7. Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT?

Rhannu 7. Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT? ar Facebook Rhannu 7. Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT? Ar Twitter Rhannu 7. Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT? Ar LinkedIn E-bost 7. Beth yw modelau darparu ac egwyddorion craidd y gwasanaethau a gynigir yn RhCT? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Fel a nodwyd uchod, nid yw ein hadroddiad yn mynd ati'n uniongyrchol i geisio gwerthuso llwyddiant gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf o ran atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod. Yn hytrach, rydym yn ceisio amlygu’r manteision posibl a allai ddigwydd o ganlyniad i ddarparu gwasanaeth ataliol o'r fath. Magu yw'r unig wasanaeth y mae ei brif ffocws yn ymwneud yn benodol ag atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, felly mae ein ffocws ar ddeilliannau posibl y gwasanaeth hwn.

Yn adrannau 5 a 6, fe wnaethom adolygu deilliannau gwasanaethau tebyg i Magu a sut y mae eu modelau darparu a'u hegwyddorion craidd wedi cyfrannu at bedwar categori o ddeilliannau. Yn awr rydym yn amcanu at benderfynu i ba raddau y mae Magu yn cyd-fynd â'r egwyddorion craidd a'r modelau darparu hyn. I wneud hyn, fe wnaethom gynnal gweithdy gydag ymarferwyr o Magu, cydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant, un o fydwragedd y GIG, ac un o ddefnyddwyr y gwasanaeth i fapio'r daith drwy'r gwasanaeth o safbwynt darparwr a defnyddiwr y gwasanaeth. Gofynnwyd i gyfranogwyr ddisgrifio pob cam o'r daith trwy broses Magu, rhwng yr atgyfeiriad a chau’r ymyriad. Yna cyfunwyd canfyddiadau o'r gweithdy hwn â dogfennau mewnol sy'n amlinellu sut mae'r gwasanaeth wedi’i fwriadu i weithio, a geirdaon gan ddefnyddwyr eraill y gwasanaeth. Yn yr adran hon, rydym yn trafod sut mae'r gweithgareddau hyn yn cyd-fynd â'r egwyddorion allweddol a'r modelau darparu a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd eraill.

Crynodeb o'r gwasanaeth

Ar gyfer safbwyntiau'r gwasanaeth a defnyddwyr, fe wnaethom adnabod pum cam o'r broses: atgyfeiriad, cyswllt, cyn geni, ar ôl geni, a chau. Mae'r crynodeb isod yn darparu naratif ysgrifenedig o ran sut y mae'r gwasanaeth yn gweithio: ceir crynodeb gweledol o daith y defnyddiwr yn Atodiad 1. Mae hwn yn amlygu ymwneud defnyddwyr, pwyntiau cyffwrdd allweddol, a theimladau ar bob cam.

Atgyfeiriad

Gellir gwneud atgyfeiriadau at Magu ar gyfer rhieni â phrofiad o fod mewn gofal, y rhai a wahanwyd yn barhaol oddi wrth blant yn y gorffennol, neu rieni ifanc, bregus neu ddibrofiad lle mae cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth statudol yn debygol. Fel arfer, cychwynnir atgyfeiriadau trwy gyflwyno ffurflen atgyfeirio C1 i'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy (IAA) fel rhan o weithdrefnau diogelu statudol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, 2024). Fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud gan fydwraig gymunedol, ar yr adeg y maen nhw'n credu y gallai fod angen ymwneud gan y Gwasanaethau Plant; fodd bynnag, gall y ffurflen hefyd gael ei chyflwyno gan weithwyr proffesiynol eraill fel swyddogion prawf, gweithwyr tai, neu wasanaethau 16+ i'r rhai sy'n gadael gofal. Ar adeg yr atgyfeiriad, dylai'r gweithiwr proffesiynol drafod hyn gyda'r defnyddiwr a chael eu cydsyniad. Darperir taflen Magu bob amser ac mae posteri yn cael eu harddangos mewn lleoliadau iechyd i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei gynnig.

