3. Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal?

Rhannu 3. Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal? ar Facebook Rhannu 3. Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal? Ar Twitter Rhannu 3. Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal? Ar LinkedIn E-bost 3. Beth yw deilliannau byrdymor, tymor canolig a hirdymor rhoi babanod mewn gofal? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Yn yr adran hon, rydym yn ceisio dyfnhau ein dealltwriaeth am y broblem trwy archwilio'r deilliannau i fabanod a roddir mewn gofal. Fodd bynnag, mae mesur effeithiau achosol uniongyrchol gwasanaethau sydd wedi'u bwriadu i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn cyflwyno heriau sylweddol. Felly, rydym yn canolbwyntio ar adnabod deilliannau sy'n gysylltiedig â phrofiad o fod mewn gofal ac yn defnyddio'r rhain fel dangosyddion dirprwyol o'r hyn y gellir ei atal o bosibl pan fydd plentyn yn gallu aros yn ddiogel gyda'i deulu biolegol.

Er nad yw hynny'n cael ei archwilio'n helaeth yn y llenyddiaeth, gall deilliannau amrywio gan ddibynnu ar y trefniadau a roddwyd ar waith ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Pan fydd baban yn cael ei gymryd oddi wrth ei deulu biolegol, gellir eu lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau gofal. Gall y rhain gynnwys gofal gan berthynas, gofal maeth, gofal preswyl neu fabwysiadu. Yn nodedig, nid yw'r mwyafrif o fabanod a roddir mewn gofal yng Nghymru yn mynd i ofal preswyl, a gofal maeth gyda gofalwr nad yw'n perthyn iddynt yw'r math mwyaf cyffredin o leoliad (Cowley et al., 2023). Canfu un astudiaeth gan ddefnyddio data gweinyddol yn Lloegr, ar gyfer plant a roddwyd mewn gofal dan ddwy oed, fod 41% wedi cael eu mabwysiadu, 32% wedi cael eu dychwelyd at riant, a bod gan 17% Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu Orchymyn Preswylio, gyda 6% yn aros mewn gofal (Neil, Gitsels a Thoburn, 2019).

Mae gofal preswyl yn gysylltiedig â'r deilliannau lleiaf ffafriol (Sacker et al., 2021). Gall plant mewn opsiynau parhaol, gan gynnwys mabwysiadu, brofi deilliannau llai negyddol na'r rhai mewn mathau eraill o ofal, gydag un astudiaeth yn amlygu’r ffaith bod gan blant a gafodd ofal gan berthynas neu ofal maeth lai o anawsterau parhaus na'r rhai a gafodd fathau eraill o ofal (Li, Chng, a Chu, 2017; Coram BAAF, 2024). Mae ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â deilliannau gwell yn cynnwys lleoliadau sefydlog hirdymor mewn lleoliadau anogol lle adnabyddir ymddygiad plant a lle ymatebir iddo (Burch et al., 2018). Gall y gwahaniaethau hyn mewn deilliannau adlewyrchu natur y lleoliadau a phrofiadau'r unigolyn dan sylw.

Mae cymharu deilliannau ar gyfer plant mewn gofal yn broblematig. Rhoddir plant mewn gofal ar wahanol oedrannau, ac mae eu sefydlogrwydd a'u profiadau yn amrywio'n sylweddol. Gall y deilliannau amrywiol adlewyrchu materion a oedd yn bodoli eisoes ac nid ydynt bob amser yn cael eu priodoli i ofal (McSherry et al. 2016) . Dylid ystyried y cymhlethdod hwn wrth asesu'r gwahanol ddeilliannau a gyflwynir isod. Fodd bynnag, nid yw'r llenyddiaeth sy'n gwerthuso deilliannau bob amser yn gwahaniaethu rhwng math o leoliad. Felly, dylid dehongli'r deilliannau isod fel ystod o ddeilliannau y gellid eu hatal gan ddibynnu ar y math o leoliad ac amgylchiadau unigol.

