Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn?

Rhannu Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn? ar Facebook Rhannu Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn? Ar Twitter Rhannu Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn? Ar LinkedIn E-bost Cwestiynau adolygu 4 a 5: Pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael eu darparu yn RhCT ar hyn o bryd a beth yw’r gyfradd derbyn? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Ar ôl archwilio tystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ar y gwasanaethau pwysig i leddfu tlodi, y rhwystrau i gael mynediad atynt a sut i ymdrin â hwy, fe ddewisodd Aelodau’r Gweithgor ganolbwyntio ar gymorth ymarferol ac ariannol. Mae’r cwestiwn ymchwil hwn yn canolbwyntio ar dystiolaeth fwy lleol i ddeall pa wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd sy’n byw yn RhCT.

Gan bod aelodau’r Gweithgor wedi dewis canolbwyntio ar wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol, fe ddefnyddiom ni ddata sefydliadol, data ar y boblogaeth a gwybodaeth broffesiynol i ateb y cwestiwn hwn. Fe gasglom ni dystiolaeth ar y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn RhCT, sut y ceir mynediad atynt, a data ar gyfraddau derbyn, lle y bo ar gael.

Cymorth gan y sector cyhoeddus

Mae’r awdurdod lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n gysylltiedig â’r meysydd craidd y mae’n gyfrifol amdanynt, gan gynnwys y dreth gyngor, addysg a thai. Mae Atodiad 2 yn amlinellu'r data sydd ar gael ar y gwasanaethau ar gyfer pob un o’r meysydd hyn, gan gynnwys cymhwystra, mynediad, cymorth a roddir a chyfraddau derbyn yn RhCT.

Mae ffurflenni cais ar-lein unigol yn ofynnol i gael mynediad at y rhan fwyaf o wasanaethau a ddisgrifir isod, er bod ceisiadau ar gyfer Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Budd-dal Tai wedi cael eu symleiddio mewn un broses. Er bod opsiynau ar-lein ar gael, dywedodd Swyddogion wrthym ni bod y mwyafrif o’r cyswllt â’r cyngor mewn perthynas â gwasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn digwydd dros y ffôn. Rhoddir cymorth ychwanegol i gael mynediad at wasanaethau a chwblhau ffurflenni cais mewn canolfannau IBobUn, sydd wedi’u lleoli mewn pum lleoliad yn RhCT (trwy apwyntiad).

Mae llawer o’r budd-daliadau a weinyddir gan y Cyngor yn rhannu meini prawf cymhwystra hefyd, gan olygu y byddai nifer o’r rhai sy’n gymwys i gael Budd-dal Tai neu Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, er enghraifft, hefyd yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, ac o ganlyniad y Grant Hanfodion Ysgol. Fodd bynnag, nid yw manylion yn trosglwyddo ar draws ffurflenni cais, gan olygu bod rhaid i deuluoedd brofi eu bod yn gymwys trwy gyflwyno tystiolaeth ar sawl achlysur. Dywedodd swyddogion wrthym mai un rheswm posibl pam fod hyn yn digwydd yw bod ceisiadau ar gyfer y mentrau hyn yn cael eu prosesu gan dimau gwahanol yn y Cyngor, sy’n cyfyngu ar y data y gellir ei rannu. Ceir rhai rhwystrau deddfwriaethol o hyd o ran sut y gellir hawlio rhai budd-daliadau (yn bennaf mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim), er bod ymdrechion yn cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth Cymru i symleiddio’r broses hon hyd y gellir, a bod llawer o awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd er gwaethaf y cyfyngiadau hyn (Llywodraeth Cymru, 2021).

