5. Beth yw egwyddorion craidd a modelau darparu ymyriadau sy'n amcanu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod?

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Mae'r adrannau blaenorol wedi ein galluogi i ddeall y problemau a'r deilliannau negyddol y gellid eu lliniaru trwy atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod. Roedd ein ffocws nesaf ar effaith bosibl gwasanaethau a allai liniaru'r deilliannau hyn. I wneud hyn, aethom ati i archwilio egwyddorion a modelau gwasanaethau sy’n amcanu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, i ddeall yr hyn sy’n tanategu’r math hwn o waith atal.
Fel a nodwyd uchod, dim ond y gwasanaeth Magu yn RhCT sydd ag atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod fel ei brif bwrpas. Felly, fe wnaethom ganolbwyntio ein dadansoddiad ar wasanaethau eraill sydd â nodau tebyg. Nod y gwasanaethau yw lliniaru deilliannau negyddol o ganlyniad i roi babanod mewn gofal, yn ogystal ag atal rhieni rhag gorfod cael achosion gofal dro ar ôl tro.
Fe wnaethom adnabod gwasanaethau gan bedwar awdurdod lleol gwahanol gyda gwerthusiadau cyhoeddedig ar wasanaethau tebyg, yn ogystal â chanllawiau arfer gorau ar gyfer ymyrraeth cyn geni. Y rhain oedd y sail i'n dadansoddiad ar gyfer y cwestiwn hwn a'r cwestiwn dilynol ar ddeilliannau buddiol.
Mae'r holl wasanaethau a adolygwyd yn anelu’n benodol at gefnogi darpar rieni yr ystyrir eu bod yn fregus neu sy’n wynebu risg uchel yr eir â’u plentyn oddi arnynt. Mae rhai hefyd yn benodol yn ceisio cefnogi mamau ifanc o dan 25 oed. Fodd bynnag, mae hyd y cymorth a gynigir yn wahanol rhwng gwasanaethau, ac mae llawer o wasanaethau'n cael eu darparu mewn cydweithrediad ffurfiol â phartneriaid yn y sector gwirfoddol.
Tabl 5: Gwasanaethau a adolygwyd sy'n anelu at roi cymorth dwys cyn geni.
Enw'r Gwasanaeth | Awdurdod Lleol | Hyd y Gefnogaeth |
Y Baban a Fi | Cyngor Dinas Casnewydd | O 12fed wythnos y beichiogrwydd, hyd at 6 mis ar ôl geni |
Thriving Babies: Confident Parents | Cyngor Dinas Manceinion | Cyn geni (mae’n amrywio, ond ar gyfartaledd, o tua 16eg wythnos y beichiogrwydd), gan barhau tan 3 i 6 mis ar ôl geni |
Positive Choices | Cyngor Calderdale | Yn bennaf cyn geni, ond nid bob amser, gan barhau am hyd at ddwy flynedd |
Jig-So | Cyngor Abertawe | O 17eg wythnos y beichiogrwydd, hyd at ail ben-blwydd y plentyn. |
Mae Tabl 5 uchod yn rhoi trosolwg o'r gwasanaethau a adolygwyd fel rhan o'r adroddiad hwn. Rydym yn disgrifio egwyddorion craidd y gwasanaethau yn gyntaf, cyn trafod nodweddion cyffredin yn y ffordd y maent yn cael eu darparu.
Egwyddorion craidd
Wrth adolygu’r gwerthusiadau o'r pedwar gwasanaeth, fe wnaethom adnabod chwe egwyddor allweddol sy'n rhoi arweiniad ar gyfer ymarfer. Mae atgyfeiriadau cynnar yn darparu sail ar gyfer y cymorth a gynigir, sy'n canolbwyntio ar berthynas, yn seiliedig ar gryfderau, yn deall trawma ac yn holistaidd. Yna cynigir cymorth parhaus ar ôl geni’r plentyn.
