Cwestiwn adolygu 3: Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi?

Rhannu Cwestiwn adolygu 3: Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi? ar Facebook Rhannu Cwestiwn adolygu 3: Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi? Ar Twitter Rhannu Cwestiwn adolygu 3: Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi? Ar LinkedIn E-bost Cwestiwn adolygu 3: Beth sy’n gweithio i gynyddu mynediad/cyfraddau derbyn ar gyfer pobl mewn tlodi? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Gan ddefnyddio’r rhestr o wasanaethau a adnabuwyd yn y llenyddiaeth fel y rhai sydd bwysicaf ar gyfer lleddfu tlodi, fe wnaethom adolygu ymyriadau sydd wedi’u bwriadu i gynyddu cyfraddau derbyn y gwasanaethau hyn i adnabod ffactorau allweddol sy’n helpu i gynyddu cyfraddau derbyn ac yn gwella mynediad ar gyfer pobl mewn tlodi. Rydym yn trefnu ein canfyddiadau yn ôl y ddau brif grŵp o ymyriadau a ddisgrifiwyd yn yr adran flaenorol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant, a chymorth ymarferol ac ariannol.

Ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant

Fe wnaethom archwilio llenyddiaeth academaidd a llwyd, gan gynnwys astudiaethau achos ar ymyriadau effeithiol, i adnabod ffactorau allweddol sy’n helpu i gynyddu mynediad at ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant a’u cyfraddau derbyn gan gynnwys cynlluniau mentora, rhaglenni cyfoethogi mewn ysgolion, gweithgareddau allgyrsiol, gwasanaethau hamdden a gwasanaethau ieuenctid. Canfuom dri dull allweddol a all alluogi mwy o gyfranogiad:

  • Dileu rhwystrau ariannol;
  • Darparu ystod o fathau o gymorth a gweithgareddau; a hefyd
  • Cydweithio rhwng cyfranwyr lleol i feithrin ymddiriedaeth.

Dileu rhwystrau ariannol

Mae gan gyfranogiad mewn lleoliadau cymunedol a gweithgareddau allgyrsiol rôl bwysig o ran cefnogi datblygiad pobl ifanc. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau tîm a chymdeithasol, sy’n cyfrannu at dwf personol a llwyddiant yn y dyfodol. Dengys ymchwil fod sgiliau a enillir trwy gyfranogiad yn gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol gwell, ymwneud cryfach mewn cymunedau lleol a mwy o symudedd cymdeithasol a rhagolygon gwaith gwell (Edwards et al., 2015; Y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, 2019).

Fodd bynnag, mae cyfranogiad o’r fath yn aml yn gysylltiedig â chost ychwanegol. Gall y rhain fod yn gostau uniongyrchol, fel offer neu dâl mynediad, neu’n gostau ‘cudd’ anuniongyrchol fel cludiant (SQW, 2025). Gall costau cudd megis cludiant gyfrannu hefyd at rwystrau i hygyrchedd ffisegol, gan y gall plant orfod dibynnu ar aelodau’r teulu neu gludiant cyhoeddus i fynychu, a hynny ddim wastad yn bosibl. Mae costau cudd eraill yn cynnwys cynhaliaeth, a gweithgareddau fel rafflau neu stondinau o fewn gweithgareddau rhad-ac-am-ddim a ddefnyddir i godi arian, y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu amdanynt (McHardy, 2015; SQW, 2025).

Mae dileu rhwystrau ariannol yn hollbwysig i wella mynediad at y gwasanaethau hyn. Mewn un awdurdod lleol yn Lloegr, fe wnaeth cael gwared ar ffioedd defnyddwyr ar y cyd ag ymdrechion allgymorth a marchnata wedi’u targedu arwain at gynnydd o 64% mewn presenoldeb mewn sesiynau nofio a champfa dros gyfnod o chwe blynedd (Higgerson et al., 2018). Canfu astudiaeth ddiweddarach fod mynediad am ddim at byllau nofio yn ystod gwyliau’r haf mewn ardaloedd amddifadus wedi arwain at gynnydd o 6% mewn cyfranogiad gan blant, gyda 33 o nofiadau ychwanegol am bob 100 o blant (Higgerson et al., 2019). Amlygodd tystiolaeth o’r Alban hefyd y gwerth a roddir ar weithgareddau am ddim gan rieni sy’n byw ar incwm isel mewn un awdurdod lleol (McHardy, 2015). Mae hyn yn dangos sut y gall darpariaeth rad-ac-am-ddim neu â chymhorthdal helpu i leddfu rhwystrau ariannol i gael mynediad at wasanaethau ac arwain at fwy o ymgysylltu.

