Cwestiynau adolygu 1 a 2: Pa wasanaethau sydd bwysicaf i leddfu tlodi a beth yw’r rhwystrau i gael mynediad?

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Roedd ein dau gwestiwn cyntaf yn ceisio archwilio tystiolaeth genedlaethol am y gwasanaethau pwysicaf ar gyfer lleddfu tlodi, a’r rhwystrau i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, er mwyn helpu i gulhau ffocws ymdrechion y Gweithgor a sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl. Fe gynhaliom ni adolygiad cwmpasu gan ddefnyddio tystiolaeth academaidd ar lefel y DU i ateb y cwestiynau adolygu hyn.
Ar gyfer y gwaith hwn, fe ddefnyddiom ni ddiffiniad eang o dlodi sy’n mynd y tu hwnt i incwm isel a phwysau ariannol i gynnwys allgáu cymdeithasol. Mae hyn yn cyd-fynd â diffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi plant, sef:
“cyflwr hirdymor o beidio â chael digon o adnoddau i fforddio bwyd, amodau byw neu amwynderau rhesymol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau (fel mynediad i gymdogaethau atyniadol a mannau agored) a gymerir yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas.” (Llywodraeth Cymru, 2024a)
Felly, mae angen ystod o bolisïau a gwasanaethau i ymdrin â’r ffactorau amlddimensiwn sy’n cyfrannu at dlodi. Mae Bucelli a McKnight (2022) yn disgrifio deuddeg o feysydd polisi allweddol fel rhai sy’n bwysig i leihau tlodi ac allgáu cymdeithasol:
| 1. | Diffyg diogeledd bwyd | 2. | Derbyn trosglwyddiadau arian parod |
| 3. | Dyled aelwydydd | 4. | Cyflenwad o dai fforddiadwy |
| 5. | Tlodi tanwydd | 6. | Allgáu digidol |
| 7. | Anfantais cludiant | 8. | Gwasanaethau ieuenctid |
| 9. | Camu ymlaen yn y gwaith | 10. | Addysg a gofal mewn plentyndod cynnar |
| 11. | Addysg bellach a sgiliau | 12. | Amgylchedd y gymdogaeth |
Mae nifer o’r meysydd polisi hyn yn gydgysylltiedig (er enghraifft dyled aelwydydd; tlodi tanwydd; diffyg diogeledd bwyd; anfantais cludiant; cyflenwad o dai fforddiadwy) ac fe all fod angen strategaethau ehangach ar gam cynharach i ymdrin â’r ffactorau sy’n cyfrannu at dlodi, megis incwm isel. Felly gall fod angen i wasanaethau sy’n amcanu at leddfu tlodi hybu cydlyniad â gwasanaethau eraill neu ddarparu cymorth wedi’i amrywiaethu ar draws nifer o feysydd polisi. Mae llwyddo i leddfu tlodi o fewn y gwahanol feysydd polisi hyn yn ddibynnol ar weithredu lleol; canfuwyd fod cyd-ddylunio polisïau a gwasanaethau gyda dinasyddion yn gwella llwyddiant o ran adnabod a diwallu anghenion pobl.
Gwasanaethau i leddfu tlodi
Canfu ein hadolygiad o lenyddiaeth ar wasanaethau sydd bwysicaf i leddfu tlodi eu bod yn cyd-fynd i raddau helaeth â’r rhestr o feysydd polisi allweddol a grybwyllir uchod. Isod, rydym yn disgrifio sut y gall gwahanol feysydd gwasanaeth helpu i leddfu tlodi, yn ogystal â’r rhwystrau allweddol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Prydau Ysgol Am Ddim
Mae darparu prydau ysgol am ddim yn strategaeth effeithiol i ymdrin â diffyg diogeledd bwyd ymhlith teuluoedd. Yn 2022, roedd 20% o’r oedolion yng Nghymru’n profi diffyg diogeledd bwyd (Trussell, 2023). Mae prydau ysgol am ddim wedi cael clod am wella maethiad, gwella ymgysylltiad mewn ysgolion a lleihau pwysau ariannol. Er gwaethaf y manteision hyn, mae gwarthnod yn dal i fod yn rhwystr i’w derbyn. Mae rhai teuluoedd yn teimlo’n anghysurus yn cael mynediad at brydau ysgol am ddim gan ddewis banciau bwyd yn lle hynny (Morgan, Coles-Riley a Hill-Dixon, 2024). Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru wedi’i fwriadu i fynd i’r afael â hyn; fodd bynnag, cymysg yw’r dystiolaeth pa un a yw darparu prydau ysgol am ddim i bawb yn lleihau’r gwarthnod (Price, Richardson a Tilley, 2024).