Atgyfeiriadau cynnar
Mae atgyfeirio at y gwasanaeth cyn gynted â phosibl yn nodwedd graidd, ac ystyrir bod hynny’n wahaniaeth sylweddol o’i gymharu â gwasanaethau plant prif ffrwd (Turnpenny et al., 2022). Mae'n fuddiol dechrau cymorth cyn gynted â phosibl yn y beichiogrwydd, ac mae hyn yn cael ei gydnabod gan ystod o randdeiliaid, yn enwedig ymarferwyr (Burch, Allen a Coombes, 2020; Research in Practice, 2022). Mae hyn yn rhoi amser i'r rhai sy'n cael y cymorth wneud dewisiadau cadarnhaol, lleihau risgiau, a gwneud cynlluniau ymarferol (Turnpenny et al., 2022). Mae angen cymorth cynnar ar lawer o rieni i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl neu ddefnyddio sylweddau, neu i sicrhau tai sefydlog (Mason et al., 2022).
Fel a nodwyd uchod, mae'r adeg y mae'r cymorth yn dechrau yn amrywio rhwng y gwahanol wasanaethau, gydag un yn gwneud newidiadau i systemau gofal cymdeithasol plant i ddarparu ar gyfer atgyfeiriadau cynharach (Research in Practice, 2022). Unwaith y bydd yr achos wedi cael ei dderbyn, nod y gwasanaethau yw dyrannu staff yn gyflym heb fawr o aros: mae rhai gwasanaethau yn anelu at ddarparu’r cyswllt cyntaf yr un diwrnod, neu o fewn 48 awr i ddyrannu'r achos i aelod arweiniol o staff (Turnpenny et al., 2022).
Canolbwyntio ar berthynas
Mae canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth yn ganolog i sicrhau ymgysylltiad cadarnhaol â'r gwasanaeth (Turnpenny et al., 2022). Fe wnaeth y gwasanaeth yn Calderdale amlygu pwysigrwydd ffurfio'r berthynas hon o ystyried y gwahaniaeth mewn deinameg grym, o'i gymharu â'r berthynas arferol â gwasanaethau statudol (Burch, Allen a Coombes, 2020). Gall perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth arwain at ddealltwriaeth fwy manwl am amgylchiadau, heriau a chapasiti ym mywydau rhieni, gan fod yn sail ar gyfer y cymorth seiliedig-ar-gryfderau a roddir (Research in Practice, 2022). Gall y perthnasoedd hyn fod yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau: gallant fod yn therapiwtig ac mor bwysig i rieni â'r cynnwys sesiynol a ddarperir gan y gwasanaeth (Turnpenny et al., 2022; Burch, Allen a Coombes, 2020). Yn seiliedig ar eu perthnasoedd cryfion, gall ymarferwyr ddarparu tystiolaeth gadarn i weithwyr cymdeithasol i ddynodi i ba raddau y gall rhieni wneud newidiadau cyn geni’r baban, gan wella hyder mewn penderfyniadau a wneir gan wasanaethau statudol (Research in Practice, 2022).
Yn seiliedig ar gryfderau
Mae'r cymorth a gynigir gan y pedwar gwasanaeth yn dechrau trwy ganolbwyntio ar gryfderau defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth presennol, gan adeiladu ar adnoddau a ffactorau gwydnwch presennol (Turnpenny et al., 2022). Gwneir hyn mewn ffordd nad yw’n barnu ac sy’n dangos empathi, sydd hefyd yn ystyried meysydd lle hoffai defnyddwyr dargedu cymorth (Burch, Allen a Coombes, 2020). Fel a amlygwyd gan randdeiliaid un gwasanaeth, mae hyn yn troi'r model ymgysylltu arferol ar ei ben, gyda'r ffocws ar yr hyn y mae'r defnyddiwr yn bwriadu ei gyflawni yn hytrach na bod gweithwyr cymdeithasol yn datgan pa newidiadau y mae eu hangen (Turnpenny et al., 2022).