Y Dreth Gyngor

Gall Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor helpu’r rhai sydd ar incwm isel i dalu am y cyfan neu ran o’u treth gyngor, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae cymorth ar gael i’r rhai sy’n ddi-waith a’r rhai sy’n gweithio. Os yw aelwyd yn cael rhai budd-daliadau penodol, mae ganddynt hawl i gymorth o 100% pan gânt eu hasesu ac fe’u hadwaenir fel achosion ‘wedi’u pasbortio’ (Llywodraeth Cymru, 2024c). Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y rhai ar Gredyd Cynhwysol. Efallai na fydd y rhai â chyfalaf o fwy nag £16,000 yn gymwys ar gyfer unrhyw ostyngiad ychwaith. Mae oddeutu 22% o’r aelwydydd yn RhCT yn cael rhyw fath o ostyngiad, a dyma’r bedwaredd gyfradd uchaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru (Llywodraeth Cymru, 2024c). Mae hyn yn cynnwys 23,398 o aelwydydd, y mae dros 85% ohonynt yn cael gostyngiad llawn, er mai dim ond 43.5% o’r holl achosion sy’n cael budd-dal wedi’i basbortio.

Addysg

Mae’r holl blant o oedran ysgol gynradd yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim ar sail cymhwystra hefyd yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol o £125 (neu £200 ym Mlwyddyn 7), i helpu i ariannu gwisg, offer a gweithgareddau ysgol (Llywodraeth Cymru, 2025a). Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod teuluoedd yn cael un o restr o fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol (er bod rhaid i’w henillion fod yn llai na £7,400 os ydynt yn gweithio). Er bod materion o ran ansawdd y data, roedd cyfrifiad ysgolion 2021/22 yn dynodi cyfradd dderbyn ddangosol o 77% ar gyfer prydau ysgol am ddim sy’n seiliedig ar gymhwystra; fe gymerwyd y data yma hefyd cyn rhoi Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar waith.

Mae pob un o’r 92 o ysgolion cynradd a’r tair ysgol arbennig yn RhCT yn darparu clwb brecwast am ddim i blant cyn dechrau’r diwrnod ysgol. Gwasanaeth a ddarperir yn gyffredinol i blant o oedran ysgol feithrin ac ysgol gynradd yw hwn, ar yr amod bod cais llwyddiannus wedi cael ei gyflwyno ar eu rhan, oherwydd nifer yr oedolion sydd ar gael i oruchwylio. Gweinwyd oddeutu 5,000 o frecwastau yn wythnosol ym mis Medi 2023 yn RhCT.

Gall y rhai sydd rhwng 16 ac 18 oed ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ac sy’n astudio cwrs hyd at Lefel 3 mewn ysgol neu goleg fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) hefyd. Gweinyddir hwn gan Cyllid Myfyrwyr Cymru ac mae’n seiliedig ar incwm: gydag incwm aelwyd o £23,400 neu lai os mai hwy yw’r unig berson ifanc ar yr aelwyd, neu £25,974 os oes mwy nag un. Mae hyn yn rhoi’r hawl iddynt gael taliad o £40 yr wythnos i aros mewn addysg, gyda 1,370 o geisiadau wedi’u cymeradwyo yn RhCT ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. O ystyried y meini prawf sy’n seiliedig ar incwm, byddai’r mwyafrif llethol o’r rhai a arferai fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar sail cymhwystra, a’r Grant Hanfodion Ysgol, yn gallu hawlio Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ond rhaid iddynt ymgeisio’n unigol.

Tai

Gall Budd-dal Tai roi cymorth hyd at werth llawn y rhent i’r rhai ar incwm isel, er bod nifer o feini prawf cymhwystra. Mae data ar y dadansoddiad o hawlyddion yn RhCT yn amlygu, er bod 7,253 o hawlyddion Budd-dal Tai yn RhCT, mai dim ond cyfran fach iawn (119 o hawlyddion; 1.6%) sydd â phlant dibynnol (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2025b). Fodd bynnag, mae Budd-dal Tai bellach wedi cael ei amsugno o fewn yr elfen o Gredyd Cynhwysol sy’n gysylltiedig â chostau tai, a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn hytrach na chan awdurdodau lleol (Wilson a Hobson, 2021). Mae gan gyfran fwy o lawer o’r rhai sy’n hawlio costau sy’n gysylltiedig â thai trwy Gredyd Cynhwysol yn RhCT blant: o’r 13,752 o hawlyddion, mae gan 61% o leiaf un plentyn (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2025b). Fodd bynnag, dylid nodi bod y swm a geir yn amrywio ledled RhCT, gan bod y taliad yn cael ei wneud ar sail Ardal Marchnad Dai Eang, gan olygu bod y rhai sy’n byw yn ardal Cynon Merthyr yn cael mwy na’r rhai sy’n byw yn ardal Taf Rhondda.