Banciau Bwyd
Mae gan fanciau bwyd rôl bwysig o ran mynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd, er bod mynediad yn dal i fod yn her i lawer o unigolion. Yn 2022/23, fe wnaeth 3% o holl oedolion y DU ddefnyddio banc bwyd (Francis-Devine, 2024). Er bod banciau bwyd yn rhoi cymorth hanfodol, mae nifer o rwystrau’n cyfyngu ar eu hygyrchedd. Gall gwarthnod a chywilydd canfyddedig atal unigolion rhag ceisio cymorth. Mae mynediad ffisegol yn rhwystr hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae opsiynau cludiant yn gyfyngedig a lle gall lleoliadau banciau bwyd fod yn wasgaredig.
Cost y Diwrnod Ysgol
Gall cost cyfranogi mewn bywyd ysgol gyfrannu at deimladau o arwahanrwydd a lleihau ymgysylltiad ar gyfer plant o deuluoedd ar incwm isel. Gall plant y mae eu teuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio treuliau sy’n gysylltiedig â’r ysgol fel gwisgoedd ysgol, gwibdeithiau a gweithgareddau allgyrsiol deimlo wedi’u hynysu a chyfranogi llai mewn addysg. Er y gall rhai plant gelu eu sefyllfa ariannol i osgoi gwarthnod, gall y costau ychwanegol hyn dynnu sylw atynt. Enghraifft o hyn yw ansawdd gwisg ysgol plentyn sy’n gallu bod yn arwydd gweledol o incwm yr aelwyd (Morgan, Coles-Riley a Hill-Dixon, 2024). Gall polisïau sy’n cyfyngu ar nifer y cyflenwyr gwisgoedd ysgol sydd ar gael gynyddu costau, gan waethygu’r mater i deuluoedd ar incwm isel. Hefyd, gall mentrau mewn ysgolion sydd wedi’u bwriadu i gefnogi disgyblion difreintiedig warthnodi’n anfwriadol.
Gwasanaethau Ieuenctid
Mae gwasanaethau ieuenctid o gymorth i ymyrryd yn gynnar ac yn helpu i leihau’r risg o allgáu cymdeithasol ymhlith pobl ifanc. Gall gwasanaethau ieuenctid helpu i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi a hybu datblygiad cadarnhaol. Mae eu heffeithiolrwydd yn aml yn dibynnu ar sut y cânt eu darparu. Pan ydynt wedi’u dylunio’n dda ac yn hygyrch, mae gwasanaethau ieuenctid yn darparu mannau diogel, arweiniad a chyfleoedd ar gyfer twf personol. Fodd bynnag, gall nifer o rwystrau gyfyngu ar fynediad. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliad ffisegol gwasanaethau, diffyg allgymorth a chau darpariaeth leol.
Tlodi Tanwydd
Ceir cysylltiad agos rhwng tlodi tanwydd a thlodi plant ac fe all gael effeithiau sylweddol ar lesiant a datblygiad plant. Yn 2020, fe wnaeth un ymhob pum aelwyd yn y DU â phlant dibynnol brofi tlodi tanwydd (Lee et al., 2022). Mae byw mewn amodau oer wedi cael ei gysylltu â deilliannau iechyd gwael a chyrhaeddiad addysgol is. Mae cynlluniau sydd wedi’u bwriadu i leddfu tlodi tanwydd yn aml yn dioddef gan ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a meini prawf cymhwystra cyfyngol, gan atal teuluoedd rhag cael mynediad at gymorth.
