2. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal?

Rhannu 2. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal? ar Facebook Rhannu 2. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal? Ar Twitter Rhannu 2. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal? Ar LinkedIn E-bost 2. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am enedigaethau a nifer y plant a roddir mewn gofal? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Ar ôl meintioli'r gwariant ar atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn adran 1, mae ein sylw’n troi at effaith y gwasanaethau hyn (gan ganolbwyntio ar Magu). Mae'r adran hon yn archwilio data poblogaeth ar wahanu rhieni a’u babanod yng Nghymru ac yn RhCT, er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth am y broblem.

Caiff plant sydd yng ngofal eu hawdurdod lleol am fwy na 24 awr eu galw'n gyfreithiol yn 'Blant sy'n derbyn Gofal' (CLA). Mae cyfradd y Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru yn uwch nag unrhyw un o'r pedair gwlad (Tabl 4), er ei bod yn bosibl bod hyn i’w briodoli i amrywiadau yn y ffordd y mae pob gwlad yn cyfrif plant fel rhai sydd mewn gofal, gan wneud cymariaethau uniongyrchol yn anodd (NSPCC, 2024).

Tabl 4: Cyfradd y Plant sy'n Derbyn Gofal ledled pedair gwlad y DU

England

31st March

2023

N. Ireland

31st March

2023

Scotland

31st July

2023

Wales

31st March

2023

Rate of looked after children per 10,000 of the under-18 population

70.5

87.0

121.3

116.4

Source: NSPCC (2024)

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yng Nghymru, bu tuedd raddol tuag i fyny yng nghanran y babanod (a ddiffinnir fel plant o dan 12 mis oed) a roddir mewn gofal, gyda'r gyfran yn codi o 0.49% yn 2004 i 1.08% yn 2024. Mae canran y babanod a roddir mewn gofal yn RhCT wedi bod yn fwy cyfnewidiol, gyda chynnydd sydyn o 0.36% yn 2004 i uchafbwynt o 2.11% yn 2017, ac yna gostyngiad cyson i 0.48% yn 2024.

Mae cyfran y Plant sy’n Derbyn Gofal a ddosberthir fel babanod hefyd wedi bod yn fwy amrywiol yn RhCT. Yng Nghymru, mae plant dan 1 oed yn gyson yn rhoi cyfrif am 4–6% o'r holl blant sy'n derbyn gofal, gan gyrraedd uchafbwynt o 6.12% yn 2017; yn RhCT cyrhaeddodd hyn 7.97% yn 2017, sy'n dynodi cyfradd gymharol uwch o fabanod a roddir mewn gofal o'i gymharu â'r tueddiadau cenedlaethol.

Yng Nghymru yn 2023, esgeuluso a cham-drin oedd y rheswm mwyaf pam fod plant yn cael gofal a chymorth (65%). Mae rhesymau eraill yn cynnwys camweithrediad teuluol (15%), rhianta absennol (3%), teulu dan straen acíwt (10%), anabledd neu afiechyd plentyn (2%), neu ymddygiad cymdeithasol annerbyniol (2%) (Llywodraeth Cymru, 2024a).

Mae'r mesurau hyn yn bwysig. Gall eu profiadau cyn cael eu rhoi mewn gofal effeithio ar blant ymhell ar ôl iddynt ddod yn blant sy’n derbyn gofal, ac mae dod yn blant sy’n derbyn gofal yn gallu effeithio ar blant ymhell wedi iddynt ddod yn oedolion a thrwy gydol eu bywydau fel oedolion. Oherwydd hyn, mae mwy a mwy o sylw yn cael ei roi i botensial ataliol cadw babanod gyda'u rhieni biolegol. Mae'r adran nesaf yn ceisio archwilio deilliannau mynd i mewn i ofal yn fanylach, i ddarparu cyd-destun ychwanegol ar effaith gwahanu rhieni a’u babanod.

Pwyntiau Allweddol

  • Bu cynnydd graddol ledled Cymru yng nghanran y babanod (plant o dan flwydd oed) a roddir mewn gofal dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

  • Mae'r patrwm o ran babanod yn cael eu rhoi mewn gofal yn RhCT yn gyfnewidiol, gyda chynnydd sydyn o 0.36% o'r holl fabanod yn 2004 i uchafbwynt o 2.11% yn 2017, ac yna gostyngiad cyson i 0.48% yn 2024.

  • Yng Nghymru yn 2023, esgeuluso a cham-drin oedd y rheswm mwyaf pam fod plentyn yn cael gofal a chymorth (65%).

Darllenwch yr adran nesaf: Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:02 PM