6. Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni?

Rhannu 6. Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni? ar Facebook Rhannu 6. Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni? Ar Twitter Rhannu 6. Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni? Ar LinkedIn E-bost 6. Beth yw deilliannau buddiol rhoi cymorth dwys cyn geni a hyd at flwyddyn ar ôl geni? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae deall yr egwyddorion a'r modelau darparu allweddol yn hanfodol i gydnabod y dull ataliol a ddefnyddir gan wasanaethau. Mae ein dull o bennu effaith bosibl gwasanaethau yn RhCT, yn hytrach na gwerthusiad ffurfiol, yn golygu penderfynu sut y mae gwasanaethau yn RhCT yn cyd-fynd â'r modelau a geir mewn ardaloedd eraill (adran 7). Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni felly fynd ati hefyd i gadarnhau pa ddeilliannau y mae gwasanaethau tebyg yn eu cyflawni, i weld beth allai fod yr ystod o ddeilliannau yn RhCT.

Fe wnaethom adolygu'r un pedwar gwerthusiad o wasanaethau eraill sy'n amcanu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod ag a drafodir yn yr adran uchod. Gall adolygu gwerthusiadau ddarparu set gadarn o wahanol ddeilliannau posibl, ond mae'n bwysig nodi efallai na fydd y deilliannau hyn yn cael eu mesur yn rheolaidd gan y gwasanaeth, ac y gall llawer o ddeilliannau fod yn anymarferol i'w mesur y tu hwnt i gwmpas gwerthusiad ffurfiol.

Gwelsom bedwar prif gategori o ddeilliannau, a ddangosir yn Ffigur 1 isod.

Ffigur 1: Deilliannau a adnabuwyd o ganlyniad i roi cymorth cyn geni dwys

Ymwneud ffurfiol â Gwasanaethau Plant

Mae'r grŵp hwn o ddeilliannau yn adlewyrchu nod ataliol craidd gwasanaethau, ac mae eu hystod yn adlewyrchu'r lefel wahanol o ymwneud gan wasanaethau statudol sy'n ofynnol ar gyfer pob plentyn, gan ddibynnu ar yr angen. Mae hyn yn cynnwys a roddwyd y plentyn mewn gofal, a gawsant eu rhoi ar gynllun amddiffyn plant, neu a gafodd y teulu eu hatgyfeirio at wasanaethau cymdeithasol ar ôl diwedd yr ymyriad. Y rhain sydd â’r gost gysylltiedig fwyaf posibl, er ei bod yn bwysig nodi bod hyn yn amrywio gan ddibynnu ar y deilliant ar gyfer y plentyn (fel a drafodwyd yn Adran 2). Maent fel arfer yn cael eu mesur gan ddefnyddio data mesur effaith.

Yn gyffredinol, mae gwerthusiadau yn amlygu llwyddiant gwasanaethau o ran lleihau risg ac annog y plentyn i aros yng ngofal rhieni, lle y bo’n briodol. Yn nodweddiadol, roedd hyn yn cael ei fesur ar ddiwedd yr ymwneud â'r gwasanaeth, gyda rhai yn mesur cyfran yr achosion â deilliant cadarnhaol neu lwyddiannus i'r plentyn (Ward et al., 2019; Burch, Allen a Coombes, 2020), ac eraill yn mesur y rhai a oedd yn dal i fod â chynlluniau amddiffyn plant (Turnpenny et al., 2020; Research in Practice, 2022). Yn hytrach na dim ond mesur cyfran y plant a roddir mewn gofal, gall hefyd fod yn bwysig amlygu achosion lle mae'r plentyn yn cael gofal yn llwyddiannus gan rieni, er eu bod wedi bod mewn gofal am gyfnod byr. Er enghraifft, o'r rhai a oedd yn rhan o gynllun Positive Choices Calderdale, roedd 58% o blant yn cael gofal yn llwyddiannus erbyn diwedd yr ymyriad, hyd yn oed os oeddent wedi bod mewn gofal am gyfnod byr (Burch, Allen a Coombes, 2020).

