1. Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn?

Rhannu 1. Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn? ar Facebook Rhannu 1. Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn? Ar Twitter Rhannu 1. Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn? Ar LinkedIn E-bost 1. Sut ellir mapio a meintioli gwariant ataliol yn y maes hwn? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Un o'r nodau craidd fel rhan o'n gwaith oedd disgrifio faint sy'n cael ei wario ar gyflawni gweithgareddau ataliol. Mae'r adran gyntaf hon yn disgrifio ein dull o wneud hyn ac yna'n amlygu ein canfyddiadau ar feintioli gwariant sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn RhCT.

Yn ddiweddar, mae'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a'r Sefydliad Iechyd wedi partneru gyda thri Awdurdod Lleol yn Lloegr i ddeall yn well pa arferion sy'n ofynnol i dracio a mesur gwariant ar atal, ac i ba raddau y gellir meintioli gwariant awdurdodau lleol ar gamau ataliol (Roy a Finch, 2023). Roedd gwaith archwilio CIPFA gyda chynghorau partner a rhanddeiliaid ehangach yn ceisio adeiladu consensws ar ddiffiniad a chwmpas ar gyfer gweithredu ataliol, y gellid mapio gwasanaethau/rhaglenni yn eu herbyn i adnabod y lefelau gwariant cyfredol yn erbyn y meini prawf hynny. Fe wnaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT bartneru gyda CIPFA i fanteisio ar eu harbenigedd a'r gwersi a ddysgwyd ganddynt i oleuo ymdrechion i fapio gwariant ataliol yn RhCT.

Fel rhan o'u gwaith, fe wnaeth CIPFA gydgynhyrchu dull ac iddo bedwar cam o fapio a mesur atal, gan ddarparu proses gyson y gellid ei defnyddio ar draws gwahanol feysydd polisi, i ddatblygu dealltwriaeth a rennir am atal ar draws y sefydliad (Scott, 2025). Mae'r pedwar cam yn cynnwys:

  • Pennu’r cwmpas a diffinio maes ffocws eglur
  • Adnabod yr holl wasanaethau a gweithgareddau o fewn y cwmpas, ni waeth a ydynt yn ataliol ai peidio
  • Cymhwyso'r diffiniadau o atal i ddosbarthu pob gwasanaeth yn seiliedig ar ei boblogaeth darged a'i brif bwrpas
  • Casglu gwybodaeth ariannol i ddeall faint sy'n cael ei wario ym mhob maes

(Scott, 2025)

Mae'n bwysig nodi nad yw offeryn CIPFA ond yn ceisio mapio ble y mae arian yn cael ei wario a faint o arian sy'n cael ei wario ar atal, yn hytrach na mesur deilliannau neu effeithiolrwydd, gan ddarparu eglurder a chreu'r sylfaen ar gyfer gwaith arall, fel yn y cwestiynau eraill yn yr adroddiad hwn (Scott, 2025). Mae gweddill yr adran hon yn amlinellu'r canfyddiadau o'n defnydd o offeryn mapio CIPFA, gan geisio meintioli faint o arian yn RhCT sy'n cael ei wario ar wasanaethau sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod.

Mapio gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf

Mae Tabl 3 yn rhoi crynodeb o'r gwariant yn Rhondda Cynon Taf ar wasanaethau sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod. Mae llawer o wasanaethau a adnabuwyd fel rhai sy’n cyfrannu at ddiben atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod hefyd yn darparu gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at blant hŷn hefyd, gyda Magu wedi'i dargedu at fabanod yn unig.

Roedd hyn yn golygu bod angen dosrannu cyllidebau er mwyn tracio’r gwariant ar gyfer y rhai sydd wedi’u dosbarthu’n fabanod. I wneud hyn, fe wnaethom ddefnyddio cyfran yr achosion o dan flwydd oed ar gyfer y gwasanaeth hwnnw, data a oedd yn gryn her i'w gasglu. Roedd nifer o dimau gwahanol yn dal y data hwn, gan olygu bod angen llawer iawn o amser a llafur i'w gael.