Nawdd Cymdeithasol a Dyled Aelwydydd
Mae nawdd cymdeithasol yn rhoi cymorth i aelodau agored i niwed o gymdeithas a theuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol. Fodd bynnag, mae mynediad yn dal i fod yn anghyfartal. Gall rhwystrau megis allgáu digidol, ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r cymorth sydd ar gael ac anhawster ymdrin â’r system budd-daliadau atal mynediad at nawdd cymdeithasol. Mae ymchwil hefyd wedi amlygu bod y broses o hawlio budd-daliadau lles yn gallu bod yn ddiraddiol oherwydd sut y cânt eu darparu, y cyfrannir ato gan arferion megis gosod sancsiynau (Morgan, Coles-Riley a Hill-Dixon, 2024). Gall cymorth gan Cyngor Ar Bopeth a mudiadau’r sector gwirfoddol helpu unigolion i reoli ansefydlogrwydd ariannol a dyled. Fodd bynnag, mae allgáu cymdeithasol yn dal i gyfyngu ar fynediad at y gwasanaethau hyn.
Gwasanaethau Plentyndod Cynnar
Mae gwasanaethau plentyndod cynnar yn cyfrannu at leihau effeithiau tlodi ar blant a theuluoedd (Nevin a Jacques, 2024). Gall y gwasanaethau hyn fod yr unig fath o gymorth proffesiynol cyn oedran ysgol a gallant fod â rôl bwysig o ran ymyrryd yn gynnar a datblygiad cynnar. Fodd bynnag, gall rhwystrau rhyngbersonol a strwythurol megis diffyg ymddiriedaeth, allgymorth cyfyngedig a chau gwasanaethau gyfyngu ar fynediad.
Gwasanaethau Iechyd
Ceir cysylltiad cryf rhwng tlodi ar y naill law a deilliannau iechyd gwaeth a llai o fynediad at ofal iechyd ar y llaw arall. Mae unigolion sy’n byw mewn tlodi’n fwy tebygol o brofi deilliannau beichiogrwydd gwael ac iechyd anffafriol (Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, 2023). Mae gofal iechyd yn aml yn anos cael mynediad ato i’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Gall gwarthnod ac ofn ymwneud gan y gwasanaethau cymdeithasol atal rhai unigolion rhag ceisio cymorth hefyd. Yn ogystal â hynny, gall amseroedd aros hir, yn enwedig ar gyfer cymorth iechyd meddwl, waethygu’r heriau a wynebir.
Cludiant Cyhoeddus a Gwasanaethau Cymorth Lleol
Mae gwasanaethau fforddiadwy a hygyrch yn lleihau anghydraddoldeb ac yn gwella mynediad at gyfleoedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cysylltu unigolion â chyflogaeth, addysg a chymorth hanfodol (Gates et al., 2019). Mae opsiynau cludiant cyfyngedig mewn rhai ardaloedd, a disodli cymorth ffisegol â gwasanaethau a ddarperir yn ddigidol, yn gallu creu rhwystrau, yn enwedig i’r rhai sydd hefyd yn profi allgáu digidol.
Mannau Awyr Agored
Mae mannau awyr agored diogel a hygyrch yn cyfrannu at iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwell, gan hybu cynhwysiant cymdeithasol. Fodd bynnag, gall materion megis fandaliaeth, cynnal a chadw gwael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol leihau defnyddioldeb mannau awyr agored, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
Cyfrifoldeb y Cyngor am wasanaethau
Mae Tabl 2 yn crynhoi rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’i gyfrifoldeb am y gwasanaethau a ddisgrifir uchod, a’r rhwystrau allweddol sy’n effeithio ar fynediad at y gwasanaethau hynny. Mae gwasanaethau wedi’u categoreiddio mewn tri grŵp:
- Cyfrifoldeb craidd, lle mae gan y Cyngor y galluedd mwyaf a chyfrifoldeb uniongyrchol;
- Cyfrifoldeb gweinyddol, lle mae ganddo rôl i siapio’r modd y rhoddir polisi neu gyllid cenedlaethol ar waith yn lleol; a
- Chyfrifoldeb mewn partneriaeth, lle mae ei ymwneud yn gyfyngedig.
Ceir rhagor o wybodaeth am rôl y Cyngor o ran dylunio, darparu neu gomisiynu’r gwasanaethau hyn yn Atodiad 1.
