Cyflwyniad

Rhannu Cyflwyniad ar Facebook Rhannu Cyflwyniad Ar Twitter Rhannu Cyflwyniad Ar LinkedIn E-bost Cyflwyniad dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae awdurdodau lleol ledled y DU o dan bwysau ariannol cynyddol. Amcangyfrifodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (2024) fwlch cyllidebol o £559 miliwn yn 2025-26 ar gyfer gwasanaethau Cynghorau yng Nghymru. Mewn ymateb i'r cyfyngiadau cyllidol hyn, mae’r sylw’n troi’n ôl at rôl 'gwariant ataliol' mewn ymdrechion i leihau'r galw am wasanaethau yn y dyfodol ledled y DU.

Mae ymyriadau gwariant ataliol sy'n lleihau'r galw am wasanaethau acíwt yn cael eu cydnabod yn eang fel rhai cost-effeithiol. Fodd bynnag, mae'r 'arbedion' hyn yn aml yn cael eu gwireddu dros y tymor hwy, a gall cylchoedd gwleidyddol beri i benderfynwyr flaenoriaethu canlyniadau byrdymor, gan 'anwybyddu manteision dwys a pharhaus gweithgarwch ataliol' (Scott, 2024: 9). Mae cynnydd mewn galw acíwt a phwysau ariannol sylweddol hefyd wedi arwain at ostyngiad mewn gwariant ataliol (Hoddinott, Davies a Kim, 2024).

Mae'r maes ffocws ar gyfer ymdrechion ataliol yn amrywio rhwng gwahanol gyrff cyhoeddus. Mae'r rhai sy'n dod o fewn cylch gwaith Awdurdodau Lleol yn aml yn cael effaith gadarnhaol ar benderfynyddion cymdeithasol, neu ‘gonglfeini’ iechyd, gan gynnwys meysydd fel trafnidiaeth, cyflogaeth, tai, addysg, aer glân ac amgylcheddau diogel. Gall unrhyw arbedion a gyflawnir gronni i rannau eraill o'r sector cyhoeddus (e.e. gall buddsoddiad gan Awdurdod Lleol arwain at lai o gostau i'r heddlu neu fyrddau iechyd). Yng Nghymru, mae potensial i arbedion ar y cyd gael eu cydnabod a'u gwireddu. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar wasanaethau cyhoeddus i flaenoriaethu meddwl am y tymor hir ac atal problemau rhag gwaethygu, ac mae'n cynnig cyfle i werthuso ymdrechion ataliol ar y cyd.

Mae adnabod pa ymyriadau ataliol sy'n effeithiol a ble y gall y budd gronni yn dasg gymhleth. Yn gyntaf, mae'n anodd diffinio’r hyn sy’n gyfystyr â gweithgaredd ataliol; daeth y Sefydliad dros Lywodraeth i'r casgliad ‘nad oes ffordd amlwg, wrthrychol o wahaniaethu rhwng gwasanaethau, polisïau a rhaglenni acíwt ac ataliol’ (Hoddinott, Davies a Kim, 2024: 9). Yn ail, nid yw cyfriflyfrau Awdurdodau Lleol wedi'u sefydlu ar hyn o bryd mewn modd sy’n ei gwneud yn hawdd cynnal asesiad o lefelau buddsoddiad ataliol (Roy, 2024). Yn olaf, gall natur hirdymor ymdrechion ataliol wneud mesur yr effaith yn gryn her. Er mwyn dangos achosiaeth a chost-effeithiolrwydd ymyriadau penodol, efallai y bydd yn rhaid wrth astudiaethau ymchwil ar raddfa fawr a gwerthusiadau economaidd costus sy'n ei gwneud yn bosibl asesu dros gyfnodau hir o amser, a hyd yn oed wedyn, efallai y bydd hi’n anodd priodoli deilliant i wasanaeth penodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS Rhondda Cynon Taf) a Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn cydweithio i ddatblygu proses i alluogi'r Cyngor i fapio gwariant ataliol a deall deilliannau posibl yn well. Er mwyn cyflawni hyn, aethom ati i wneud y canlynol:

  • Diffinio gwahanol fathau o atal ar gyfer cyd-destun Awdurdod Lleol;
  • Disgrifio faint sy'n cael ei wario ar gyflawni gweithgareddau ataliol; ac
  • Asesu effaith bosibl gwariant o ran deilliannau i drigolion a chymunedau ac adenillion ar fuddsoddiad.

