4. Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol?

Rhannu 4. Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol? ar Facebook Rhannu 4. Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol? Ar Twitter Rhannu 4. Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol? Ar LinkedIn E-bost 4. Beth yw'r profiad personol o ymwneud ag achosion gofal statudol? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

A ninnau eisoes wedi archwilio'r ystod o ddeilliannau posibl i'r plentyn, fe wnaethom hefyd geisio deall effaith gwahanu rhieni a’u babanod ar rieni. Mae'r adran uchod yn amlygu’r diffyg tystiolaeth ar effeithiau teuluol ehangach mynd â phlant oddi wrth eu teuluoedd. Fodd bynnag, mae gwasanaethau sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod hefyd yn anelu at gefnogi'r teulu trwy'r broses ofal statudol ac atal achosion dro ar ôl tro. Mae data o Gymru'n awgrymu, rhwng 2011/12 a 2020/21, bod 16.3% o famau a wnaeth ymddangosiad cychwynnol gerbron llys teulu wedi dychwelyd i'r llys yn ddiweddarach, naill ai gyda'r un plentyn, neu blentyn gwahanol (Alrouh, et al., 2022).

Felly, aethom ati i archwilio'r hyn y gellid ei atal o safbwynt rhieni, fe wnaethom chwilio am dystiolaeth academaidd sy'n disgrifio'r profiad o fynd trwy achosion gofal statudol. Ni chanfuwyd bod unrhyw erthyglau â ffocws penodol cyn geni; adnabuwyd deg erthygl a oedd yn adolygu ymwneud ag achosion gofal statudol yn fwy cyffredinol. Roedd y rhain yn cynnwys cymysgedd o adolygiadau systematig, astudiaethau unigol, a phapurau o lenyddiaeth lwyd. Er ein bod wedi cynnwys adolygiadau systematig a oedd yn archwilio sawl gwlad a chyd-destun, ni wnaethom gynnwys astudiaethau unigol na llenyddiaeth lwyd nad oedd yn canolbwyntio ar system y DU yn unig.

Canfyddiadau

Mae'r profiad o achosion gofal yn drawmatig ac yn anodd siarad amdano (Research in Practice, 2023). Mae llawer o enghreifftiau lle mae achosion gofal yn digwydd adeg geni’n ymwneud â'r rhai yr aethpwyd â phlentyn oddi wrthynt yn flaenorol, neu a oedd â phrofiad o fod mewn gofal eu hunain, gan ddod â gwaddol y profiadau hyn i'w hymgysylltiad â gwasanaethau plant (Mason et al., 2022). Fodd bynnag, mae'r system yn methu â chefnogi rhieni na chydnabod yr effaith emosiynol ar deuluoedd (Smithson a Gibson, 2016). Adnabuwyd fod hyn yn arbennig o amlwg mewn materion sy'n ymwneud â defnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac iechyd meddwl, gyda'r system wedi'i nodweddu gan ddiffyg dealltwriaeth am y sefyllfaoedd hyn a chefnogaeth ar eu cyfer (Hunter, Thomas a Campbell, 2024). Mewn un astudiaeth, disgrifiodd bron i hanner y rhieni y cyfwelwyd â hwy ddiffyg tosturi ac empathi (Smithson a Gibson, 2016). Amlygodd adolygiad systematig fod gweithwyr cymdeithasol yn aml i’w gweld fel pe bai ganddynt ddealltwriaeth ragdybiedig am amgylchiadau teuluol a thaflwybrau tybiedig, gan felly ddylanwadu ar sut yr ymdrinnid â'r teulu (Bekaert et al., 2021). I'r rhai ag anawsterau dysgu neu anableddau, mae eu hadnabod yn hwyr yn golygu bod ymyrraeth yn annhebygol o fod wedi’i theilwra i anghenion rhieni (Ryan, 2025).

Lle roedd perthnasoedd da â gweithwyr cymdeithasol, roedd rhieni'n gwerthfawrogi tegwch, ymdrechion i feithrin cysylltiad personol, empathi a dealltwriaeth, a chyfathrebu cryf (Smithson a Gibson, 2016; Bekaert et al., 2021). Mae astudiaethau eraill sy’n ymwneud â’r DU hefyd yn amlygu bod rhieni’n gwerthfawrogi cyfathrebu clir a chynhwysol yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol yn cymryd amser i wrando arnynt (Ghaffar, Manby a Race, 2012; Buivydate et al., 2024).