Mae’n bwysig nodi bod y rhwystrau a amlygir yn adlewyrchu’r dystiolaeth a ganfuom mewn llenyddiaeth ar lefel genedlaethol ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu profiad uniongyrchol o wasanaethau yn RhCT. Fodd bynnag, ceir cyswllt eglur rhwng rôl a chyfrifoldeb y Cyngor a’r math o wasanaethau ac ymyriadau a’u ffocws. Mae’r gwahaniaeth hwn yn arbennig o amlwg wrth adolygu’r gwahanol fathau o rwystrau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn. Roedd dau brif grŵp o wasanaethau ac ymyriadau:
- Ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant: Gwasanaethau sy’n blaenoriaethu anghenion a buddiannau plant ac a all weithredu fel ‘llwybrau allan o dlodi’ (Bristow et al., 2022). Mae hyn yn cynnwys cynyddu cyfranogiad mewn addysg, gwasanaethau plentyndod cynnar, gwasanaethau ieuenctid, hamdden a chwarae, a mannau awyr agored. Mae’r gwasanaethau hyn yn nodweddiadol yn rhai y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb craidd amdanynt ac yn gysylltiedig yn bennaf â rhwystrau strwythurol, neu rwystrau sy’n ymwneud â hygyrchedd ffisegol.
- Cymorth ymarferol ac ariannol. Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar roi cymorth i deuluoedd a sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Gall hyn gynnwys prydau ysgol am ddim, nawdd cymdeithasol, cyngor ar ddyledion a thai, grantiau sy’n gysylltiedig â chost y diwrnod ysgol a thlodi tanwydd, yn ogystal â thariffiau cymdeithasol a chasglu ôl-ddyledion y dreth gyngor. Mae gan y Cyngor yn nodweddiadol gyfrifoldeb gweinyddol neu gyfrifoldeb mewn partneriaeth am y gwasanaethau hyn, sy'n bennaf yn rhai â rhwystrau sy'n ymwneud â gwarthnod, meini prawf cymhwystra, allgáu digidol ac ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth.
Tabl 2: Cyfrifoldeb y Cyngor a Rhwystrau Allweddol i Gael Mynediad at Wasanaethau
| Gwasanaeth | Rhwystrau Strwythurol | Hygyrchedd Ffisegol | Ymwybyddiaeth o’r Ddarpariaeth | Gwarthnod mewn Mynediad | Meini Prawf Cymhwystra | Allgáu Digidol | Amseroedd Aros |
| Cyfrifoldeb Craidd | |||||||
| Cost y Diwrnod Ysgol | ✔ | ||||||
| Gwasanaethau Ieuenctid | ✔ | ✔ | |||||
| Gwasanaethau Plentyndod Cynnar | ✔ | ✔ | |||||
| Mannau Awyr Agored | ✔ | ✔ | |||||
| Cyfrifoldeb Gweinyddol | |||||||
| Prydau Ysgol Am Ddim | ✔ | ||||||
| Tlodi Tanwydd | ✔ | ✔ | |||||
| Cludiant Cyhoeddus a Gwasanaethau Cymorth Lleol | ✔ | ✔ | |||||
| Cyfrifoldeb mewn Partneriaeth | |||||||
| Banciau Bwyd | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |||
| Nawdd Cymdeithasol a Dyled Aelwydydd | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |||
| Gwasanaethau Iechyd | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |||
Pwyntiau Allweddol
- Fe adnabuwyd 12 maes polisi allweddol fel rhai sy’n allweddol i leihau tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y DU; fe adnabuwyd 10 gwasanaeth sy’n cysylltu â’r meysydd polisi hyn
- Canfu adolygiad o’r gwasanaethau hyn yn RhCT fod gan y Cyngor gymysgedd o gyfrifoldebau craidd, gweinyddol ac mewn partneriaeth am ddarparu’r gwasanaethau
- Roedd rhwystrau sy’n gysylltiedig â chael mynediad at y gwasanaethau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar rôl a chyfrifoldeb y Cyngor:
- Mae rhwystrau i wasanaethau lle mae gan y Cyngor gyfrifoldeb craidd yn bennaf yn rhai strwythurol neu’n gysylltiedig â hygyrchedd ffisegol.
- Mae rhwystrau i wasanaethau lle mae gan y Cyngor gyfrifoldeb gweinyddol ac mewn partneriaeth yn ymwneud yn bennaf â gwarthnod, meini prawf cymhwystra, allgáu digidol ac ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth.
- Roedd rôl a chyfrifoldeb y Cyngor yn gysylltiedig hefyd â’r math o ymyriad a’i ffocws, gydag ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant yn fwy tebygol o fod yn rhai y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb craidd amdanynt a gwasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn fwy tebygol o fod yn cael eu gweinyddu mewn partneriaeth