I’r rhai ac arnynt angen cymorth byrdymor gyda chostau tai, gall Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai helpu i ariannu diffygion mewn rhent, neu gostau symud tŷ megis blaendaliadau neu flaensymiau. Mae’n aneglur i faint o deuluoedd y dyfarnwyd y cymorth hwn, ond fe dalwyd oddeutu £470,000 ledled RhCT ym mlwyddyn ariannol 2022-23 (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2025c).

Mae grantiau effeithlonrwydd ynni ar gael hefyd, gyda’r Grant Gwresogi ac Arbed i berchentywyr yn cynnig hyd at £5,000 mewn costau adnewyddu, a’r Cynllun ECO 4 Flex yn cynnig grantiau trwy osodwyr cofrestredig tan fis Mawrth 2026. I’r rhai ar fudd-daliadau penodol, mae’r Cynllun Disgownt Cartrefi Clyd hefyd yn cynnig arbediad awtomatig o £150 ar gostau ynni.

Cymorth arall gan y sector cyhoeddus

Mae’r cynllun Cychwyn Iach yn cynnig cymorth i famau beichiog a’r rhai â phlant bach sy’n cael rhai budd-daliadau penodol i’w cynorthwyo i brynu llaeth a bwyd iach, gan gynnwys ffrwythau a llysiau a ffacbys, yn ogystal â rhoi fitaminau am ddim iddynt. Mae 71% o’r teuluoedd cymwys yn RhCT wedi hawlio’r budd-dal hwn, sy’n golygu ychwanegu arian at gerdyn rhagdaledig bob pedair wythnos.

I’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol eithafol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig dau grant caledi, nad oes angen eu had-dalu. Gall y Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) helpu i dalu costau hanfodol gan gynnwys bwyd, tanwydd a theithio mewn argyfwng, tra bo’r Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) yn gallu helpu i ddarparu nwyddau gwyn a dodrefn ar gyfer y rhai sy’n symud tŷ. Yn 2024, fe roddwyd 20,652 o grantiau Taliad Cymorth mewn Argyfwng, ynghyd â 625 o grantiau Taliad Cymorth i Unigolion (Llywodraeth Cymru, 2025b).

Ymdrechion presennol i wella mynediad

Ceir ymdrechion presennol a pharhaus i wella sut y mae teuluoedd yn cael mynediad at wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn RhCT. Mae hyn yn digwydd trwy brosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru Llywodraeth Cymru, yn ogystal â thrwy’r Offeryn Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT).

Ceir ymrwymiad ar y cyd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i annog trigolion i gynyddu eu hincwm i’r eithaf a hawlio’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’n aml yn gymhleth deall yr hyn sydd ar gael, ac ymgeisio amdano (Llywodraeth Cymru, 2024b). Bydd y prosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn canolbwyntio ar dri budd-dal i ddechrau: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CTRS), Prydau Ysgol Am Ddim, a’r Grant Hanfodion Ysgol, gan amcanu at adeiladu ar arfer da presennol mewn awdurdodau lleol a sicrhau mai dim ond unwaith y bydd angen i bobl ledled Cymru ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ategol (Llywodraeth Cymru, 2024b). Mae hyn yn golygu adnabod achosion o ddyblygu ac eglurhau sut y gellir rhannu data o fewn awdurdodau lleol a chydag asiantaethau megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a’r Adran gwaith a Phensiynau, sy’n dal i fod dan reolaeth Llywodraeth y DU. Tra bo’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, gyda disgwyl i’r cam cyntaf orffen ym mis Ebrill 2026, mae’n dal i fod yn bosibl bod gwaith y gellir ei wneud yn RhCT i gynyddu i’r eithaf y cysylltioldeb rhwng gwasanaethau a weinyddir gan y Cyngor, gan felly wella’r cyfraddau derbyn.