Gwelwyd fod cyd-ddealltwriaeth, cyd-ddatblygu blaengynlluniau a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ffactorau galluogi ar gyfer rhieni y mae arnynt eisiau gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau plant (Buivydate et al., 2024). Mae ffactorau galluogi eraill yn cynnwys cydnabyddiaeth ac anogaeth, cymorth ymarferol i gael mynediad at wasanaethau a mynd i'r afael ag anghenion teuluol, a pharhad gofal (Ghaffar, Manby a Race, 2012; Smithson a Gibson, 2016; Buivydate et al., 2024). Gall dull sy'n seiliedig ar gryfderau helpu i rymuso rhieni sy'n ymwneud â gwasanaethau plant (Beckaert et al., 2021). Gall cyfryngwyr rhwng gweithwyr cymdeithasol a rhieni hefyd fod â rôl bwysig, yn enwedig i'r rhai sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau (Ryan, 2025).

Roedd peth llenyddiaeth yn tynnu sylw penodol at brofiadau tadau yn y system. Amlygodd adolygiad systematig o erthyglau yr ymchwilir i hyn yn llai aml, ond pan fo safbwyntiau tadau’n cael eu cynnwys, eu bod yn aml yn dweud eu bod wedi'u heithrio o'r broses (Beckaert et al., 2021). Nid yw cynnwys tadau o'r cychwyn cyntaf yn arfer rheolaidd ar hyn o bryd ac mae angen gweithio gyda'r ddau riant mewn modd sy’n dangos empathi (Brandon, Philip a Clifton, 2017).

Ar ôl i achosion llys ddod i ben, roedd ymchwil gan ddefnyddio cyfweliadau’n amlygu diffyg cefnogaeth gan wasanaethau barnwrol a chymdeithasol, gyda'r sector gwirfoddol yn rhoi cymorth, ond dim ond pan oedd meini prawf atgyfeirio’n caniatáu (Hunter, Thomas a Campbell, 2024). Fe wnaeth mamau a thadau amlygu ymdeimlad o gael eu gadael gan wasanaethau cyhoeddus a'u bod yn cael trafferth dadlau dros y cymorth priodol (Grant et al., 2023). Felly, mae'r cyfryngau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yn aml yn llenwi'r bwlch a adewir gan gymorth ffurfiol, gan roi cymorth a chyngor gan gymheiriaid (Hunter, Thomas a Campbell, 2024).

Ar y cyfan, er bod rhai agweddau cadarnhaol ar ymarfer, a rhai ffyrdd cadarnhaol y gall y rhai sy'n rhan o wasanaethau plant feithrin perthnasoedd cadarnhaol â rhieni, mae profiad teuluoedd sydd wedi ymwneud â hwy’n hynod negyddol. Yn ogystal â'r gwarthnod sy'n gysylltiedig â chysylltiad â gwasanaethau plant, gall y profiad fod yn un o "rym deddfol dros fywyd teuluol" y mae'n rhaid ufuddhau wrtho (Beckaert et al., 2021: 9). Ar ben hynny, lle mae rhieni’n cydymffurfio â gwasanaethau cymdeithasol er mwyn iddynt roi’r gorau i ymwneud â hwy, mae camau gweithredu newydd gyda llinellau amser estynedig yn aml yn cael eu hychwanegu, gan hwyhau’r profiad (Smithson a Gibson, 2017).

Pwyntiau Allweddol

  • Mae'r profiad personol o achosion gofal statudol yn hynod negyddol. Mae rhieni'n teimlo bod y system yn methu â rhoi cymorth na chydnabod yr effaith emosiynol ar deuluoedd.

  • Lle mae rhieni wedi profi perthnasoedd da â gweithwyr cymdeithasol, maent wedi gwerthfawrogi tegwch, empathi, cyfathrebu cryf a chysylltiad personol yn arbennig.

  • Nid yw'n arferol cynnwys tadau o ddechrau achosion statudol. Mae tadau wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o'r system.

Darllenwch yr adran nesaf: Beth yw egwyddorion craidd a modelau darparu ymyriadau sy'n amcanu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:02 PM