Wedi iddynt ddod i law, mae atgyfeiriadau yn cael eu hadolygu yn ystod cyfarfod rhyngwyneb i drafod baban heb ei eni, lle penderfynir a fydd y plentyn heb ei eni yn cael ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae ffurflenni C1 yn cael eu sgrinio i adnabod ffactorau ysgogol a rhwydweithiau cymorth rhieni, ac mae asesiad cychwynnol yn cael ei wneud i ddewis ymarferydd y mae’r sgiliau sydd ganddynt yn cyd-fynd â'r angen teuluol a amlinellwyd. Gwneir cyswllt â gwasanaethau eraill i sicrhau bod y teulu yn gallu cael mynediad at gymorth, os oes angen. Os yw’n cael ei dal, mae gwybodaeth o fewn y Gwasanaethau Plant yn cael ei choladu i ddatblygu dealltwriaeth am brofiad blaenorol y teulu.

Cyswllt

Os caiff yr achos ei atgyfeirio at Magu, gwneir cyswllt cychwynnol trwy alwad ffôn ac yna apwyntiad wyneb-yn-wyneb. Mae hyn yn cael ei drefnu ar y cyd â'r teulu, ar amser ac mewn lle sy'n addas iddynt. Mae rhwydweithiau cymorth yn cael eu hadnabod a'u hannog i fod yn bresennol. Gan ddibynnu ar natur yr atgyfeiriad, gall cyswllt gynnwys ymweliadau ar y cyd â gwasanaethau eraill fel timau 16+, iechyd meddwl, neu gamddefnyddio sylweddau.

Mae'r gwasanaeth yn gweithio i gynnig sicrwydd a chymorth cynnar i rieni, ar wahân i wasanaethau statudol. Rhoddir ffocws ar ddarparu llwybr cymorth sy'n annog ymgysylltiad gwirfoddol â gwasanaethau, gan symud o'r anghydbwysedd grym sy'n nodweddiadol o berthynas teulu â gwasanaethau statudol. Nid oes cyfyngiad amser ar apwyntiadau er mwyn ei gwneud yn bosibl rheoli sefyllfaoedd hynod emosiynol yn ofalus mewn ffordd sy’n deall trawma, gyda rhieni yn cael cyfleoedd i gael eu clywed a'u deall.

Yn ystod y cam cyswllt, cyflwynir ffurflen "Popeth Amdanaf Fi" sy'n offeryn sy'n seiliedig ar gryfderau a gwblheir dros gyfnod o sesiynau. Mae'r allbynnau o hyn yn helpu i adnabod anghenion a phennu deilliannau a nodau personol. Mae hyn yn goleuo’r cynllun ymyrryd wedi'i bersonoli a all gynnwys darparu ystod eang o raglenni rhianta i adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth. Mae'r pwyslais ar greu cynllun sydd â ffocws ar yr unigolyn ac mae Magu yn gweithio ar y cyd â darparwyr gwasanaethau eraill. Mae'r cymorth yn cael ei deilwra i ddewisiadau'r teulu, gan amrywio o gyswllt beunyddiol i gyn lleied â phosibl o gyswllt, gan amcanu at leihau pwysau. Mae darpariaeth cymorth Magu ar gael i'r ddau riant hyd yn oed os ydynt wedi gwahanu.

Cyn Geni

Mae'r cymorth a gynigir yn y cyfnod cyn geni yn hyblyg a gall wyro oddi wrth y cynllun gwreiddiol ond fel arfer mae'n cael ei arwain gan yr anghenion dysgu unigol a adnabuwyd yn y cam cyswllt. Mae myfyrdodau yn cael eu cwblhau bob rhyw wyth wythnos i adnabod cynnydd ac anghenion cymorth parhaus. Mae unigolion hefyd yn cael cyfleoedd i archwilio sbardunau a allai effeithio'n negyddol arnynt, gan gynnwys trwy ymweliadau gwrando.

Gall y cymorth addysgol a roddir gynnwys cymorth ymarferol gan gynnwys cadw'r tŷ yn lân, perthnasoedd iach a sut i wneud poteli. Darperir cyrsiau addysgol ffurfiol hefyd gan gynnwys y cwrs Grow Brain sy'n gweithio i ddeall pwysigrwydd datblygiad cynnar yr ymennydd.