Tabl 3: Crynodeb o'r gwariant ataliol ar wasanaethau yn RhCT sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod

Cam Atal

Cyllid Craidd

Cyllid Grant

CYFANSWM

Sylfaenol

£0

£0

£0

Cynradd

£0

£139,698

£139,698

Eilaidd

£7,394

£371,861

£379,255

Trydyddol

£306,599

£340,000

£646,599

CYFANSWM

£313,993

£851,559

£1,165,552

Yn bennaf, mae'r gwasanaethau a adnabuwyd fel rhai sy’n atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn cael eu hariannu â grantiau, gyda hyn yn 73% o gyfanswm y gwariant. O ystyried y gyfran uchel o'r buddsoddiad cyfredol a ariennir â grantiau byrdymor, efallai y bydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf eisiau ystyried ailddyrannu cyllid craidd yn y camau cynradd ac eilaidd er mwyn lliniaru'r risg bosibl i ymyriadau cynharach, pe bai'r cyllid hwn yn lleihau neu'n dod i ben.

Roedd gweithgarwch ataliol yn canolbwyntio'n bennaf ar y cyfnod trydyddol, sef yn ymarferol achosion sy'n agored i wasanaethau statudol. Roedd hyn yn cyfateb i oddeutu 55% o weithgarwch ataliol, yn seiliedig ar werth. Nid oes unrhyw arian yn cael ei wario ar atal sylfaenol yn y maes hwn. Y Cyngor sy’n darparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau a adnabuwyd, er bod rhywfaint o gyllid yn cael ei ddarparu i'r bwrdd iechyd lleol trwy gontractau ar y cyd ar gyfer bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i deuluoedd sy'n fregus.

Nid yw’n rhwydd echdynnu gwybodaeth o’r math hwn o gyfriflyfrau’r Cyngor. Fe gymerodd amser i drafod a chytuno sut y gellid cymhwyso camau atal i wasanaethau, yn seiliedig ar sut y cyllidebwyd ar eu cyfer. Goresgynnwyd hyn trwy symleiddio'r diffiniadau o atal i'r rhai sy'n ymddangos ar ddechrau'r adroddiad hwn a chanolbwyntio ar y boblogaeth darged, sef defnyddwyr gwasanaethau cynradd, boed hynny'n gyfystyr â’r boblogaeth gyfan, neu grwpiau penodol sy’n wynebu risg neu, sy'n profi problem benodol ar hyn o bryd.

Mewn egwyddor, dylai ddod yn haws tracio gwariant ataliol mewn blynyddoedd yn y dyfodol unwaith y mae penderfyniadau cychwynnol wedi cael eu gwneud, gan y bydd angen i wasanaethau yn syml ystyried a yw'r dyfarniadau ar gyfer y cam atal y mae gweithgarwch yn perthyn iddo wedi cael eu newid, a diweddaru’r dyraniad cyllidebol. Fodd bynnag, pan fydd angen cryn dipyn o ddosrannu, fel a welsom wrth inni gymhwyso'r offeryn, mae hyn yn dod yn llafur-ddwys iawn os yw'r dosrannu’n dibynnu ar ddata nad yw ar gael yn rhwydd. Byddai angen newidiadau i strwythur y data i wneud y broses yn fwy di-dor, ond gall hyn ddal i fod yn anodd gan ddibynnu ar yr union ddata y mae ei angen. Ar ben hynny, mae dosrannu gan ddefnyddio llwythi achosion yn ei gwneud hi’n bosibl tracio gwariant ataliol yn ôl-weithredol yn unig, oni bai bod y rhain yn cael eu defnyddio i wneud amcangyfrifon rhagfynegol ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol. Mae hyn yn creu heriau ar gyfer llunio rhagolygon ariannol yn y dyfodol.

Pwyntiau Allweddol

  • Partnerodd CYBI RhCTgyda’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifiaeth (CIPFA) i dynnu ar eu gwaith i fapio gwariant ataliol.

  • Roedd y mwyafrif o'r gwasanaethau a adnabuwyd fel rhai sy’n atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn RhCT yn cael eu hariannu â grantiau ac yn canolbwyntio ar atal trydyddol.

  • Ar hyn o bryd nid yw’n rhwydd echdynnu gwybodaeth am wariant ataliol o gyfriflyfrau’r Cyngor.

  • Er mwyn cadarnhau'r math o atal a chostau cysylltiedig ar gyfer pob gwasanaeth roedd angen trafodaeth faith ac ymdrech sylweddol oherwydd yr angen i ddosrannu.

  • Mae tracio gwariant ataliol yn ôl-weithredol yn creu heriau ar gyfer llunio rhagolygon ariannol yn y dyfodol.

Darllenwch yr adran nesaf: Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:02 PM