Er mwyn adnabod deilliannau, fe wnaethom chwilio am dystiolaeth academaidd ar effeithiau rhoi babanod mewn gofal. Fe wnaethom adolygu 33 o erthyglau, gan gynnwys cymysgedd o adolygiadau systematig, astudiaethau unigol a llenyddiaeth lwyd, gan dynnu ar dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol, a chanfod deilliannau ar draws tri chyfnod gwahanol mewn bywyd:

  • Deilliannau byrdymor – deilliannau a brofir yn ystod plentyndod
  • Deilliannau tymor canolig – deilliannau sy'n dod i'r amlwg yn ystod plentyndod
  • Deilliannau hirdymor – deilliannau sy'n effeithio ar fywyd fel oedolyn

Deilliannau byrdymor

Oherwydd pwysigrwydd datblygiad cynnar yn ystod babandod, mae rhoi baban mewn gofal ar y cam hwn yn gallu arwain at amrywiaeth o ddeilliannau datblygiadol ac iechyd byrdymor i'r baban, yn ogystal â goblygiadau ar gyfer y teulu ehangach.

Datblygiad babanod

Mae babanod a roddir mewn gofal yn wynebu risgiau datblygiadol uniongyrchol, yn enwedig pan amherir ar ryngweithiadau cynnar rhwng y fam a’r baban. Mae tystiolaeth o adolygiad systematig yn cysylltu profiadau perthynol cynnar â meysydd datblygu allweddol fel iaith, gwybyddiaeth, sgiliau echddygol a datblygiad emosiynol-gymdeithasol (Rocha et al., 2019). Mae tarfu ar fwydo ar y fron ar ôl mynd â baban oddi wrth ei fam yn gallu cyfrannu at ddeilliannau iechyd gwael hefyd, trwy gynyddu bregusrwydd baban i risgiau o glefyd heintus, gordewdra, diabetes, lewcemia a syndrom marwolaeth sydyn babanod (Stuebe, 2009). Efallai na fydd y system ofal bob amser yn ymateb i fregusrwydd datblygiadol. Dangosodd astudiaeth yn Awstralia mai dim ond 17.5% o fabanod mewn gofal sy’n cael gwasanaethau ar gyfer oedi datblygiadol, sy'n awgrymu bwlch posibl mewn adnabod ac ymyrryd yn gynnar (Lima et al., 2024).

Deilliannau teuluol ehangach

Nododd gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn y maes oblygiadau sylweddol mynd â phlentyn oddi wrth ei rieni ar gyfer y teulu ehangach. Mae hyn yn cynnwys teimlad o gael eu gadael i ddygymod â gwarthnod ac ymdrin â systemau cyfreithiol a gofal cymdeithasol (Wilkins a Farmer 2015). Mae'r dystiolaeth mewn llenyddiaeth ar gyfer deilliannau teuluol ehangach yn gyfyngedig gan bod cyllid yn gyffredinol wedi canolbwyntio ar adnabod y deilliannau i blant.

Deilliannau tymor canolig

Mae plant sydd wedi profi'r system gofal yn wynebu ystod o heriau a all siapio eu datblygiad a'u llesiant yn sylweddol wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion ifainc. Mae'r deilliannau tymor canolig hyn yn adlewyrchu sut y mae profiadau cynnar o ofal yn dylanwadu ar daflwybrau cymdeithasol, addysgol ac ymddygiadol.

Cyrhaeddiad addysgol

Mae plant mewn gofal yn fwy tebygol o fod â lefelau is o gyrhaeddiad academaidd o'i gymharu â phlant sydd heb brofiad o fod mewn gofal. Mae bwlch cyrhaeddiad yn dechrau yn gynnar yn ystod eu haddysg ac yn ehangu trwy gydol y blynyddoedd ysgol, gyda llai o blant mewn gofal yn cyrraedd y lefelau addysgol disgwyliedig ym mhob cyfnod allweddol (Mannay et al., 2015). Mae hyn yn cyfrannu at rwystrau hirdymor i fynediad at addysg bellach a chyfleoedd cyflogaeth.