Darparu ystod o fathau o gymorth a gweithgareddau

Mae angen i ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant gael eu dylunio ar sail anghenion a dewisiadau’r rhai sy’n cyfranogi. Mae hyn yn cynnwys darparu gweithgareddau sy’n adlewyrchu diddordebau bechgyn a merched, a chynnig gweithgareddau addas i ddechreuwyr i wella hygyrchedd i’r rhai a all fod â diffyg hyder yn eu haddasrwydd (Y Gymdeithas Llywodraeth Leol, 2024a). Gall gweithgareddau diwylliant-benodol, megis dosbarthiadau dawns, helpu i wella cyfranogiad ymhlith grwpiau lleiafrifol hefyd, sy’n nodweddiadol â lefelau ymgysylltu is (Y Gymdeithas Llywodraeth Leol, 2024a). Yn yr un modd, gall chwaraeon sy’n aml yn cael eu hystyried yn weithgareddau unigol gael eu trefnu mewn lleoliadau grŵp i ddarparu lle i bobl ifanc gymdeithasu (Edwards et al., 2015).

Gall rhaglenni cyfoethogi yn ystod gwyliau ysgol helpu i wella presenoldeb yn yr ysgol hefyd, gyda gwerthusiad o Gynllun Bwyd a Hwyl Llywodraeth Cymru’n canfod gwelliant mewn presenoldeb o 7.3% yn dilyn rhoi rhaglen gyfoethogi ar waith mewn un ysgol yng Ngogledd Cymru (Gdula a Williams, 2025). Mae’r rhaglen hon yn darparu dau bryd y dydd i blant yn ogystal â gweithgareddau gan gynnwys chwaraeon, coginio, celfyddydau creadigol a cherddoriaeth (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, 2025). Yn yr un modd, canfu ymchwil gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol fod clwb brecwast am ddim i bawb, a ddarparwyd mewn 106 o ysgolion cynradd yn Lloegr, wedi arwain at gynnydd o ddau fis yn ychwanegol yng nghyrhaeddiad plant yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 (Van Poortvliet, Axford a Lloyd, 2018). Mae’r cyswllt rhwng gweithgareddau cyfoethogi a phresenoldeb yn arbennig o gryf ymhlith plant o gefndiroedd difreintiedig. Mae plant sy’n byw mewn tlodi’n fwy tebygol o fod â phresenoldeb is a llai o fynediad at gyfleoedd cyfoethogi, a all gyfyngu ar eu datblygiad addysgol a chymdeithasol (Centre for Young Lives et al., 2025).

Mae cyfuno bwyd â gweithgareddau hefyd yn gallu helpu i gael gwared ar y gwarthnod ynglŷn â chael mynediad at y math yma o gymorth. Canfu rhaglen yn Dundee, a oedd wedi’i bwriadu i fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd yn ystod gwyliau’r haf, fod cyfuno prydau am ddim â gweithgareddau am ddim yn helpu i normaleiddio darparu bwyd a chyfranogiad mewn gweithgareddau a chael gwared ar y gwarthnod sy’n gysylltiedig â hynny (Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-a).

Cydweithio rhwng cyfranwyr lleol i feithrin ymddiriedaeth

Mae darparwr y gweithgaredd a’r lleoliad yn effeithio ar ymgysylltiad â gweithgareddau hefyd. Mae gweithgareddau a gynhelir mewn lleoliadau cyfarwydd a hygyrch iawn yn arwain at gyfraddau cyfranogi uwch ymhlith plant a phobl ifanc (Edwards et al., 2015). Ar ben hynny, datgelodd cyfweliadau gyda phobl ifanc mewn pum ardal ddifreintiedig yng Nghymru a Lloegr fod cyfranogiad pobl ifanc mewn gweithgareddau allgyrsiol yn dibynnu ar ymddiriedaeth yn y darparwr, a theimlo’n ddiogel wrth fynychu (Edwards et al., 2015).

Mae dull cydgysylltiedig yn hanfodol i ymgysylltu ag ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant. Mae trefnu bod gweithgareddau cyfoethogi ar gael yn eang a meithrin cydweithio cryf rhwng ysgolion, sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt a phartneriaid cymunedol yn gallu gwella cyfraddau presenoldeb, datblygiad personol a chyrhaeddiad addysgol. Dangoswyd fod cydweithio rhwng ysgolion a darparwyr lleol yn cynyddu cyfranogiad: maent hefyd yn gallu adnabod pobl ifanc sy’n ymgysylltu’n llai a datblygu strategaethau wedi’u teilwra i gefnogi eu cyfranogiad (Edwards et al. 2015; O’Donnell, 2019; Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-a). Gall hyn sicrhau bod ymyriadau’n ymatebol i angen cymunedol.