Yn deall trawma
Mae'r cymorth a gynigir i rieni wedi’i fwriadu i helpu teuluoedd i ddeall eu trawma eu hunain a sut y gallant dorri'r cylch hwnnw i'w plant (Jig-So, 2022). Ar gyfer un gwasanaeth, roedd gan bron pob un o ddefnyddwyr y gwasanaeth brofiadau niweidiol sylweddol yn ystod plentyndod (ACEs), a’r rheiny fel arfer yn gysylltiedig â thrais domestig, esgeuluso, cam-drin a defnyddio sylweddau yn y teulu yn ystod plentyndod (Turnpenny et al., 2020). Gall ymarferwyr gael hyfforddiant ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan roi cymorth arbenigol i archwilio'r trawma a'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a brofwyd gan rieni, ac effaith bosibl y rhain ar rianta: mae hyn yn rhan ganolog o'r cymorth a gynigir gan y gwasanaethau (Turnpenny et al., 2020; Research in Practice, 2022).
Cyfannol
Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn gyfannol, gan ganolbwyntio ar y rhiant a'u huned deuluol. Cydnabyddir bod anghenion y rhiant a’r plentyn wedi'u cydblethu â’i gilydd, gan ei gwneud hi'n anodd gwella deilliannau i'r plentyn heb ddeall bregusrwydd y rhiant a’r teulu (Turnpenny et al., 2020). Fel a drafodir yn yr adran modelau darparu isod, mae'r cymorth a gynigir hefyd yn bwrw golwg ar ystod o wahanol ffactorau mewn bywyd teuluol, gan amcanu at leihau risg a hybu llesiant mewn nifer o ffyrdd.
Cymorth parhaus
Ymddengys fod cymorth parhaus yn egwyddor allweddol i lawer o'r modelau hefyd, er nad yw hyn yn aml yn cael ei nodi’n benodol. Mae'r holl wasanaethau'n parhau am ryw gyfnod ar ôl i'r baban gael ei eni, gyda ffocws ar barhau i roi cymorth trwy gydol yr achos gofal ac os rhoddir y plentyn mewn gofal (Burch, Allen a Coombes, 2020). Fe wnaeth un gwasanaeth amlygu’r angen i gymorth leihau’n raddol gyda rhieni ond gan gydnabod bod rhai rhieni yn dal i fod angen cymorth ar ôl dyddiad gorffen y rhaglen (Research in Practice, 2022). Lle na all y gwasanaeth ddarparu hyn, yn aml gwneir atgyfeiriadau at wasanaethau cyffredinol neu arbenigol eraill, gan ddibynnu ar yr angen.
Modelau darparu
Yn ogystal â'r egwyddorion craidd sy'n llywio sut y mae'r gwasanaethau’n cael eu darparu, mae'r dull ataliol hefyd yn dibynnu ar ddeall beth mae darparu gwasanaethau yn ei gynnwys. Mae pob un o'r gwasanaethau a adolygwyd gennym ni’n cynnig set debyg o weithgareddau craidd, gyda'r rhain wedi'u tanategu gan arferion rheoli cyffredin.