Mae rhai gwerthusiadau yn defnyddio cymariaethau i bennu effeithiolrwydd y gwasanaeth; fodd bynnag, mae angen gwneud hyn â phwyll. Efallai y bydd yn annibynadwy cymharu yn gyffredinol: er enghraifft, cyfran y plant a wnaeth ymwneud â'r gwasanaeth ac y rhoddwyd y gorau i’w cynlluniau gofal statudol o fewn 12 mis, o'i gymharu â'r rhai na wnaethant ymwneud â’r gwasanaeth, oherwydd lefelau risg cymharol (Burch, Allen a Coombes, 2020). Mae'r rhai sy'n ymgysylltu â gwasanaeth cyn geni yn cael eu targedu'n benodol oherwydd y lefel uwch o risg, felly gall y gymhariaeth hon fod yn annheg. Roedd rhai gwerthusiadau yn cymharu deilliannau â'r rhai a wrthododd ymwneud â'r gwasanaeth cyn geni, ond mae hyn hefyd yn annibynadwy oherwydd bod y samplau’n fach.

Mae'n dal i fod yn anodd rhagweld deilliannau tymor hwy, er mai un deilliant y gellir ei fesur ar ôl ymwneud â’r gwasanaeth yw ail-atgyfeirio at Wasanaethau Plant (Turnpenny et al., 2020). Dim ond mewn un gwerthusiad y mesurwyd hyn, gyda dim ond 26% o'r rhai a wnaeth ymwneud â'r cynllun Positive Choices yn cael eu hail-atgyfeirio, ac un o'r rhain yn arwain at Gynllun Amddiffyn Plant neu Gynllun Plentyn mewn Angen wedi hynny (Burch, Allen a Coombes, 2020).

Rhyngweithiadau â gweithwyr proffesiynol

Er bod y categori cyntaf o ddeilliannau ar ymwneud statudol yn adlewyrchu nod ataliol craidd y gwasanaeth, mae'r categorïau eraill yn amlygu deilliannau buddiol ymgysylltu â gwasanaethau o ganlyniad i'w hegwyddorion craidd a'u model darparu.

Mae'r set gyntaf hon o fanteision yn deillio i raddau helaeth o'r newid mewn deinameg pŵer o'i gymharu â gwasanaethau statudol prif ffrwd, sy'n adlewyrchu'r ffocws ar feithrin perthnasoedd. Nid oes cost yn gysylltiedig â’r rhain o reidrwydd ond maent yn debygol o ddwyn budd hirdymor i'r teulu. Yn y gwerthusiadau a astudiwyd gennym, roedd y rhain yn cael eu cyflwyno i raddau helaeth fel tystiolaeth o brofiad personol, a ddaeth i'r amlwg trwy gyfweliadau gyda defnyddwyr gwasanaethau a geirdaon ganddynt. Fe wnaeth tri o'r gwasanaethau a archwiliwyd amlygu bod ymwneud â gwasanaethau wedi arwain at fwy o ymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol, gyda rhieni hefyd yn cael budd o berthynas fwy cadarnhaol a chydweithredol â gwasanaethau statudol, er bod straen ar hyn weithiau (Ward et al., 2019; Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020). Oherwydd ymwneud â gwasanaethau, efallai y bydd gan rieni well dealltwriaeth am brosesau statudol Gwasanaethau Plant hefyd, a oedd hefyd yn cael ei ystyried yn fanteisiol (Ward et al., 2019).

Gwybodaeth a sgiliau rhianta

Mae deilliannau sy'n gysylltiedig â gwybodaeth a sgiliau rhianta fel arfer yn gysylltiedig â'r cynnwys addysgol a ddarperir fel rhan o arlwy’r gwasanaeth. Gall y rhain ymwneud â mwy o hyder, gwybodaeth a sgiliau, yn ogystal â gwell ymlyniad neu gwlwm â'r plentyn. Yn y gwerthusiadau a adolygwyd gennym, mesurwyd y rhain trwy gymysgedd o ddata mesur effaith a phrofiad personol.