Mae cynnwys gwirfoddolwyr a datblygu cynlluniau mentora yn gallu hybu cyfranogiad hefyd. Mae cynlluniau mentora’n galluogi pobl ifanc i weithredu fel modelau rôl, gan helpu i feithrin hyder a’u hannog i gyfranogi, yn enwedig ar gyfer y rhai a allai deimlo’u bod yn cael eu hallgáu (Y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, 2019). Canfuwyd fod rhaglenni mentoriaid presenoldeb yn effeithiol ar gyfer cynyddu presenoldeb yn yr ysgol. Fe wnaeth peilot y Watchtower Project yn Lloegr gyflwyno mentoriaid presenoldeb a fu’n gweithio gyda myfyrwyr dros gyfnod o 20 wythnos i adnabod a goresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd: o fewn blwyddyn, dangosodd 50% o’r myfyrwyr a gafodd eu mentora bresenoldeb gwell (York Consulting LLP, 2024). Fe helpodd y rhaglen i gryfhau perthnasoedd rhwng ysgolion a theuluoedd hefyd. Un o’r ffactorau allweddol yn ei llwyddiant oedd annibyniaeth y mentoriaid ar y system ysgolion, a helpodd i feithrin ymddiriedaeth ac a anogodd y cyfranogwyr i gyfathrebu’n agored heb ofni cael eu barnu (York Consulting LLP, 2024).

Yn olaf, mae allgymorth a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod cynlluniau wedi’u targedu yn cyrraedd y bobl ifanc y maent wedi’u bwriadu ar eu cyfer. Mae hyrwyddo gweithgareddau mewn cymunedau’n helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau gwarthnod, yn enwedig pan fo negeseuon yn cael eu cyfleu gan ffigyrau lleol yr ymddiriedir ynddynt, sydd hefyd yn gallu meithrin ymddiriedaeth a sicrhau ymgysylltiad parhaus â gwasanaethau (Nevin a Jacques, 2024; Y Gymdeithas Llywodraeth Leol, 2024a).

Cymorth ymarferol ac ariannol

Mae teuluoedd yn aml yn ymgyflwyno i wasanaethau ar sawl achlysur i gael mynediad at wahanol wasanaethau a budd-daliadau. Fodd bynnag, gall hyn atgyfnerthu’r gwarthnod a’r cywilydd sy’n gysylltiedig â chael mynediad at gymorth ac atgyfnerthu’r syniad bod gwasanaethau wedi’u dylunio’n fwriadol i fod yn anodd cael mynediad atynt.

Gall newidiadau i arfer a diwylliant ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaethau mwy integredig. Mae data a gyflwynir i awdurdodau i alluogi pobl i gael mynediad at un gwasanaeth yn aml yn ddigon i’w galluogi i gael mynediad at wasanaethau eraill. Gallai integreiddio darpariaeth yn well leihau nifer yr achlysuron pan fo’n ofynnol i deuluoedd ymgeisio am wasanaethau a budd-daliadau, cynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael, a lleihau’r gwarthnod sy’n gysylltiedig â mynediad.

Mae adolygiad o’r llenyddiaeth yn amlygu ystod o ymyriadau a gynigiwyd neu a fabwysiadwyd i alluogi teuluoedd i gael mynediad gwell at gymorth ariannol. Gellir trefnu’r ymyriadau hyn yn fras i bum categori gwahanol, yn seiliedig ar sut y ceir mynediad atynt: gwasanaethau i bawb, allgymorth wedi’i dargedu, cyfathrebu wedi’i bersonoli, ymgeisio unwaith, a chofrestru awtomatig, fel a ddisgrifir yn Nhabl 3 isod.

Mae awdurdodau lleol wedi defnyddio ystod o ymyriadau yn y categorïau hyn ac wedi adeiladu ar wasanaethau, partneriaethau a phrosesau presennol i ganfod yr hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda a'r hyn y gellir ei integreiddio a’i addasu i gynyddu cyfraddau derbyn a chefnogi teuluoedd. Ceir eisoes ymdrechion yng Nghymru i’w gwneud hi’n haws ymgeisio am fudd-daliadau (Llywodraeth Cymru, 2024b); fodd bynnag, gall awdurdodau lleol ystyried mesurau i ategu’r ymdrechion hyn a hwyluso mwy o integreiddio, yn enwedig rhwng y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, hefyd.

Tabl 3: Mathau o ymyriadau sy’n galluogi mynediad at gymorth ymarferol ac ariannol

Categori

Disgrifiad

Gwasanaethau i bawb

Arferion sy’n effeithio ar bawb, gan gynnwys sut y mae’r Cyngor yn cyfathrebu gyda thrigolion, a gwasanaethau a gaiff eu cynnig a’u marchnata’n gyffredinol

Allgymorth wedi’i dargedu

Cyfathrebiadau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai sy’n fwy tebygol o fod yn gymwys i gael cymorth neu o fod angen cymorth

Cyfathrebu wedi’i bersonoli

Cyfathrebiadau a anfonir at unigolion penodol, yn eu hysbysu eu bod yn gymwys i gael math penodol o gymorth yn seiliedig ar angen a ragderfynwyd.

