Casgliad

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio ein hymdrechion ni i gynorthwyo’r Gweithgor i ddatblygu argymhellion a oleuwyd gan dystiolaeth y gellir eu rhoi ar waith i helpu i leddfu tlodi plant yn RhCT. Mae’n nodi ein proses ni ar gyfer gweithio gydag Aelodau’r Gweithgor i adnabod meysydd ffocws penodol a hidlo’r dystiolaeth academaidd genedlaethol i ganolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy’n wynebu teuluoedd a chymunedau.
Fe wnaethom amcanu yn gyntaf at adnabod y gwasanaethau pwysicaf i leddfu tlodi. Fe wnaethom adnabod dau grŵp o wasanaethau, y maent ill dau’n gysylltiedig â rhwystrau gwahanol. Mae ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant yn cynnwys gwasanaethau megis hamdden, addysg, gwasanaethau plentyndod cynnar, gwasanaethau ieuenctid a mannau awyr agored – mae’r rhain yn nodweddiadol yn wasanaethau craidd gan y Cyngor ac yn gysylltiedig â rhwystrau strwythurol neu rwystrau sy’n gysylltiedig â mynediad ffisegol. Mae gwasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn nodweddiadol yn cael eu gweinyddu gan y Cyngor ar ran asiantaethau eraill megis Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, a gallant gynnwys prydau ysgol am ddim, rhyddhad y Dreth Gyngor, nawdd cymdeithasol, cyngor ynghylch dyledion a chyngor ar dai. Y rhwystrau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn yw ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth, gwarthnod, allgáu digidol a meini prawf cymhwystra. Canfu ein hadolygiad ni o’r hyn sy’n gweithio i ymdrin â’r rhwystrau hyn amrywiaeth o arfer da a roddwyd ar waith mewn ardaloedd eraill.
Roedd y Gweithgor yn awyddus i ganolbwyntio ar y ddarpariaeth o ran cymorth ariannol ac ymarferol i deuluoedd yn RhCT. Gan fwrw golwg ar ddata ar y boblogaeth a data sefydliadol, canfuom fod ystod o wasanaethau y gall teuluoedd yn RhCT gael mynediad atynt, a ddarperir gan y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, a bod gan y rhain lefelau amrywiol o ran eu derbyn. Er bod ymdrechion parhaus i symleiddio prosesau, mae prosesau ymgeisio ar wahân yn ofynnol ar gyfer llawer o wasanaethau’r sector cyhoeddus, gan olygu ei bod yn ofynnol cyflwyno’r un wybodaeth, er bod y meini prawf cymhwystra yn aml yn debyg.
Canfuom rwystrau i gael mynediad at wasanaethau cymorth ymarferol ac ariannol yn RhCT a oedd yn debyg i’r rhai a adnabuwyd yn y llenyddiaeth ehangach: ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth, meini prawf cymhwystra, ymgeisio am wasanaethau a systemau data a gwybodaeth. Roeddem yn gallu adnabod materion penodol yn RhCT gan ddefnyddio gwybodaeth broffesiynol a phrofiad personol, gan dynnu ar y ffynonellau tystiolaeth hyn i hefyd adnabod cyfleoedd posibl ar gyfer newid gan y rhai sy’n darparu, yn gweinyddu ac yn cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Roedd cryfhau cysylltiadau presennol rhwng y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, manteisio ar gyfleoedd ar gyfer trawsnewid digidol, a rhoi cymorth hygyrch yn y cnawd i gyd yn themâu allweddol a adnabuwyd gan y gymuned pan ofynnwyd iddynt am gyfleoedd posibl ar gyfer newid.
Datblygodd y Gweithgor ddeunaw o argymhellion, sydd i’w cael, ochr yn ochr â’r dystiolaeth ategol o’n gwaith, yn Atodiad 4. O’r argymhellion hyn, cafodd yr argymhellion eu derbyn yn unfrydol gan y Cabinet. Byddant yn cael eu dyrannu i feysydd gwasanaeth yn y Cyngor a’u monitro i asesu cynnydd.