Mewn dau werthusiad, defnyddiwyd offer safonedig presennol a ddatblygwyd gan academyddion i fesur ymlyniad mamol (Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020). Fe wnaeth un gwerthusiad (Turnpenny et al., 2020) hefyd ddefnyddio offer safonedig i fesur ymlyniad tadol. Mewn un gwerthusiad, canfuwyd fod gan 75% o'r rhai a astudiwyd ymlyniad uchel neu uchel iawn cyn geni, gyda hyn yn cael ei gynnal neu ei wella ar ôl genedigaeth mewn 68% o achosion (Burch, Allen a Coombes, 2020). Gan ategu hyn â phrofiad personol, disgrifiodd rhieni fod eu hymlyniad a'u cwlwm wedi gwella o ganlyniad i well dealltwriaeth am anghenion y baban a chyd-fynd â hyn, yn ogystal â'r cynnwys penodol mewn perthynas ag ymlyniad a ddarparwyd fel rhan o'r gwasanaeth cyn geni (Burch, Allen a Coombes, 2020). Mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth ym Manceinion (Turnpenny et al., 2020) hefyd yn amlygu gwybodaeth broffesiynol ymarferwyr a oedd yn awgrymu bod cynnwys y rhaglen a oedd yn canolbwyntio ar ymlyniad yn ddefnyddiol i rieni.

Roedd dau werthusiad hefyd yn ceisio mesur hyder a sgiliau rhianta. Defnyddiwyd offeryn safonedig fel rhan o un gwerthusiad (Turnpenny et al., 2020), tra bo un arall wedi datblygu arolygon sylfaenol a dilynol pwrpasol (Ward et al., 2019). Amlygodd y prawf safonol hyder uchel mewn rhieni: dangosodd 86% o rieni a wnaeth ymwneud â chynllun Manceinion lefelau tebyg o hyder i'r rhai a ddisgwylir yn y boblogaeth gyffredinol, gyda hyder yn parhau i fod yn uchel ar ôl geni (Turnpenny et al., 2020). Fodd bynnag, fe wnaeth astudiaeth Abertawe, a archwiliodd lefelau sgiliau penodol, amlygu cysgu diogel a diheintio fel meysydd â sgoriau sylfaenol isel (Ward et al., 2019). Roedd lefelau ar draws yr holl sgiliau a astudiwyd, gan gynnwys y rhai â sgoriau sylfaenol uwch, yn dangos gwelliant ystadegol arwyddocaol ar ddiwedd yr ymyriad. Mae tystiolaeth ar ffurf profiad personol o dri gwerthusiad yn amlygu cynnydd mewn gwybodaeth am fwydo ar y fron, datblygiad yr ymennydd, a dealltwriaeth am anghenion plant a rhianta effeithiol (Ward et al., 2019; Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020).

Iechyd a llesiant rhieni

Mae'r gwerthusiadau a astudiwyd gennym hefyd yn amlygu effaith gwasanaethau ar iechyd a llesiant rhieni. Gall hyn ddeillio o wybodaeth a sgiliau newydd a ddatblygwyd trwy gynnwys addysgol, ond hefyd o berthnasoedd ag ymarferwyr a'r cynnwys un-i-un therapiwtig. Mae hyn hefyd yn nodweddiadol yn gymysgedd o brofiad personol a data mesur effaith.