Ymgeisio unwaith

Dulliau sy’n defnyddio egwyddorion pasbortio, lle mae cymhwystra ar gyfer un cynllun yn rhoi hawl awtomatig i rywun gael budd-daliadau eraill.

Cofrestru awtomatig

Dulliau sy’n rhoi’r cyfrifoldeb ar ddarparwr y gwasanaeth, gan gael gwared ar yr angen i’r trigolyn gwblhau cais

Adapted from Chessell and Ghelani (2025)

Gwasanaethau i bawb

Mae ‘Gwasanaethau i bawb’ yn cyfeirio at arferion sy’n effeithio ar bawb, gan gynnwys sut y mae’r Cyngor yn cyfathrebu gyda thrigolion, a gwasanaethau a gaiff eu cynnig a’u marchnata’n gyffredinol.

Mae biliau’r dreth gyngor yn un enghraifft lle gall cyfathrebiadau a anelir at bawb gael eu haddasu i gynyddu cyfraddau derbyn gwasanaethau sydd wedi’u bwriadu i drechu tlodi. Mae sicrhau nad yw cyfathrebiadau’n ddryslyd nac yn hen, gan gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth a gynigir yn gallu helpu i leihau straen a chynyddu ymwybyddiaeth (Murray a Smith, 2024).

Mae terminoleg sy’n gwarthnodi’n gallu gwneud i wasanaethau ymddangos yn llai croesawus hefyd. Er enghraifft, canfu ymyriad peilot yn Angus, Yr Alban, fod y term ‘cyngor ar hawliau lles’ yn gwarthnodi. Mewn cyferbyniad, canfuwyd fod ‘llesiant ariannol’ yn hybu dull mwy anffurfiol a grymusol (Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-b). Mae gweithio gyda chymunedau i ddeall y derminoleg sydd fwyaf grymusol iddynt hwy’n bwysig i sicrhau nad yw grwpiau’n cael eu hatal rhag ceisio mynediad at wasanaethau.

Er mwyn cynyddu ymgysylltiad â gwasanaethau cymorth, dylai cyfathrebiadau ddangos empathi a chydnabod caledi, a’r amgylchiadau y gall pobl eu cael eu hunain ynddynt, hefyd (Improvement Service, 2022). Mae rhai awdurdodau lleol yn yr Alban wedi partneru gyda chanolfannau Cyngor Ar Bopeth lleol hefyd i ychwanegu codau QR at filiau a llythyrau atgoffa’r dreth gyngor a’r rheiny’n cynnwys dolenni i gymorth sydd ar gael ar gyfer llesiant ariannol (Cyngor Ar Bopeth Swydd Clackmannan, 2024).

Mae nifer o ymyriadau peilot wedi ceisio newid lleoliad darparu gwasanaethau hefyd i adeiladu ar berthnasoedd cryf sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, sy’n bwysig ar gyfer atgyfeirio trigolion at wasanaethau cynghori a’u hannog i fynychu. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn y cnawd yn digwydd mewn swyddfa neu amgylchedd ffurfiol arall, er y gwnaed ymdrechion i symud gwasanaethau fel eu bod yn cael eu darparu mewn ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys practisiau meddygon teulu a wardiau mamolaeth.

Mae gwerthusiadau o’r ymyriadau hyn yn dynodi nifer o fanteision gan gynnwys hygyrchedd ffisegol gwell, mwy o hyder i geisio mynediad at wasanaethau cyhoeddus eraill a mantais ariannol i gyfranogwyr (Naven, Whittington ac Egan, 2012; Carrick et al., 2016; Cruywagen a McNulty, 2022). Cafodd cysylltiadau personol a enwir a rhannu data’n systemig rhwng gwasanaethau eu hamlygu fel rhesymau allweddol dros lwyddiant cydleoli gweithwyr cynghori mewn ysgolion yn Glasgow (Cruywagen a McNulty, 2022). Lle mae data’n cael ei rannu ac achosion yn cael eu trosglwyddo ar draws gwasanaethau, gall templedi safonedig helpu i leihau gwarthnod, gan nad oes rhaid i bobl rannu eu ‘stori’ nifer o weithiau. Ar ben hynny, gall hyn hefyd leihau biwrocratiaeth, hybu effeithlonrwydd a helpu i’w gwneud yn bosibl cynnwys y sector gwirfoddol.

