y sector gwirfoddol
  • Cyfweliadau a grwpiau ffocws ansoddol
  • Paneli tystiolaeth
  • Gwybodaeth broffesiynol
  • Profiad byw

7. Beth fyddai’n gweithio i wneud y gwasanaethau pwysicaf ar gyfer lleddfu tlodi’n fwy croesawus a grymusol?

Darllenwch yr adran nesaf: Cwestiynau adolygu 1 a 2: Pa wasanaethau sydd bwysicaf i leddfu tlodi a beth yw’r rhwystrau i gael mynediad?

Diweddaru: 18 Mar 2026, 02:05 PM