Cwestiynau adolygu 6 a 7: Beth yw’r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau ar gyfer lleddfu tlodi yn RhCT a beth fyddai’n gweithio i wneud y gwasanaethau hyn yn fwy croesawus a grymusol?

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
A ninnau wedi archwilio’r gwasanaethau a ddarperir yn RhCT a’u cyfraddau derbyn, mae’r adran olaf hon yn defnyddio gwybodaeth broffesiynol a phrofiad personol i adnabod y rhwystrau i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a chyfleoedd posibl ar gyfer newid. I wneud hyn, fe ddefnyddiom ni wahanol ddulliau i ymgysylltu â’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn RhCT.
I gasglu tystiolaeth ar ffurf gwybodaeth broffesiynol, fe gynhaliom ni weithdy gyda rhwydwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd RhCT, a drefnwyd ar y cyd gydag Interlink RhCT (un o’r partneriaid sy’n cydweithio gyda’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd). Roedd 22 o gynrychiolwyr o fudiadau cymunedol yn bresennol yn hwn, ac fe ddarparon nhw fewnwelediad i’w profiadau o gefnogi teuluoedd yr effeithir arnynt gan dlodi yn RhCT a ble yr oedd cyfleoedd i newid yn eu tyb hwy.
I gasglu tystiolaeth ar ffurf profiad byw, fe ddefnyddiom ni nifer o wahanol fathau o ddulliau casglu data. Fe gynhaliom ni arolwg ar wefan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd a hwnnw’n cynnwys cwestiynau meintiol ac ansoddol, gan gael 85 o ymatebion. Ceir crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr arolwg yn Atodiad 3. Fe wnaethom hefyd gynnal cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws yn y cnawd gyda defnyddwyr gwasanaethau ym mudiadau partner cymunedol Theatr Spectacle, Heol Chwarae Rôl, a’r Hyb Cymorth Ymddygiad. Yn un o’r lleoedd hyn, gofynnwyd hefyd i ddefnyddwyr gwasanaethau ddisgrifio’u profiadau o gael mynediad at wasanaethau, ac awgrymu gwelliannau trwy ychwanegu nodiadau gludiog at fwrdd bwletin. Fe wnaeth y dulliau casglu data hyn yn y cnawd gyrraedd oddeutu 25 o gyfranogwyr.
Fe wnaeth y dulliau casglu data cychwynnol hyn ein galluogi i adnabod themâu allweddol o’r data. Wedyn fe geisiom ni archwilio’r themâu hyn ymhellach yng nghyfarfodydd y Gweithgor, lle cynhaliom ni dair sesiwn panel tystiolaeth, gan alluogi Aelodau i glywed yn uniongyrchol gan y rhai â gwybodaeth broffesiynol a phrofiad personol. Fe ganolbwyntiodd dau o’r rhain ar dystiolaeth ar ffurf gwybodaeth broffesiynol, gyda’r cyntaf yn trafod systemau data a rhannu gwybodaeth a’r ail yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r cyhoedd. Ar draws y sesiynau hyn, clywsom dystiolaeth gan Swyddogion ym maes gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau a thîm y Strategaeth Dai, cydweithiwr o Cyngor Ar Bopeth RhCT, a chynrychiolwyr o fudiadau partner cymunedol.
Roedd y sesiwn profiad byw yn cynnwys tystiolaeth gan riant i blentyn niwroamrywiol sy’n ymwneud yn weithredol â grwpiau cymorth i bobl niwroamrywiol, yn ogystal â thrigolyn heb hawl i gyllid cyhoeddus a chydweithiwr o Y Plant Affricanaidd, mudiad cymunedol.
Mae gweddill yr adran hon yn disgrifio’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’r corff o ddata a gasglwyd trwy’r dulliau a ddisgrifir uchod. O fewn pob thema, rydym yn dechrau trwy ddisgrifio’r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau, yna’n canolbwyntio ar y cyfleoedd posibl ar gyfer newid.
Ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael
Roedd tystiolaeth ar ffurf profiad byw a gwybodaeth broffesiynol yn nodi ei bod hi’n anodd i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r llu o wahanol wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol a gynigir. Fe ddwedon nhw fod ymwybyddiaeth o wahanol wasanaethau’n galw am “lawer o ymchwil annibynnol” a bod cymorth yn anodd dod o hyd iddo. Siaradodd cyfranogwyr am gymysgedd o ffyrdd y gallent ddod i wybod am wasanaethau cymorth sydd ar gael, gan gynnwys ar lafar gwlad a thrwy ddefnyddio offer ar-lein. O ystyried yr ystod o wahanol fudiadau a sefydliadau sy’n gyfrifol am weinyddu a rhoi cymorth, nid oedd un lle i adnabod yr holl gymorth sydd ar gael. Dywedodd rhai cyfranogwyr fod eu henillion ar hyn o bryd yn uwch na’r trothwy sy’n ofynnol i gael mynediad at y rhan fwyaf o wasanaethau a gynigir, ond pe bai eu hamgylchiadau’n newid na fyddent yn gwybod o anghenraid sut i ymgeisio am gymorth na sut i gael mynediad ato.
Cafodd chwiliadau ar y we a phostiadau Facebook eu disgrifio fel ffynhonnell allweddol ar gyfer adnabod cymorth, er bod rhai wedi dweud eu bod yn ddrwgdybus y gallai hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn sgamiau. Ceir canfyddiad bod “llawer o gamwybodaeth o gwmpas” a bod hyn yn cael ei fytholi gan gamddealltwriaeth ynghylch pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato. Yn yr un modd, fe wnaeth y rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus ddisgrifio sgeptigaeth tuag at beth gwybodaeth ar-lein, gan bod unigolion yn credu y gallai fod yn “drap” a fyddai’n gallu effeithio’n ddiweddarach ar eu statws mewnfudo. Disgrifiodd ychydig o gyfranogwyr sut yr oeddent wedi defnyddio cyfrifwyr budd-daliadau ar-lein, y mae rhai ohonynt yn cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth y DU, er bod profiadau gyda’r rhain yn gymysg.
Awgrymwyd y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo cymorth ymarferol ac ariannol ar y cyfryngau cymdeithasol, a llunio rhestr neu gyfeiriadur o’r gwasanaethau y gall y rhai sy’n byw yn RhCT gael mynediad atynt. Awgrymodd eraill fod cofrestru mewn ysgol yn gyfle da i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol, yn enwedig o ystyried rôl allweddol prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.
Dywedodd un cyfranogwr mai “perthnasoedd rhyngbersonol sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r cwestiwn a yw rhywun yn cael mynediad at gymorth ai peidio”. Fe enwodd trigolion ystod o wahanol ffyrdd yr oeddent wedi cael eu hysbysu pa gymorth all fod ar gael iddynt, gan gynnwys trwy fydwragedd, ymwelwyr iechyd, ysgolion, prifysgolion, teulu a ffrindiau, a mudiadau cymunedol. Mae’r perthnasoedd hyn yn gweithredu fel hwylusydd allweddol i gael mynediad at gymorth ac, mewn nifer o achosion, maent yn mynd y tu hwnt i ddim ond cyfeirio a rhoi cyngor, gan fod â rôl “dal llaw” yn y broses o gael mynediad at wasanaethau hefyd. Roedd hyn yn hollbwysig i rai cyfranogwyr, gydag un yn dweud y byddent wedi teimlo gormod o embaras i geisio mynediad at fanc bwyd pe na baent wedi cael cymorth gan ymwelydd iechyd. Roedd diffyg ymddiriedaeth a gwarthnod canfyddedig yn broblem allweddol a oedd yn atal pobl rhag ymgysylltu â gwasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol, ymgeisio amdanynt, neu gael mynediad atynt, gyda’r sector gwirfoddol yn aml yn darparu man diogel heb warthnodi. Yn yr un modd, dywedodd nifer o gyfranogwyr fod Cyngor Ar Bopeth yn darparu ffynhonnell cyngor a chymorth annibynnol, ond cydnabuwyd fod prinder capasiti’n cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer cyngor annibynnol fel hyn.