Allgymorth wedi’i dargedu

Gall awdurdodau lleol amcanu at dargedu grwpiau sy’n fwy tebygol o fod yn gymwys i gael neu o fod angen cael cymorth. Gwneir hyn yn aml pan fo pobl yn cael mynediad at un math o gymorth, a all gael ei ddarparu naill ai gan y sector cyhoeddus neu gan y sector gwirfoddol. Mae ymyriadau yn y categori hwn yn tueddu i gynnwys naill ai newid prosesau presennol neu symleiddio prosesau ar gyfer atgyfeirio at wasanaethau eraill.

Yn seiliedig ar wersi o gynllun yn yr Alban, mae taflenni “Gofidio Am Arian” wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer 98 o ardaloedd awdurdod lleol gwahanol yn Lloegr, a phedwar awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf (Y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol, 2025). Mae’r taflenni hyn yn cael eu cydgynhyrchu ac yn blaenoriaethu dull arian parod yn gyntaf yr ystyrir yn gyffredinol ei fod yn grymuso teuluoedd ac yn ymdrin yn effeithiol â gwarthnod (Robertson et al., ar fin ymddangos). Fe’u darperir mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol gan gynnwys banciau bwyd, gwasanaethau cynghori, lleoliadau gofal sylfaenol ac adeiladau cyhoeddus.

Canfu adolygiad o’r prosiect a gynhaliwyd yn yr Alban i ddechrau fod y dull yn lleihau i’r eithaf yr egni y mae ei angen i geisio cymorth gan bod yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn un adnodd. Roedd hefyd yn cynyddu hyder yn argaeledd y cymorth trwy enwi mudiadau a sefydliadau lleol yr ystyrid eu bod yn haws mynd atynt ac yn llai biwrocrataidd (Wildman, Hamid a Biggs, 2024).

Ym Manceinion Fwyaf, datblygwyd Offeryn Atgyfeirio ar gyfer Cyngor Ariannol hefyd, a hwnnw’n darparu gwybodaeth debyg yn seiliedig ar brosiect yr Alban, ac fe gafodd adborth cadarnhaol tebyg am ddarparu gwybodaeth ar un daflen a bod yn hawdd i’w ddefnyddio (Griss, 2022).

Yn y ddwy system, mae gweithwyr rheng-flaen yn cael eu hyfforddi sut i ddefnyddio’r offer yn effeithiol, gyda chysylltiadau canolog yn hyrwyddo’r defnydd o’r offeryn er mwyn iddo gael ei ledaenu yn fwy. Mae staff hefyd yn cael eu hannog i wneud atgyfeiriadau wrth gefnogi’r cleient, yn hytrach na dim ond eu cyfeirio at yr wybodaeth, ac i dracio’r rhain ar system fonitro ganolog.

Daw enghraifft arall o dargedu cymorth at grwpiau penodol o Gyngor Swydd Renfrew yn yr Alban. Ers 2023, mae’r cyngor wedi ychwanegu cwestiynau at ei ffurflen gais ar-lein ar gyfer prydau ysgol am ddim a grantiau gwisg ysgol i hyrwyddo gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gynyddu incwm i’r eithaf a llesiant ariannol.

Mae ymgeiswyr yn cael manylion y cymorth a roddir gan Advice Works, gwasanaeth gan y cyngor sy’n amcanu at roi cyngor rhad-ac-am-ddim, cyfrinachol ac annibynnol ynghylch arian a dyled. Gofynnir tri chwestiwn iddynt hefyd (Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-c):

  • A hoffech chi i weithiwr cynghori wirio eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt?
  • Ydych chi’n ei chael yn anodd talu eich dyledion?
  • Ydych chi’n meddwl y byddai cyngor ynghylch rheoli arian o gymorth i chi?

Wedyn mae Advice Works yn cysylltu â’r rhai sy’n rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r tri chwestiwn hyn er mwyn agor achos. Fe wnaeth oddeutu 27% o’r rhai a ymgeisiodd roi tic yn un o’r blychau i ddechrau yn gofyn am gymorth, ac o’r rhain fe wnaeth oddeutu 40% ymgysylltu â’r gwasanaeth cymorth, gyda rhai’n cael incwm ychwanegol trwy’r cyngor a roddwyd.

Mae ymyriadau allgymorth wedi’i dargedu’n ceisio adeiladu ar wybodaeth am y sefyllfaoedd lle gall pobl gael budd o gymorth ac yn tueddu i flaenoriaethu dulliau arian parod yn gyntaf. Mae’r ddwy enghraifft y rhoddwyd sylw iddynt yn amlygu y gellir gwneud hyn trwy waith effeithiol mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a gwirfoddol i sicrhau bod ystod eang o bobl yn gallu cael mynediad at gymorth, yn ogystal â thrwy wneud newidiadau i arfer mewnol i gynnig cymorth ychwanegol.