Un ffordd y mae Cyngor RhCT yn amcanu at wella cyfraddau derbyn yn lleol ar hyn o bryd yw defnyddio’r Offeryn Tracio Teuluoedd Incwm Isel (LIFT). Mae RhCT yn un o bedwar awdurdod lleol ar ddeg yng Nghymru sy’n peilota defnydd o LIFT, mewn partneriaeth gyda Policy in Practice (Llywodraeth Cymru, 2025c). Offeryn meddalwedd yw LIFT sydd eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan rai awdurdodau lleol yn Lloegr a’i nod yw dwyn data ynghyd o nifer o ffynonellau i greu darlun o aelwydydd mewn ardal leol a’r hyn y gallent fod â hawl iddo (Y Gymdeithas Llywodraeth Leol, 2024b). Er enghraifft, gall adroddiadau LIFT amlygu nifer yr aelwydydd a allai fod yn dargedau addas ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai, yn gymwys ar gyfer talebau Cychwyn Iach, neu mewn ôl-ddyledion treth gyngor gyda diffyg arian parod (Policy in Practice, 2025). Gallai rhagor o ddealltwriaeth am sut y mae’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn RhCT ar hyn o bryd a’i ddefnyddiau eraill posibl helpu i deilwra cymorth i deuluoedd a chanolbwyntio cyfathrebiadau ar y rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn gymwys ac angen cymorth.

Cymorth gan y sector gwirfoddol

Mae gan fudiadau’r sector gwirfoddol rôl allweddol o ran cefnogi cymunedau yn Rhondda Cynon Taf, gan estyn darpariaeth gwasanaethau statudol. Mae tîm RhCT Gyda’n Gilydd y Cyngor yn arwain ar weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a’r sector gwirfoddol ehangach i greu cymunedau mwy cydnerth.

Mae Cyngor Ar Bopeth RhCT yn cynnig ystod o wasanaethau cynghori ar ystod o faterion, gan gynnwys ymholiadau lles a chyngor arbenigol ar ddyledion. Maent hefyd yn rhoi allgymorth wedi’i dargedu mewn ardaloedd yn RhCT lle nad oes rhyw lawer o gyngor yn bresennol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd dros 80% o gleientiaid a ymgyflwynodd i Cyngor Ar Bopeth RhCT heb ddigon o arian i dalu cost hanfodion ac felly’n syrthio i mewn i gyllidebau negatif, ac roedd hyn yn broblem arbennig i rieni sengl. Ar ben hynny, bu codiadau sydyn yn yr angen am dalebau banciau ynni a bwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Cyngor Ar Bopeth hefyd wedi cael comisiwn gan y Cyngor i ddarparu dau wasanaeth a ddarperir trwy atgyfeiriad yn unig, ar gyfer y rhai a atgyfeirir gan y Tîm Datrysiadau Tai fel rhai sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, ac arfarniad ariannol ar gyfer y rhai a atgyfeirir gan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.

Nid oes gan y Cyngor dîm sydd wedi’i neilltuo i gefnogi llesiant ariannol mwyach, gan olygu mai’r sector gwirfoddol yw prif ddarparwr y cymorth hwn ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi ffurfio trefniadau cydweithio gyda’r sector gwirfoddol i hyrwyddo’r arfer o hawlio cymaint â phosibl o fudd-daliadau a llesiant ariannol (Cyngor Sir Penfro, 2024); er nad yw’r prosiect wedi cael ei werthuso’n ffurfiol, mae’n darparu enghraifft o sut y gall cydweithio agosach helpu i roi cymorth ymarferol ac ariannol i deuluoedd sy’n profi tlodi.