Rhagolygon cyflogaeth

Mae’r rhai sy'n gadael gofal yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae ymchwil gan ddefnyddio setiau data gweinyddol yn Lloegr yn amlygu’r ffaith bod y rhai sy'n gadael gofal ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant erbyn eu bod yn 21 oed (Harrison et al., 2023). Gall peidio â dod o hyd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant gael ei briodoli i lefelau cymwysterau is, o'i gymharu â phlant sydd heb brofiad o fod mewn gofal. Rhwng 1971 a 2001, roedd gan blant a fagwyd gan eu rhieni siawns o 27% o ennill NVQ lefel 3 erbyn eu bod yn 29 oed. Mae hyn yn cymharu â 21% ar gyfer y rhai a fagwyd mewn gofal gan berthynas, 14% ar gyfer y rhai mewn gofal maeth ac 11% ar gyfer y rhai mewn gofal preswyl (Sacker et al., 2021). Mae cyfran sylweddol o'r unigolion hyn nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn cael eu hystyried yn economaidd anweithgar oherwydd anabledd, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, neu gyfrifoldebau gofalu (Harrison et al., 2023).

Sefydlogrwydd tai a digartrefedd

Mae pobl ifanc sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd: mae 33% o'r rhai sy'n gadael gofal yn dod yn ddigartref yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl gadael gofal ac mae 25% o'r holl bobl ddigartref sengl wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau (Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar gyfer Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd, 2017).

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru (2024b) hefyd yn dangos bod 7% o'r rhai sy'n gadael gofal a oedd dros 16 oed wedi'u lleoli mewn llety anaddas. Gall lleoli mewn llety anaddas gael effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant a chynyddu'r tebygolrwydd o brofi digartrefedd. Canfu un astudiaeth fod profiad o fod mewn gofal yn gysylltiedig â mwy o debygolrwydd o fyw mewn tai is na’r safon a mynegi anfodlonrwydd ar eu hardal leol (Parsons et al., 2024). Yn 2016, barnodd Ofsted fod 64% o wasanaethau awdurdodau lleol Lloegr ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yn annigonol neu fod angen eu gwella (Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar gyfer Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd 2017). Mae hyn yn dangos bod y rhai sy'n gadael gofal ledled y DU yn profi llai o ddiogelwch a sefydlogrwydd lle mae tai yn y cwestiwn.

Mwy o risg o euogfarn droseddol

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol. Gellir deall y tebygolrwydd uwch y bydd pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol trwy dair thema allweddol. Yn gyntaf, mae llawer wedi wynebu sawl adfyd sy'n cynyddu'r risg o droseddu. Yn ail, gall y profiad o fod mewn gofal ei hun achosi neu gyfrannu at ymddygiad troseddol. Yn olaf, gall y broses o bontio i fywyd fel oedolyn sy'n aml wedi'i chywasgu i'r rhai sydd mewn gofal gynyddu bregusrwydd unigolyn (Carr a McAlister, 2016). Canfu un astudiaeth ar raddfa fawr fod 33% wedi cael rhybudd neu euogfarn erbyn eu bod yn 17 oed, o'i gymharu â 4% o'u cyfoedion a oedd heb brofiad o fod mewn gofal (Canolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, 2023).

Dod yn rhiant yn ifanc

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal hefyd yn wynebu mwy o risg o ddod yn rhieni yn ifanc. Maent ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o ddod yn feichiog yn ystod y glasoed na'u cyfoedion (Barnardo's, 2022). Cofnododd archwiliad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a wnaeth asesu cyfraddau beichiogrwydd ymhlith pobl ifanc 14 i 17 oed dros gyfnod o 14 mis gyfradd o 5.8% ymhlith pobl ifanc sy'n derbyn gofal o'i gymharu â 0.8% ymhlith y rhai a oedd heb brofiad o fod mewn gofal. (Craine et al., 2014). Datgelodd ymchwil ansoddol gyda rhieni â phrofiad o fod mewn gofal yn Lloegr fod llawer yn teimlo eu bod yn cael eu barnu yn hytrach na’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol ac yn cael trafferth cael mynediad at gymorth iechyd meddwl a chymorth ymarferol amserol (Phillips, et al., 2024).

Deilliannau hirdymor

Dangoswyd fod hanes o fod wedi treulio amser mewn gofal yn dwyn deilliannau parhaol, gyda llawer o unigolion yn parhau i wynebu heriau ar ôl troi’n oedolion.