Roedd llawer o awgrymiadau ynghylch sut y gallai’r Cyngor ddefnyddio’r sector gwirfoddol yn well i ymdrin â rhwystrau i wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn dod o’r gweithdy a gynhaliom ni gyda mudiadau cymunedol. Roedd y syniadau hyn yn cynnwys hyfforddiant a digwyddiadau i staff y sector gwirfoddol, fel eu bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd ac yn gallu cyfeirio pobl atynt yn effeithiol, yn ogystal â bod y Cyngor yn defnyddio mannau’r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau galw-i-mewn a stondinau cymorth yn uniongyrchol i deuluoedd. Awgrymwyd hefyd y gallai gweithwyr proffesiynol eraill sydd â rolau cyfeirio gael eu huwchsgilio, megis bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
Meini prawf cymhwystra
Roedd peth wmbredd o dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ymwneud â’r meini prawf cymhwystra ar gyfer llawer o wasanaethau, a’r syniad bod “llawer o bobl yn llithro trwy’r bylchau”. Rhannodd cyfranogwyr niferus y farn y gall teuluoedd ddal i’w chael hi’n anodd hyd yn oed os ydynt yn ennill mwy na’r trothwy i gael mynediad at y rhan fwyaf o gymorth. Yn yr un modd, fe amlygodd nifer o gyfranogwyr rôl tlodi mewn gwaith yn RhCT, gan gynnwys costau cynyddol tai a hanfodion pob dydd, gydag un cyfranogwr yn dweud eu bod yn trafod a ddylent leihau gwaith i fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol. Fe wnaeth eraill amlygu effeithiau “andwyol” costau gofal plant ar y rhai mewn gwaith:
“Rydym ni’n dechnegol uwchlaw’r trothwy ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau cymorth, ond mae cost gofal plant yn golygu ein bod ni’n ei chael hi’n anodd yn ariannol.”
Yn yr un modd, roedd rhai cyfranogwyr heb hawl i gyllid cyhoeddus (HHGC). Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Gweithgor yn trafod y gall teuluoedd heb hawl i gyllid cyhoeddus fod yn byw “o’r llaw i’r genau” oherwydd costau byw uchel a bod dim llawer o gymorth ar gael. Er ei bod yn wir, mewn egwyddor, bod llawer o deuluoedd yn ennill llai na’r trothwy incwm gofynnol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, mae eu statws mewnfudo’n eu gwneud yn anghymwys i gael mynediad at lawer o hyn. Gallai rhestr o’r gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai HHGC gael mynediad atynt fod o fudd i drigolion a mudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n eu cefnogi.
Y tu hwnt i hyn, roedd awgrymiadau ynghylch sut y gellid mynd i’r afael â meini prawf cymhwystra fel rhwystr yn nodweddiadol yn trafod yr angen i’r Cyngor ystyried ei arlwy o gymorth i’r rhai sydd dros y trothwy ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau ond yn dal i’w chael hi’n anodd. Fodd bynnag, nid yw’n glir sut y gellid gwneud hyn yn ymarferol.
Ymgeisio am wasanaethau
Fe wnaeth cyfranogwyr hefyd ddisgrifio’r rhwystrau yr oeddent yn eu hwynebu wrth ymgeisio am gymorth ymarferol ac ariannol. Fe wnaeth rhai drafod y diffyg opsiynau yn y cnawd neu opsiynau galw-i-mewn, gan amlygu ei bod bellach yn ofynnol gwneud apwyntiad ar gyfer gwasanaeth IBobUn y Cyngor, a bod eu hamgylchiadau personol hwy eu hunain (er enghraifft, bod yn rhiant i blant niwroamrywiol) yn golygu nad oedd opsiynau presennol yn ddigon hyblyg iddynt. Yn yr un modd, mae diffyg opsiynau yn y cnawd gyda’r nos ac ar benwythnosau’n golygu eu bod yn tueddu i fod yn llai hygyrch i’r rhai mewn gwaith. Roedd rhoi cymorth yn y cnawd y tu hwnt i oriau gwaith nodweddiadol, a heb yr angen am apwyntiad ymlaen llaw, yn awgrymiadau a wnaed gan gyfranogwyr. Awgrymwyd hefyd fod angen i unrhyw gymorth a gynigir gael ei roi heb farnu a heb warthnodi, gydag un unigolyn yn amlygu pecyn cymorth a hyfforddiant ‘Gweithio â Thosturi’ y Samariaid fel modd i wneud hyn.