Mae Trussell yn gweithredu 21 o fanciau bwyd ledled RhCT i roi cymorth bwyd mewn argyfwng, sydd fel arfer yn golygu ei bod yn ofynnol cael atgyfeiriad ar ffurf e-daleb, fel a drafodir isod (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, d.d.). Mae cymorth nodweddiadol yn cynnwys oddeutu dridiau o fwydydd annarfodus ar ffurf bwydydd tun a bwydydd sych a roddwyd gan y gymuned leol, er y gall rhai ddarparu bwyd ffres hefyd. Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, dosbarthwyd 16,634 o barseli bwyd mewn argyfwng ledled RhCT gan fanciau bwyd a weithredir gan Trussell, gyda 35% o’r rheiny ar gyfer plant (Banc Bwyd Taf-Elái, 2025). Mae hyn yn ostyngiad o oddeutu 1,400 o barseli o’i gymharu â’r llynedd, ond mae defnydd o fanciau bwyd yn RhCT wedi codi oddeutu 30% o’i gymharu â 2019-2020 (Banc Bwyd Taf-Elái, 2025). Yn ogystal â pharseli bwyd mewn argyfwng, mae Banc Bwyd Taf-Elái sy’n cael ei weithredu gan Trussell wedi lansio banc babanod sy’n hygyrch trwy fydwragedd ac ymwelwyr iechyd; mae hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol gyda choginio a maethiad, prydau yn ystod gwyliau ysgol, cyngor ar ddyledion ac arian, a banc tanwydd. Yn ogystal â’r rhai a weithredir gan Trussell, ceir hefyd ystod o bantrïoedd a chaffis cymunedol eraill sy’n rhoi cymorth mwy cyffredinol, gan gynnig bwyd am ddim neu â chymhorthdal, ac yn aml eitemau eraill megis gwisgoedd ysgol.

I gael mynediad at fanciau bwyd a weithredir gan Trussell, fel arfer mae gofyn i drigolion fod â thaleb a gafwyd trwy atgyfeiriad gan sefydliad lleol, gan gynnwys gan dîm gwaith a sgiliau’r Cyngor, rhai meddygfeydd teulu ac ysgolion, a Chyngor Ar Bopeth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, d.d.). Mae’r system dalebau hon wedi’i bwriadu i sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig yn gallu cael eu cyfeirio at y rhai sydd fwyaf mewn angen, ac i helpu i ddarparu cymorth cofleidiol arall (Cyngor Dinas Birmingham, 2023). Fodd bynnag, fel a grybwyllir uchod, ceir mudiadau cymunedol eraill sy’n rhoi cymorth bwyd ac sy’n gweithredu ar fodel mwy cyffredinol.

Pwyntiau Allweddol

  • Mae ystod eang o wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn cael eu darparu yn RhCT. Ceir amrywiaeth o sefydliadau sy’n gyfrifol am weinyddu a darparu’r rhain, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor RhCT, a mudiadau’r sector gwirfoddol.
  • Mae gofyn gwneud ceisiadau ar wahân ar gyfer llawer o’r gwasanaethau a ddarperir gan y sector cyhoeddus, hyd yn oed lle ceir meini prawf cymhwystra sy’n gorgyffwrdd, gan arwain at ddyblygu ac ymdrech ychwanegol i’r rhai y mae arnynt angen cymorth.
  • Mae gan y sector gwirfoddol rôl arwyddocaol o ran rhoi cyngor ynghylch lles a dyledion, bwyd mewn argyfwng a chymorth gyda llesiant ehangach.
  • Mae cyfraddau derbyn yn amrywio ar draws gwahanol wasanaethau:
    • Mae oddeutu 22% o aelwydydd yn RhCT yn cael Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. O’r rhain, mae 85% yn cael gostyngiadau llawn
    • Tua 77% oedd cyfraddau derbyn prydau ysgol am ddim yn 2021-22, er bod hyn cyn cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd
    • Yn 2024-25, fe ddosbarthwyd 16,634 o barseli bwyd mewn argyfwng ledled RhCT gan fanciau bwyd a weithredir gan Trussell, gyda 35% o’r rhain ar gyfer plant
  • Ceir ymdrechion parhaus ar lefel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i symleiddio prosesau ymgeisio a chysylltu data rhwng sefydliadau, ond mae angen rhagor o waith i wireddu’r manteision posibl a rhoi hyn ar waith yn ymarferol.

Darllenwch yr adran nesaf: Cwestiynau adolygu 6 a 7: Beth yw’r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau ar gyfer lleddfu tlodi yn RhCT a beth fyddai’n gweithio i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy croesawus a grymusol?

Diweddaru: 18 Mar 2026, 02:10 PM