Pan fo gwasanaethau statudol yn gysylltiedig, mae ymarferwyr yn defnyddio eu gwybodaeth am weithdrefnau statudol ac yn cefnogi'r rhieni yn ystod cyfnod sy’n gryn her yn emosiynol. Mae asesiadau blaenorol hefyd yn cael eu hailystyried os oes hanes o fynd â phlant oddi wrth eu rhieni. Mae gweithwyr Magu hefyd yn ystyried yr holl asesiadau a wneir gan wasanaethau statudol, a'r risgiau a adnabuwyd, i weithio gyda'r unigolyn ar eu holl anghenion.

Gall gweithwyr Magu roi cymorth a mynd gyda rhieni i fynychu apwyntiadau cynenedigol, cyfarfodydd gyda’r Gwasanaethau Plant, a chymorth cymunedol. Gall hyn hefyd gynnwys cymorth ymarferol, megis mynediad at eitemau babanod. Mae'r tîm hefyd yn darparu fframiau lluniau ar gyfer sganiau babanod a’r llun cyntaf. Mae Magu hefyd yn atgyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at amrywiaeth o wasanaethau, i helpu i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol a chorfforol y rhiant yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys llwybr bydwreigiaeth y Gwasanaeth Teuluoedd Gwydn sy'n cynnig cymorth a chyngor cynenedigol arbenigol.

Ar ôl geni

Mae'r gweithiwr Magu a neilltuwyd i unigolyn yn parhau i fod yn gyson o’r cyfnod cyn geni tan ar ôl geni, a all fod yn wahaniaeth sylweddol i wasanaethau statudol. Mae gweithwyr yn aml yn bresennol mewn cyfarfodydd rhyddhau o wasanaethau mamolaeth a gallant helpu gydag ymweliadau â’r ysbyty i sicrhau cymorth cyson rhwng yr ysbyty a'r cartref. Os yw'r baban yn cael ei wahanu ar adeg ei eni, gall Magu ddarparu cludiant adref a pharhau i gefnogi rhieni yn emosiynol trwy gydol y cyfnod hwn.

Mae cymorth addysgol yn parhau gan adeiladu ar yr anghenion cymorth a adnabuwyd cyn geni, gyda myfyrdodau yn dal i gael eu cwblhau i edrych ar gynnydd a meysydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae ymweliadau gwrando yn canolbwyntio ar iechyd meddwl amenedigol ac ymlyniad.

Mae cymorth Magu yn parhau i'r rhieni, ni waeth beth fo statws yr ymyriad statudol. Gall hyn gynnwys goruchwyliaeth feunyddiol neu gymorth mwy hyblyg gan ddibynnu ar anghenion y teulu. Mae'r tîm yn gweithio i sicrhau bod rhieni yn parhau ui ymgysylltu, gan ffurfio barn barhaus ynglŷn â lefel y cymorth y mae ei angen, gan bwyso a mesur newidiadau a welwyd yn erbyn risgiau canfyddedig. Mae Magu yn helpu i ymdrin â thensiynau a all godi rhwng rhieni a gwasanaethau statudol, yn enwedig pan geir gwahaniaeth barn ynglŷn â galluoedd y rhieni. Os bydd y trothwy cyfreithiol ar gyfer gwahanu yn cael ei gyrraedd, mae Magu yn parhau i ymwneud, gan gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i helpu rhieni i ymdopi â thrawma gwahanu, a chynnig amser teuluol, lle y bo’n briodol.

Cau

Mae cau o fewn Magu yn broses raddol, sy'n seiliedig ar anghenion. Wrth i gynlluniau statudol gael eu cau, mae Magu yn parhau i gynnig cymorth, gan leihau hyn yn seiliedig ar barodrwydd ac anghenion parhaus y teulu. Mae Magu yn cynnig cymorth yn ffurfiol nes bod y plentyn yn flwydd oed; fodd bynnag, mae llawer o deuluoedd yn teimlo'n hyderus ac yn annibynnol o fewn blwyddyn, gan nodi pwynt naturiol i’r ymwneud gan Magu gamu'n ôl. Darperir cynlluniau diogelwch a rhifau cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill i unigolion, gydag ymadawiad wedi'i gynllunio sy'n cynnwys dod â chymorth i ben yn raddol, ac yn sicrhau bod y defnyddiwr yn ymwybodol.