Cyfathrebu wedi’i bersonoli

Yn hytrach na thargedu grwpiau penodol a all fod yn cael mynediad at ryw fath o gymorth yn barod, mae cyfathrebu wedi’i bersonoli yn cyfyngu hynny i unigolion penodol, a hynny’n aml gan ddefnyddio data sefydliadol neu wybodaeth broffesiynol i benderfynu ar bwy y mae angen cymorth fwyaf. Mae hyn yn golygu estyn allan at unigolion penodol, gan eu hysbysu eu bod yn gymwys i gael math penodol o gymorth yn seiliedig ar angen a ragderfynwyd.

Mae tri awdurdod lleol yn yr Alban wedi partneru gyda chanolfannau Cyngor Ar Bopeth (CAB) ar brosiect cydweithredol sydd wedi’i fwriadu i ymdrin ag ôl-ddyledion y dreth gyngor, gyda’r cynllun hwn yn cael ei estyn ers hynny i chwe ardal arall (Llywodraeth yr Alban, 2024). Datblygwyd ffurflen atgyfeirio fel bod yr awdurdod lleol yn gallu trosglwyddo cleifion i CAB, gan nad oes ganddynt dîm sydd wedi’i neilltuo i roi cyngor a chymorth mewn perthynas â dyledion mwyach, a chan nad oedd hi’n ddichonadwy rhoi cymorth yn fewnol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd (Cyngor Ar Bopeth Swydd Clackmannan, 2024).

Fe wnaeth adran refeniwiau’r awdurdod lleol hefyd adnabod y rhai hynny o blith y deugain o ddyledwyr uchaf y gellid ystyried eu bod yn fregus yn ariannol – fe anfonwyd llythyr atynt yn cynnig cyngor rhad-ac-am-ddim a diduedd gan CAB ar ymdrin â'r ôl-ddyledion. Er na chafodd yr ymyriad ei werthuso’n ffurfiol, mae data rheoli achosion mewnol yn awgrymu y bu cynnydd mewn cleientiaid yn mynychu’r ganolfan gyda materion y dreth gyngor (Cyngor Ar Bopeth Swydd Clackmannan, 2024).

Mae gan awdurdodau lleol y data a’r berthynas ariannol uniongyrchol i adnabod y rhai sy’n profi anhawster ariannol gydag ôl-ddyledion y dreth gyngor a rheoli hyn mewn ffordd gynhwysol – gan ddarparu cyfathrebiadau wedi’u personoli sy’n cynnig cymorth naill ai gan y cyngor yn fewnol neu gan bartner dibynadwy (Gibbons a Walker, 2019).

Fe wnaeth Cyngor Dinas Bryste ddefnyddio cyllid gan y llywodraeth ganolog hefyd i ddarparu ymyriad gan ddefnyddio cyfathrebu wedi’i bersonoli a oedd wedi’i fwriadu i atal digartrefedd. Datblygwyd tîm newydd o fewn y Gwasanaeth Hawliau Lles a Chyngor Ariannol yn y cyngor, ac fe ddatblygwyd model rhagfynegol i’w gwneud yn bosibl adnabod achosion a oedd yn ymwneud â phobl a oedd yn wynebu risg ar adeg gynnar, yn seiliedig ar ddata a oedd eisoes yn hysbys i’r Cyngor (Knight et al., 2018). Er bod bwriad i ddefnyddio data o nifer o ffynonellau, fe brofodd yn anodd cael cytundebau rhannu data. O ganlyniad, dim ond data Budd-daliadau Tai a ddefnyddiwyd ar gyfer y cam cychwynnol.

Wedyn fe roddwyd cymorth i drigolion yn eu cartref, gan gynnwys help i gael mynediad at fudd-daliadau, cysylltu â landlordiaid, ac apeliadau. Roedd gosod y gwasanaeth allgymorth hwn ochr yn ochr â’r tîm llesiant ariannol presennol yn golygu bod trigolion wedi dweud bod ganddo ddelwedd wahanol i wasanaethau tai eraill y cyngor (Knight et al., 2018). Mae creu tîm holistaidd sy’n gallu estyn allan at y rhai a adnabuwyd fel y bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf yn gallu helpu i sianelu adnoddau’n effeithiol i atal digartrefedd.