Mae data mesur effaith o nifer o wasanaethau yn amlygu dewisiadau iachach a wneir gan rieni. Rhoddodd mamau yn Abertawe a wnaeth ymwneud â'r rhaglen Jig-So y gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd ar gyfradd uwch na'r cyfartaledd lleol (Ward et al., 2019). Ar ben hynny, dywedodd 62% o'r rhai a wnaeth ymwneud â gwasanaeth Y Baban a Fi yng Nghasnewydd eu bod wedi ysmygu llai yn ystod eu hymwneud â'r gwasanaeth (Research in Practice, 2022). Fe wnaeth dros 70% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn Abertawe amlygu gwelliannau mewn diet hefyd ers beichiogi (Ward et al., 2019). Dywedodd rhieni a wnaeth ymwneud â gwasanaeth Manceinion hefyd eu bod wedi bod yn defnyddio sylweddau’n llai, a bod ganddynt fwy o ddealltwriaeth am effaith hynny ar fabanod, mewn geirdaon profiad personol (Turnpenny et al., 2020).

Mae tystiolaeth ar ffurf profiad personol hefyd yn awgrymu effaith gadarnhaol ar lesiant, yn rhannol oherwydd y cymorth emosiynol a roddir. Canfuwyd fod y berthynas a oedd yn cael ei datblygu ag ymarferwyr allweddol yn rymusol, gyda rhieni yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi’n fwy ac yn llai ynysig (Ward et al., 2019; Turnpenny et al., 2020). Gwellodd perthnasoedd â theulu estynedig i ddefnyddwyr ar draws sawl gwasanaeth, ac mae hyn wedi'i ategu gan ddata mesur effaith ystadegol arwyddocaol ar well perthnasoedd teuluol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn Abertawe (Ward et al., 2019; Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020). Fe wnaeth defnyddwyr ar draws sawl gwasanaeth amlygu’r gallu i adnabod cam-drin domestig a pherthynas wenwynig, yn ogystal â'r hyder i gael mynediad at grwpiau cymunedol (Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020). Fe wnaeth ymarferwyr ym Manceinion a Calderdale hefyd amlygu bod gwell amodau cartref yn un o effeithiau’r gwasanaeth (Burch, Allen a Coombes, 2020; Turnpenny et al., 2020).

Ar draws y pedwar categori hyn, ceir ystod o wahanol ddeilliannau a all ddilyn ar ôl rhoi cymorth cyn geni. Mae'r rhain yn ymestyn nid yn unig i'r nod ataliol craidd i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod ac effeithiau negyddol hynny, ond hefyd manteision eraill sy'n deillio o ddylunio a darparu gwasanaethau.

Heb werthusiad ffurfiol, mae'n anymarferol mynd ati’n systematig i gasglu a dadansoddi data sy'n ymwneud â'r holl ddeilliannau hyn, yn enwedig fel rhan o ddarparu gwasanaethau’n barhaus. Fodd bynnag, mae'r rhain yn darparu arwydd o'r deilliannau a allai ddigwydd o ganlyniad i Magu yn RhCT. Yn yr adran nesaf, rydym yn troi ein ffocws at Magu, i benderfynu pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn cyd-fynd â'r egwyddorion craidd a'r modelau darparu a amlinellir yn adran 5.

Pwyntiau Allweddol

Fe wnaethom adnabod pedwar grŵp allweddol o ddeilliannau sy'n digwydd o ganlyniad i ymwneud â gwasanaethau sydd wedi’u bwriadu i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod. Mae'r rhain yn adlewyrchu nod ataliol craidd gwasanaethau o'r fath, yn ogystal â manteision eraill sy'n deillio o sut y maent yn cael eu dylunio a'u darparu. Mae'r deilliannau allweddol yn cynnwys:

  • Llai o ymyrraeth gan wasanaethau plant a llai o debygolrwydd o achosion gofal dro ar ôl tro.

  • Mwy o ymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol a gwell dealltwriaeth am wasanaethau plant.

  • Gwella hyder a sgiliau rhianta gyda'u plentyn a’u hymlyniad â hwy yn ôl yr hyn a ddwedant.

  • Gwell iechyd a llesiant rhieni, gan gynnwys ysmygu llai ac yfed llai o alcohol a llai o arwahanrwydd cymdeithasol.

Darllenwch yr adran nesaf: Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:03 PM