Os caiff bylchau mewn tystiolaeth neu o ran mesur effaith eu hadnabod, rydym yn amcanu at roi cymorth i ddatblygu sgiliau a chapasiti ar gyfer mesur effaith a/neu roi cymorth i ddatblygu cynigion ar gyfer cyllid ymchwil.

O ystyried cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti mewn awdurdodau lleol, y nod oedd archwilio sut i fapio gwariant a deilliannau ar gyfer tri maes penodol, gan dynnu ar dystiolaeth ac arbenigedd presennol. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o'r meysydd hynny: atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod.

Wrth wneud y gwaith hwn, fe wnaethom addasu diffiniadau o atal i'w defnyddio mewn lleoliadau awdurdodau lleol (gweler yr adran isod). Fe wnaethom hefyd bartneru gyda'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i ddisgrifio faint sy'n cael ei wario, gan dynnu ar eu hymdrechion a'u harbenigedd o ran cynorthwyo awdurdodau lleol i fapio gwariant ataliol (Scott, 2025). Ceir rhagor o wybodaeth am waith CIPFA yn Adran 6. Er mwyn archwilio deilliannau posibl gwasanaethau, fe wnaethom archwilio'r rhai a gyflawnwyd gan wasanaethau tebyg mewn ardaloedd eraill, gan dynnu ar werthusiadau presennol.

Diffinio atal

Tabl 1: Categorïau atal

Categori a Phwrpas Atal

Poblogaeth darged (CIPFA)

Sylfaenol (CIPFA)

Mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol, economaidd

ac amgylcheddol afiechyd ac anghydraddoldebau

Poblogaeth gyfan neu grwpiau eang

Cynradd (CCD)

Creu'r amodau lle nad yw problemau’n codi yn y dyfodol

Pobl neu grwpiau sy’n wynebu risg o ddatblygu problem benodol

Eilaidd (CCD)

Targedu camau gweithredu lle ceir risg uchel y bydd

problem yn digwydd

Pobl sy'n dangos arwyddion cynnar o broblem neu risg uchel o'i datblygu

Trydyddol (CCD)

Ymyrryd i atal problem rhag gwaethygu neu ailddigwydd

Pobl sydd â chyflwr presennol neu sy'n profi deilliannau negyddol

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn tynnu ar ddiffiniadau o atal a amlinellwyd gan CIPFA a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (CCD), fel a ddangosir yn Nhabl 1 isod. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein nodyn briffio ar ddiffinio gwariant ataliol (Notman, Bryan a Lloyd, 2025).

Atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod: cwestiynau’r adolygiad

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar un maes atal: atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod. Daeth gwerthusiad a oedd yn ystyried a yw gwasanaethau yn RhCT yn atal plant rhag bod angen gofal ac yn cynorthwyo plant mewn modd diogel i adael gofal statudol, a gynhaliwyd yn 2020, i'r casgliad bod angen gwneud mwy i leihau nifer y babanod (plant o dan 12 mis oed) sy'n dod yn blant sy’n derbyn gofal (Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, heb ei gyhoeddi). Fe wnaeth y gwerthuswyr amlygu tuedd gynyddol ymhlith awdurdodau lleol i gychwyn achosion gofal ar adeg neu yn fuan ar ôl genedigaeth plentyn, gan ddarparu 'ffenestr fer fel arfer ar gyfer asesiad cyn geni'. Canlyniad hyn yw nad yw darpar rieni, y gwyddys eu bod yn fregus, yn cael digon o gyfle i weithio'n bwrpasol ar eu sgiliau rhianta cyn i'r plentyn gael ei dynnu o'u gofal.

O ganlyniad i adroddiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, cafodd ffrydiau cyllid eu hailgyflunio i ddarparu Magu, "llwybr gofal integredig i fenywod beichiog a'u teuluoedd ar draws gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac ar ffiniau gofal, sy'n canolbwyntio ar adeiladu sgiliau a gwydnwch a lleihau'r risg" (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2021). Mae'r term 'Magu' yn hybu natur barhaus, hirdymor y cymorth y mae ei hangen i gyflawni deilliannau gwell.

Er bod amrywiaeth o wasanaethau’n cyfrannu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn RhCT (ac wedi’u cynnwys yn yr asesiad ariannol yn adran 1), dim ond Magu sydd â'r nod ataliol hwn fel ei brif bwrpas. Mae'r ffocws ar effaith gwasanaethau, ac felly adrannau eraill yr adroddiad hwn, felly ar ddeilliannau ac effeithiau Magu a gwasanaethau tebyg a sefydlwyd mewn ardaloedd eraill.