Ymgeisio unwaith

Mewn llawer o achosion, mae teuluoedd yn darparu’r un wybodaeth drosodd a throsodd i wahanol wasanaethau ar draws ffurflenni cais gwahanol. Mae dulliau sy’n annog pobl i ymgeisio unwaith yn defnyddio egwyddorion pasbortio, lle mae cymhwystra ar gyfer un cynllun yn rhoi hawl yn awtomatig i rywun gael budd-daliadau eraill. Y nod yn hynny o beth yw lleihau cymhlethdod ymdrech, gan gynnwys deall yr hyn sydd ar gael, beth yw’r meini prawf cymhwystra a sut y maent yn berthnasol, a llenwi ffurflenni lluosog.

Yn Lloegr, mae nifer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Gateshead a Coventry, yn prosesau ceisiadau am brydau ysgol am ddim fel rhan o un broses ymgeisio ar gyfer budd-daliadau eraill, gan gynnwys Budd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Feeding Britain, 2025). Hysbysir ymgeiswyr y bydd eu cais yn cael ei ddefnyddio i asesu eu cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim, os ydynt yn rhoi cydsyniad i wneud hynny.

Mae Cyngor Gogledd Swydd Aeron yn yr Alban hefyd wedi peilota model Single Shared Assessment, i gael mynediad at nifer o fathau o gymorth trwy un ffurflen gyswllt (Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-d). Roedd sefydlu prosesau ar gyfer rhannu data a rhoi cydsyniad yn hynod gymhleth i ddechrau, oherwydd nifer y timau sy’n gweinyddu gwahanol hawliau ar draws yr awdurdod lleol (Llywodraeth yr Alban, 2025). Dros amser, fe sefydlwyd nifer o brosesau, gan alluogi’r rhai a oedd yn ymgeisio am brydau ysgol am ddim a'r Grant Gwisg Ysgol i roi cydsyniad i ddefnyddio eu data i asesu hawliau pellach, yn ogystal â gostyngiadau ac eithriadau’r dreth gyngor a oedd wedi’u cyfuno mewn un ffurflen. Ar hyn o bryd, mae cam terfynol y ffurflen yn cael ei ddatblygu i alluogi’r rhai sy’n cyflwyno ceisiadau i’r holl brosesau sy’n seiliedig ar brawf modd roi cydsyniad ar gyfer gwirio hawliau pellach (Uned Ymchwil Tlodi ac Anghydraddoldeb yr Alban, d.d.-d).

Mae awdurdodau lleol ledled y DU yn gwneud newidiadau i integreiddio gwahanol fathau o gymorth, gan gyfuno ceisiadau i’w gwneud yn bosibl rhannu data ar draws y cyngor a, lle y bo’n berthnasol, sefydliadau partner sy’n darparu gwasanaethau cymorth. Fodd bynnag, cydnabyddir, er ei fod yn ddefnyddiol i drigolion, bod hyn yn dal i syrthio’n fyr o greu system sy’n cynyddu cyfraddau derbyn i’r eithaf. Mae angen allgymorth wedi’i dargedu neu gyfathrebu wedi’i bersonoli o hyd i gyrraedd y rhai nad ydynt yn ymgysylltu â’u hawdurdod lleol ar hyn o bryd (Feeding Britain, 2025).

Cofrestru awtomatig

Mae cofrestru awtomatig yn rhoi baich y cyfrifoldeb ar ddarparwr y gwasanaeth, gan gael gwared ar yr angen i’r trigolyn gwblhau cais. Mae dulliau’n nodweddiadol yn seiliedig ar ddata ac yn cofrestru pobl yn awtomatig os ceir eu bod yn gymwys, gyda’r rhai a gofrestrir yn nodweddiadol yn cael cynnig i dynnu eu cydsyniad yn ôl os nad ydynt yn dymuno cyfranogi.

Mae ymchwilwyr yn Lloegr yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cofrestru awtomatig ar gyfer prydau ysgol am ddim, (Feeding Britain, 2025). Mae’r model hwn wedi cael ei roi ar waith yn Sheffield ers 2016, lle mae teuluoedd â phlant a adnabyddir fel rhai a allai fod yn gymwys o ddata lles yn cael eu hysbysu y bydd y cyngor yn ymgeisio ar eu rhan oni bai eu bod yn ymateb fel arall, gan arwain at fwy na mil o ymgeiswyr ychwanegol am brydau ysgol am ddim, a chyllid Premiwm Disgybl ychwanegol ar gyfer ysgolion (Bryant et al., 2025).

Fodd bynnag, mae’r broses hon yn galw am amser a pharodrwydd i oresgyn heriau sylweddol sy’n ymwneud â chyfreithlondeb cysylltu’n rhagweithiol â theuluoedd a cheisio mynediad at ddata (Feeding Britain, 2025). Ar ôl ei gael, mae prosesu’r data’n gallu cymryd nifer o wythnosau hefyd, ac mae canlyniadau rhaglenni peilot yn Lloegr yn dynodi y dylai’r ymarfer gael ei ailadrodd yn flynyddol, gan nad yw’r gostyngiad yn y disgyblion a adnabyddir o un flwyddyn i’r llall mor fawr ag a ragwelwyd yn wreiddiol (Bryant et al., 2025).