Mae Magu hefyd yn gwneud atgyfeiriadau at grwpiau cymunedol a gwasanaethau eraill i hybu annibyniaeth a gwydnwch, ynghyd â phecyn cymorth 'hwyl fawr'. Mae gwerthusiadau unigol yn cael eu cwblhau i ystyried cyflawniadau trwy gydol cyfnod y cymorth ac i bwysleisio galluoedd. Os yw gwasanaethau eraill yn ymwneud, gwneir cyflwyniadau ar y cyd i gefnogi perthnasoedd parhaus. Gall Cefnogi Rhieni, ail gam Magu, roi cymorth i rieni nad yw eu plentyn wedi aros yn eu gofal: os darperir hyn, yna mae'r un ymarferydd Magu yn cael ei neilltuo, er mwyn sicrhau parhad pellach o ran y cymorth.

Cyd-fynd ag egwyddorion craidd a modelau darparu

Mae Tabl 6 isod yn crynhoi'r gweithgareddau allweddol a'r penderfyniadau ymarfer sy'n rhan o sut mae Magu yn gweithredu ym mhob cam. Mae'r rhain wedi'u categoreiddio ar draws pedair egwyddor allweddol darparu gwasanaeth: canolbwyntio ar berthynas, seiliedig ar gryfderau, yn deall trawma, a chyfannol. Mae Magu yn amlwg yn cyd-fynd yn dda â'r holl egwyddorion craidd a ymgorfforir gan wasanaethau tebyg, gyda ffocws ar bob un o'r egwyddorion hyn ar draws y gwasanaethau a ddarperir, o’r atgyfeiriad i gau.

Yn ogystal â'r egwyddorion allweddol hyn wrth ddarparu, mae Magu hefyd yn ymgorffori egwyddorion atgyfeirio cynnar a chymorth parhaus sy'n greiddiol i wasanaethau tebyg eraill. Ceir pwyslais eglur ar ymyrryd mor gynnar â phosibl yn y beichiogrwydd, gyda hyn yn cael ei wneud yn bennaf trwy lwybrau bydwreigiaeth. Er y cynigir darparu gwasanaeth am 12 mis ar ôl geni, mae cau'n parhau i fod yn broses raddol, gyda Magu yn cynnig cymorth yn seiliedig ar anghenion teuluol, yn debyg i fodelau eraill, gan gynnwys y rhai a geir yng Nghymru (Research in Practice, 2022). Ceir tystiolaeth o sut y mae'r egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso mewn sawl categori yn y camau atgyfeirio a chau yn y drefn honno.

O ran modelau darparu, ceir tystiolaeth glir bod Magu yn rhoi cymorth mewn modd tebyg i wasanaethau eraill. Ceir pwyslais ar ddarparu sesiynau un-i-un mewn modd sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n deall trawma, gyda chymorth cyfannol ac ymarferol sylweddol, gydag enghreifftiau lluosog i'w cael ar draws Tabl 6. Ceir pwyslais ar weithio gyda rhieni, er bod rhai gwasanaethau eraill yn canolbwyntio'n benodol ar weithio gyda thadau, gan gael eu galluogi gan ymarferwyr gwrywaidd. Dywedodd y maes gwasanaeth wrthym fod awydd i wneud hyn, ond bod rhoi hynny ar waith yn gryn her.

Fe wnaeth ymarferwyr amlygu’r hyblygrwydd yn eu rolau swydd, gyda dealltwriaeth gan reolwyr mai hwy sydd â’r ddealltwriaeth orau am fân wahaniaethau mewn achosion unigol. Ar ben hynny, fe wnaethant amlygu gwaith sylweddol i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth gyda gwasanaethau statudol am eu rôl a’r cymorth y gallant ei gynnig. Mae hyn hefyd yn ymestyn i asiantaethau eraill, gyda'r berthynas â bydwreigiaeth hefyd yn cael ei hamlygu. Er bod cymorth iechyd meddwl amenedigol ar gael ledled rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, mae cael mynediad at gymorth iechyd meddwl cyffredinol i aelodau eraill o'r teulu’n dal i fod yn her, ond soniodd ymarferwyr nad her i Magu yn unig oedd hon.