Fe wnaeth eraill amlygu bod canolfan cyswllt ffôn y Cyngor yn golygu y gallai cynrychiolydd lenwi ffurflenni cais ar ran yr ymgeisydd, er bod un cyfranogwr wedi dweud bod gorbryder yn golygu ei bod hi’n anodd iddynt ffonio neu ofyn am help yn y cnawd. Er bod ffurflenni ar-lein i’w cael, fe amlygodd cyfranogwyr nad oedd y rhain wastad wedi’u geirio’n syml, yn enwedig i’r rhai â dyslecsia, ac nad oedd wastad yn bosibl cadw ffurflenni’r Cyngor a dychwelyd atynt yn ddiweddarach, gan olygu bod rhaid eu cwblhau i gyd ar un tro.
Roedd rhai gwasanaethau penodol, megis Prydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, yn cael eu hystyried yn wasanaethau hawdd i’w cyrchu gan nifer o gyfranogwyr, yn enwedig o ystyried nad oedd angen i geisiadau am Brydau Ysgol Am Ddim gael eu hailgyflwyno bob blwyddyn. Fodd bynnag, roedd y prosesau ymgeisio ar gyfer mathau eraill o gymorth ariannol yn cael eu hystyried yn anos o lawer, gydag un cyfranogwr yn disgrifio eu profiad o gael mynediad at Ostyngiadau’r Dreth Gyngor fel profiad “dryslyd, hirfaith, a minnau ddim yn gwybod pa wybodaeth yr oedd angen ei darparu”. Yn yr un modd, disgrifiwyd y ffurflen gais ar gyfer y Grant Gwresogi ac Arbed fel un “hir nad yw’n rhwydd iawn” ond un sy’n “werth chweil yn y pen draw oherwydd yr arbedion”.
Er nad y Cyngor sy’n gyfrifol am Gredyd Cynhwysol, disgrifiwyd hynny fel rhywbeth sy’n “[agor] llawer o ddrysau o ran mynediad at arian a chymorth”. Fe wnaeth rhai ei ddisgrifio fel cymorth sy’n “gymhleth i’w gyrchu a’i ddeall” gan ddweud bod oedi sylweddol rhwng cyflwyno’r cais a chael taliad, a oedd yn golygu, mewn un achos, bod rhaid i’r cyfranogwr gael mynediad at fanciau bwyd yn y cyfamser.
Roedd nifer o awgrymiadau ynghylch sut y gallai’r Cyngor newid ei brosesau digidol i alluogi ceisiadau rhwyddach gan gynnwys y gallu i gadw ffurflenni a dychwelyd atynt, yr angen i hygyrchedd gael ei ystyried yn ystod pob cam, ac i ddyluniad ffurflenni gael ei wella.
Systemau data a gwybodaeth
Roedd un rhwystr allweddol i fynediad at wahanol fathau o gymorth yn ymwneud â rhannu data o fewn a rhwng sefydliadau. Gall sefydliadau fod yn ymwybodol y byddai amgylchiadau sy’n gwneud teulu’n gymwys ar gyfer un gwasanaeth ganiatáu iddynt gael mynediad at rai eraill hefyd, ond nid yw’r pasbortio hwn yn digwydd yn ymarferol, gan nad ydynt yn gallu rhannu’r data perthnasol. O ganlyniad, rhaid i deuluoedd ddarparu’r un dogfennau ategol ar gyfer ceisiadau lluosog drosodd a throsodd.