Iechyd Corfforol a Meddyliol

Mae oedolion sydd â hanes o fod mewn ofal yn llawer mwy tebygol o ddweud bod ganddynt iechyd corfforol gwael. Mae data o Astudiaeth Hydredol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos eu bod dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd 'ddim yn dda' (Sacker et al., 2021).

Mae bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn bod pobl yn 15 oed (ac eithrio dementia) ac mae 75% yn dod i'r amlwg cyn bod pobl yn 18 oed. Mae plant mewn gofal bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder iechyd meddwl a hyd at bum gwaith yn fwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad na'u cyfoedion (Brady a Gilligan, 2019). Ceir tystiolaeth gynyddol hefyd o drawma sy’n pontio’r cenedlaethau, yn enwedig ymhlith rhieni a fu mewn gofal eu hunain (Parsons et al., 2024).

Er bod cyfraddau marwolaethau cynamserol wedi gostwng yn y boblogaeth gyffredinol, ni welwyd y duedd ymhlith y rhai sy'n gadael gofal. Canfuwyd fod oedolion a dreuliodd amser mewn gofal rhwng 1971 a 2001 70% yn fwy tebygol o farw'n gynnar na'r rhai nad oeddent wedi bod mewn gofal (Murray et al., 2020). Mae'r risg o farwolaeth gynamserol i’r rhai sy'n gadael gofal wedi cynyddu'n fwy diweddar, gan godi o 40% ym 1971 i 360% yn 2011 (Sacker et al., 2021). Hefyd, mae’r rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o debygolrwydd o farw o achosion annaturiol, fel trais, hunanladdiad neu ddamweiniau.

Llwybrau addysgol gwahanol

Er bod deilliannau addysgol canolradd ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yn aml yn wael; mae taflwybrau tymor hwy’n dangos deilliannau mwy amrywiol. Er enghraifft, mae presenoldeb mewn addysg uwch ymhlith unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn cynyddu o 6% pan ydynt yn 21 oed i 12% erbyn eu bod yn 23 oed (Brady a Gilligan, 2019). Mae hyn yn amlygu’r potensial i unigolion oresgyn rhwystrau addysgol cynnar a dilyn addysg yn ddiweddarach mewn bywyd.

Hunaniaeth a Llesiant

Gall byw mewn gofal siapio hunaniaeth person ifanc a’u hymdeimlad o ddiogelwch yn sylweddol. Canfu arolwg ar raddfa fawr o blant a phobl ifanc mewn gofal y tu allan i'r cartref ar draws 23 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr fod 18% wedi nodi llesiant isel iawn a oedd yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol (Staines a Selwyn, 2020). Canfu dadansoddiad fod deilliannau gwaeth yn gysylltiedig â rhai ffactorau fel peidio â chael esboniadau clir, cael eu rhoi mewn lleoliadau gofal lluosog, a bod yn fenywod.

Ar y cyfan, ceir consensws o fewn yr ymchwil academaidd bod treulio amser mewn gofal yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ddeilliannau negyddol yn bennaf. Mae'r deilliannau hyn yn cael eu profi trwy gydol oes a gallant ddwyn goblygiadau sylweddol i'r rhai sydd wedi bod mewn gofal. Gallai atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod ac atal y plentyn rhag mynd i ofal mewn modd diogel arwain at leihad sylweddol yn y tebygolrwydd y bydd y plentyn yn profi o leiaf rai o'r deilliannau hyn.

Pwyntiau Allweddol

  • Mae cael eu rhoi mewn gofal yn gysylltiedig â mwy o risg o brofi ystod o ddeilliannau negyddol trwy gydol bywyd unigolyn.

  • Mae'r math o leoliad yn dylanwadu ar ddeilliannau, gyda gofal preswyl yn arwain at y deilliannau gwaethaf. Mae llawer o fabanod a roddir mewn gofal yn cael eu mabwysiadu, eu maethu, neu’n cael gofal gan berthynas.

  • Ceir diffyg tystiolaeth o’r effeithiau teuluol ehangach pan eir â phlentyn oddi wrth ei deulu. Mae ymchwil wedi canolbwyntio ar ddeilliannau a brofwyd gan y plentyn.

Darllenwch yr adran nesaf: Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:02 PM