Mae ymarferwyr yn tueddu i gynnig sesiynau un-i-un craidd, sydd gan mwyaf yn cynnwys ymweliadau â’r cartref gyda gweithiwr prosiect. Gall hyn gynnwys sesiynau addysgol sy'n cwmpasu ystod eang o sgiliau rhianta, megis cysgu diogel, bwydo ar y fron a gwneud poteli a datblygiad ymennydd baban (Turnpenny et al., 2020). Mae agweddau eraill y mae sesiynau addysgol yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys ffurfio cwlwm â phlentyn ac ymlyniad plentyn, yn ogystal ag esbonio prosesau gwasanaethau cymdeithasol statudol, a chymorth drwyddynt (Burch, Allen a Coombes, 2020). Ochr yn ochr â'r ffocws addysgol hwn, gall sesiynau un-i-un hefyd gynnwys mewnbwn therapiwtig. Fel a drafodir yn yr adran ar ymarfer sy'n deall trawma uchod, gall y sesiynau un-i-un hyn gynnwys trafod profiadau cyfredol a hanesyddol rhieni, a sut i oresgyn y rhwystrau hyn i ddod yn rhiant llwyddiannus (Research in Practice, 2022). Er y cydnabyddir y bydd y cynnwys yn wahanol ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaethau, gan ddibynnu ar eu cryfderau a'u hanghenion, yn aml ceir cynnwys craidd sy’n cael ei annog yn fawr, os nad yn orfodol.
Mae sesiynau grŵp yn gyffredin ymhlith y gwasanaethau hefyd, er bod y rhain yn tueddu i fod yn wirfoddol. Roedd sawl grŵp gwahanol yn cael eu cynnig gan wasanaethau, gan gynnwys grŵp cynenedigol, cymorth i famau a babanod gan gymheiriaid, cwrs sgiliau rhianta mewn grŵp, a chwrs perthnasoedd iach wedi'i dargedu at ddynion (Ward et al., 2019; Research in Practice, 2022). Roedd rhai o'r grwpiau hyn yn canolbwyntio ar ddarparu cynnwys addysgol, ac mewn llawer o achosion roeddent yn disodli rhywfaint o'r cynnwys a ddarperid trwy ymweliadau â’r cartref, tra bo eraill wedi’u bwriadu i gryfhau rhwydweithiau cymorth a lleihau hunan-ynysu. Roeddent yn aml yn cael eu darparu gan bartneriaid cydweithredol yn y sector gwirfoddol hefyd. Lle nad oedd sesiynau grŵp yn rhan o'r gwasanaeth ei hun, yn aml roedd nod penodol i helpu rhieni i gael mynediad at grwpiau eraill a oedd yn bodoli eisoes.
Mae gwasanaethau hefyd yn cynnig cymorth ymarferol, a hwythau’n aml yn helpu gyda rheoli arian neu gael mynediad at dai, dodrefn, eitemau ar gyfer y baban a meithrinfeydd (Ward et al., 2019; Burch, Allen a Coombes, 2020). Gall hyn hefyd gynnwys cymorth gweinyddol, gan gynnwys cofrestru'r enedigaeth, neu gofrestru gyda meddyg teulu (Turnpenny et al., 2020). Mae tystiolaeth yn amlygu cymaint y mae hyn yn cael ei werthfawrogi gan rieni, gydag un gwerthusiad yn amlygu gwybodaeth ymarferwyr am wasanaethau eraill, a hwythau’n gweithredu fel "eiriolwyr taer" dros famau (Turnpenny et al., 2020; Research in Practice, 2022). Pan fydd y model cymorth cyn geni wedi'i sefydlu ac yn cael ei gydnabod yn dda, gall ddod yn haws hwyluso mynediad at wasanaethau eraill, er bod un gwerthusiad wedi amlygu ei bod yn parhau i fod yn anodd darparu mynediad at gymorth gydag iechyd meddwl neu gyda chyffuriau ac alcohol (Burch, Allen a Coombes, 2020).