Gan bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gall fod yn fwyfwy anodd annog teuluoedd i gofrestru am brydau ysgol am ddim, er bod teuluoedd sy’n cofrestru’n gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol, a’r cyllid ychwanegol a ddyfernir i ysgolion trwy’r Grant Datblygu Disgyblion, a delir trwy awdurdodau lleol. Felly, gallai cofrestru awtomatig helpu i roi anogaeth ar gyfer mwy o gofrestriadau, gan gynyddu i’r eithaf y manteision i deuluoedd ac ysgolion.

Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol wedi archwilio’r gallu i gydweithio gyda chwmnïau cyfleustodau hefyd i gofrestru trigolion cymwys ar dariffiau cymdeithasol. Mae un enghraifft yn cynnwys Thames Water, sydd wedi peilota cynllun gyda dwy fwrdeistref yn Llundain a Policy in Practice, i asesu cwsmeriaid ar incwm isel sydd ag ôl-ddyledion dŵr yn awtomatig (Chessell a Ghelani, 2025). Mae hyn wedi’i fwriadu i ddisodli ffurflen gais a gwblheir â llaw sy’n galw am ymwybyddiaeth o’r tariff cymdeithasol yn y lle cyntaf.

Mae data gan yr awdurdod lleol a’r Adran Gwaith a Phensiynau’n cael ei baru i asesu cymhwystra ar gyfer tariff cymdeithasol, gan ddefnyddio Policy in Practice fel trydydd parti, i leddfu pryderon ynghylch rhannu data. Mae oddeutu 1,200 o gwsmeriaid wedi’u cofrestru ar y cynllun, gan ddosbarthu gwerth £500,000 o arbedion dros flwyddyn yn ôl yr amcangyfrif (Chessell a Ghelani, 2025). Canfuwyd fod rhai trigolion mewn ôl-ddyledion dŵr ac ôl-ddyledion treth gyngor hefyd, ac felly fe gynigiwyd eu bod yn cael cymorth a chyngor ychwanegol.

Mae’r enghreifftiau hyn yn amlygu potensial cofrestru awtomatig i gyrraedd grwpiau na fyddent yn ymgysylltu â gwasanaethau fel arall, gan ddileu rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iaith ac ymwybyddiaeth i ddwyn deilliannau cadarnhaol sylweddol i drigolion (Chessell a Ghelani, 2025). Fodd bynnag, fel a amlygwyd, ceir heriau sylweddol i gychwyn cynlluniau cofrestru awtomatig, a’r rheiny’n ymwneud â chael mynediad at ddata a’i ddefnyddio.

Pwyntiau Allweddol

  • Yn seiliedig ar rwystrau a adnabuwyd i fynediad, a phwy sy’n gyfrifol am ddarparu, fe wnaethom adolygu’r dystiolaeth mewn dau faes: ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant a chymorth ymarferol ac ariannol i deuluoedd.
  • Canfuom dri dull allweddol o gynyddu cyfranogiad mewn ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant: dileu rhwystrau ariannol, darparu ystod o fathau o gymorth a gweithgareddau, a chydweithio rhwng cyfranwyr lleol i feithrin ymddiriedaeth.
  • Mae cynorthwyo teuluoedd i gael mynediad at gymorth ymarferol ac ariannol yn gallu golygu newid gwasanaethau i sicrhau nad yw eu harferion yn creu gwarthnod ac integreiddio gwasanaethau i hwyluso mynediad. Gellir cymhwyso ystod o ymyriadau, gan gynnwys addasu cyfathrebiadau, targedu allgymorth, a newid prosesau ymgeisio i sicrhau nad oes rhaid i deuluoedd rannu’r un wybodaeth nifer o weithiau.
  • Mae awdurdodau lleol mewn ardaloedd eraill wedi gweithredu ystod o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant a mathau o gymorth ymarferol ac ariannol i deuluoedd. Mae hyn yn nodweddiadol wedi adeiladu ar gryfderau o fewn gwasanaethau, prosesau a phartneriaethau presennol i benderfynu ynghylch yr hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda a’r hyn y gellir ei integreiddio a’i addasu i gynyddu cyfraddau derbyn a chefnogi teuluoedd.
  • Pan gyflwynwyd yr opsiwn iddynt archwilio un o’r ddau faes ymhellach, fe ddewisodd Aelodau’r Gweithgor gymorth ymarferol ac ariannol ar gyfer ymchwilio ymhellach.

Darllenwch yr adran nesaf: Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn?

Diweddaru: 18 Mar 2026, 02:08 PM