Roedd tystiolaeth ar ffurf gwybodaeth broffesiynol yn disgrifio uchelgais i wella trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau ac ar draws adrannau, ond bod y gofyniad i gael cydsyniad i wneud hyn yn cyfyngu ar hynny. Fodd bynnag, disgrifiwyd rhai cysylltiadau cadarnhaol gan drigolion, gan gynnwys y gallu i adnabod cymhwystra ar gyfer Gostyngiadau’r Dreth Gyngor trwy statws Credyd Cynhwysol, ac i’r Adran Gwaith a Phensiynau rannu manylion ar ran derbynyddion. Yn yr un modd, er bod y Cyngor yn amcanu at ddefnyddio ffynonellau data allanol i adnabod y rhai mewn angen a chysylltu data ar lefel unigolion, ceir risgiau mewn perthynas â phroffilio a disgwyliadau y mae angen eu rheoli.
Mae Cyngor Ar Bopeth wedi amlygu bod cyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach gyda’r Cyngor, ac y gallai’r Cyngor wneud atgyfeiriadau mwy rhagweithiol at y gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth lle’r oeddent yn ymwybodol o faterion penodol o gyswllt â thrigolion. Gallai hyrwyddo Cyngor Ar Bopeth neu wasanaethau cynghori eraill ar lythyrau gan y Cyngor ynghylch cymorth gyda dyledion neu gymorth ariannol hefyd gynnig pwynt cyswllt cyntaf annibynnol. Dywedodd nifer o ymatebwyr hefyd y byddai o fudd cael mynediad at wasanaethau lluosog ag un ffurflen, a hwythau felly’n darparu tystiolaeth ategol unwaith yn unig.
Pwyntiau Allweddol
- Mae rhwystrau i gael mynediad at gymorth ymarferol ac ariannol a adnabuwyd yn RhCT yn cyd-fynd â’r rhai a adnabuwyd yn y llenyddiaeth academaidd: ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth, gwarthnod, meini prawf cymhwystra a systemau digidol.
- Mae trigolion yn ei chael hi’n anodd deall pa gymorth sy’n bodoli a sut i gael mynediad ato. Maent yn aml yn dibynnu ar yr hyn a glywir ar lafar gwlad, yn enwedig o berthnasoedd â gweithwyr proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt. Er bod llawer wedi disgrifio dod o hyd i wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gall fod yn annibynadwy ac yn anghywir. Mae gan y sector gwirfoddol rôl allweddol o ran rhoi cymorth i deuluoedd ac mae’n cynnig llwybr allweddol y gellir ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth.
- Mae meini prawf cymhwystra i gael mynediad at y rhan fwyaf o wasanaethau cymorth, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, yn golygu y gall y rhai nad ydynt yn gymwys i gael cymorth fod yn ei chael hi’n anodd o hyd. Awgrymwyd y gallai’r Cyngor wneud mwy i helpu’r rhai y mae eu henillion uwchlaw’r trothwy o drwch blewyn, ond nid yw’n glir sut y gellid cyflawni hyn yn ymarferol.
- Disgrifiodd cyfranogwyr ddiffyg cymorth yn y cnawd sy’n hyblyg, gan bod hyn yn aml ar gael dim ond yn ystod oriau gwaith ac y gall fod yn ofynnol cael apwyntiad ar ei gyfer. Er ei bod yn hawdd gwneud cais am rai gwasanaethau, roedd hi’n anos o lawer gwneud cais am eraill (megis Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni). Fe wnaed nifer o awgrymiadau ynghylch sut y gallai’r Cyngor wella’r gwasanaethau y mae’n eu gweinyddu, ar-lein ac yn y cnawd.
- Mae cyfyngiadau mewn systemau data’n golygu y gall fod yn anodd rhannu data rhwng ac o fewn sefydliadau. Er bod uchelgeisiau o fewn y Cyngor i wella hyn, mae’n anodd eu gwireddu. Fodd bynnag, fe wnaeth trigolion bwysleisio’r manteision y gallai un pwynt cyswllt eu dwyn.