Roedd gweithio gyda'r ddau riant yn nodwedd allweddol ar y gwasanaethau a adolygwyd gennym hefyd. Yn aml roedd ffocws penodol ar ymgysylltu â thadau, fel rhan o sesiynau addysgol, ond yn aml hefyd gyda ffocws penodol ar berthnasoedd iach, bod yn dad, a hunaniaethau gwrywaidd (Ward et al., 2019; Turnpenny et al., 2020). Adnabu un gwasanaeth fod yr ymgysylltiad â thadau yn fwy llwyddiannus na gwasanaethau blaenorol a fu'n gweithio gyda phobl fregus a oedd yn dod yn rhieni am y tro cyntaf, tra bo un arall wedi amlygu enghreifftiau cadarnhaol o weithio gyda rhieni yn sensitif ar bynciau sensitif, gydag ymgysylltiad tadau’n cael ei hwyluso gan ymarferydd allweddol gwrywaidd (Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020). Mae'r gwerthusiadau yn trafod rhai ymdrechion i ymgysylltu â theulu estynedig, ond nid yw'n glir a oes model cyson ar gyfer hyn, hyd yn oed ar draws achosion o fewn yr un gwasanaeth. Fodd bynnag, amlygodd un gwasanaeth y ffaith bod llai o enghreifftiau wedi'u dogfennu o ymgysylltu llwyddiannus (Turnpenny et al., 2020).
Er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn, crybwyllir arferion rheoli cyffredin ar draws gwasanaethau. Gall ymarferwyr fod yn hyblyg yn eu harferion gweithio i gynnig cymorth fel sy’n addas i deuluoedd yn eu tyb hwy, ac mae rheolwyr yn caniatáu i ymarferwyr wneud hyn (Burch, Allen a Coombes, 2020). Mewn un gwasanaeth, amlygodd aelod o staff bwysigrwydd diwylliant tîm, a'r awydd i gefnogi teuluoedd mewn unrhyw ffordd y gallant (Ward et al., 2019). Gall hyn gynnwys gwneud yr hyn y mae angen ei wneud ar y pryd, gan fynd y tu hwnt i'w rolau swydd, ac fe gydnabyddir bod rhyddid i ymarferwyr ffurfio barn ynglŷn â beth yw'r dull gorau ar gyfer y defnyddiwr gwasanaethau. Mae llwythi achosion isel yn galluogi'r hyblygrwydd hwn: hwyluso’r broses o feithrin perthnasoedd a darparu ar gyfer y cymorth un-i-un y mae ei angen wrth ddarparu gwasanaethau.
Mae ymrwymiad a chefnogaeth ar y cyd ar draws y tîm a phartneriaid allanol hefyd yn hwyluswyr hanfodol ar gyfer y mathau hyn o wasanaeth. Mae staff yn deall galluoedd ei gilydd ac yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r deilliannau gorau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau (Ward et al., 2019). Mae hyn yn golygu bod pawb yn gweithio yn ôl yr un weledigaeth ac yn deall yr hyn y mae angen ei wneud i’w gwireddu. Fe wnaeth un gwasanaeth hefyd amlygu’r ffaith bod yr hunaniaeth hon yn dod yn adnabyddus ar draws ystod o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni bregus, gan annog atgyfeiriadau o ystod o lwybrau (Turnpenny et al., 2020).
Mae'r egwyddorion a modelau darparu allweddol hyn yn rhoi dealltwriaeth am sut y mae gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn mynd ar drywydd eu nod. Yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, rydym yn defnyddio'r egwyddorion a'r modelau darparu hyn i bennu effaith y gwasanaeth Magu yn RhCT, sydd â'r un prif bwrpas.
Pwyntiau Allweddol
Adolygwyd gwerthusiadau o bedwar gwasanaeth tebyg i Magu. Mae’r gwasanaethau ill pedwar yn dechrau ag atgyfeiriadau cynnar ac yn arwain at gymorth parhaus ar ôl geni.
Egwyddorion craidd gwasanaethau yw: canolbwyntio ar berthynas; deall trawma; a darparu model ymgysylltu cyfannol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n wahanol i wasanaethau statudol.
Mae gwasanaethau yn gweithio gyda'r ddau riant gan addysgu am ystod o sgiliau rhianta a rhoi cymorth ymarferol.
Mae sawl math gwahanol o sesiynau grŵp gwirfoddol yn ogystal â sesiynau craidd 1:1 yn gyffredin.