Mae Tabl 2 isod yn amlygu’r cwestiynau a dulliau ymchwil, ynghyd â’r mathau o dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Rydym yn canolbwyntio ar ddisgrifio a thracio gwariant ataliol yn adran 1, gyda gweddill yr adroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar effaith. Yna mae Adran 2 yn archwilio data poblogaeth i’w gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth well am faint y broblem.

Yn adrannau 3 a 4, rydym yn archwilio tystiolaeth academaidd ar y deilliannau i blant a theuluoedd o ganlyniad i wahanu rhieni a’u babanod, gan gynnwys profiad rhieni o achosion gofal statudol. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth am yr hyn y mae gwasanaethau yn anelu at ei atal.

Wedyn fe wnaethom adolygu gwasanaethau tebyg i Magu sydd wedi cael eu gwerthuso'n ffurfiol i adnabod arfer da (adran 5), a'r deilliannau buddiol a adnabuwyd o ganlyniad i'r gwasanaethau hyn (adran 6). Yn adran 7, rydym yn cymharu Magu â modelau arfer da i ddeall nodweddion cyffredin, a sut y gall y rhain gyfrannu at ddeilliannau buddiol. Yn olaf, mae'r wybodaeth yn cael ei dwyn ynghyd i wneud asesiad o Magu o ran yr adenillion ar fuddsoddiad (adran 8).

Mae'n bwysig nodi, er ein bod yn canolbwyntio ar atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, na fydd y deilliant hwn bob amser yn bosibl nac yn ddymunol ym mhob achos. Mae ansawdd yr amgylchedd teuluol y caiff plentyn ei fagu ynddo’n cael dylanwad sylweddol ar eu profiadau a'u deilliannau hirdymor (Clements a Birch, 2023). Er bod y manteision sy’n deillio pan fo plant yn aros gyda'u teuluoedd biolegol yn dra hysbys, mae'r un mor bwysig ystyried y risgiau cysylltiedig. Gall profiadau negyddol yn y cartref neu'r gymuned ehangach gynyddu'r tebygolrwydd o ddeilliannau gwael ac ymgysylltu ag ymddygiadau niweidiol wrth i blant dyfu'n hŷn (Public Health England, 2020). Pan nad yw'n fuddiol i blentyn aros gyda'u rhieni biolegol, gall ymyriadau gan wasanaethau statudol liniaru risgiau a hybu taflwybrau cadarnhaol i blant bregus (Public Health England, 2020). Mae gwasanaethau yn aml yn gweithio gyda rhieni bregus ac yn anelu at leihau'r risg i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, lle y bo'n briodol. Fodd bynnag, cydnabyddir ei bod weithiau’n wir nad dyma'r opsiwn gorau i'r plentyn, ac weithiau mae bod angen gwahanu oherwydd y risg sy'n gysylltiedig. Mae'n bwysig cydnabod nad oes modd osgoi pob achos.

Tabl 2: Dulliau a thystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer pob un o gwestiynau’r adolygiad

Cwestiynau’r Adolygiad

Dulliau

Tystiolaeth

1.Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn?

  • Ymarfer mapio gwariant ataliol
  • Data Sefydliadol
  • Gwybodaeth Broffesiynol

2.Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal?

  • Casglu a dadansoddi data
  • Data Poblogaeth
  • Data Sefydliadol

3.Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal?

  • Sgyrsiau gydag arbenigwyr academaidd
  • Adolygiad cwmpasu
  • Tystiolaeth Academaidd

4.Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol?

  • Sgyrsiau gydag arbenigwyr academaidd
  • Adolygiad cwmpasu
  • Profiad Personol (o Dystiolaeth Academaidd)

5.Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd ymyriadau sy'n amcanu at atal babanod rhag cael eu rhoi mewn gofal?

  • Sgyrsiau gydag arbenigwyr academaidd
  • Adolygu gwerthusiadau o wasanaethau
  • Tystiolaeth Academaidd

6.Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni?

  • Sgyrsiau gydag arbenigwyr academaidd
  • Adolygu gwerthusiadau o wasanaethau
  • Tystiolaeth Academaidd
  • Data Mesur Effaith (o Dystiolaeth Academaidd)

7.Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT?

  • Gweithdy gydag ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth
  • Dadansoddiad dogfennol
  • Data Sefydliadol
  • Gwybodaeth Broffesiynol
  • Profiad personol

8.Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn?

  • Ymarfer mapio gwariant ataliol
  • Data Sefydliadol
  • Gwybodaeth Broffesiynol

Darllenwch yr adran nesaf: Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:01 PM