Tabl 6: Sut y mae Magu’n cyd-fynd ag egwyddorion craidd yn ystod pob cam o ran darparu’r gwasanaeth

AtgyfeiriadCyswlltCyn geniAr ôl geniCau
Canolbwyntio ar berthynas
  • Gwneud asesiad cychwynnol i bennu’r sgiliau gan weithiwr sy’n cydfynd ag anghenion teuluol a amlinellwyd
  • Galwad ffôn ac apwyntiad wyneb-yn-wyneb – yn cael eu trefnu gyda'r teulu
  • Pwysleisio gwahaniaeth o’i gymharu â gwasanaethau statudol – lleihau anghydbwysedd grym • Archwilio anghenion unigol ac arddull dysgu
  • Meithrin ymddiriedaeth trwy gyfathrebu clir, cyson a gonest – eiriolaeth dros y teulu a chysondeb o ran y cymorth
  • Dealltwriaeth, empathi a diogelwch yn hytrach na barnu
  • Cysondeb o ran yr ymarferydd
  • Ymdrin â thensiynau rhwng rhieni a gwasanaethau statudol
  • Trafnidiaeth a chymorth emosiynol os yw'r baban yn cael ei wahanu ar adeg ei eni
  • Perthynas barhaus ar ôl diwedd y cymorth ffurfiol
  • Cyflwyniadau ar y cyd i wasanaethau allanol
  • Gwaith parhaus gyda pharhad y gweithiwr pe bai cymorth Cefnogi Rhieni yn cael ei weithredu
Yn seiliedig ar gryfderau
  • Sgrinio ffurflen C1 i adnabod ffactorau ysgogol ac amddiffynnol a rhwydweithiau cymorth
  • Ffurflen Popeth Amdanaf Fi i adnabod ffocws ar y cyd – yn cael ei rhannu gyda'r teulu wedyn
  • Teulu yn cael eu hannog i adnabod eu nodau eu hunain
  • Gall cymorth wedi'i deilwra – sy’n hyblyg ond yn cael ei arwain gan y deilliannau yn Popeth Amdanaf Fi – wyro i ddiwallu anghenion unigol
  • Myfyrdodau i adnabod cynnydd ac anghenion cymorth parhaus
  • Mae cymorth yn adeiladu ar y sgiliau a gafodd eu caffael yn y cyfnod cyn geni
  • Adnabod rhianta cadarnhaol a ffactorau amddiffynnol
  • Myfyrdodau i benderfynu ar gynnydd – rhieni yn adnabod meysydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol
  • Rhiant fel arfer yn adnabod y pwynt camu yn ôl
  • Atgyfeirio at grwpiau a gwasanaethau cymunedol i hybu annibyniaeth a gwydnwch
Yn deall trawma
  • Coladu gwybodaeth a ddelir yn y Gwasanaethau Plant i archwilio profiadau negyddol/heriol a gafodd y teulu
  • Sicrwydd ynghylch y broses – mae llawer yn betrus ynglŷn â Gwasanaethau Plant
  • Cymryd amser i archwilio meddyliau a theimladau rhieni
  • Dim cyfyngiadau amser ar gyfer apwyntiadau

  • Gweithio i archwilio a mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rhwystrau i rianta
  • Gall unigolion archwilio sbardunau a allai effeithio'n negyddol arnynt
  • Ymweliadau gwrando

  • Cynnig ymweliadau gwrando i ganolbwyntio ar iechyd meddwl amenedigol
  • Cymorth i leihau'r tebygolrwydd o gyrraedd trothwy’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus a thorri cylchoedd o gychwyn achosion dro ar ôl tro

  • Sicrhau bod gan unigolion gynlluniau diogelwch a rhifau cyswllt gweithwyr proffesiynol eraill
  • Ymadawiad wedi'i gynllunio gan ddod â’r cyswllt i ben yn raddol
Cyfannol
  • Ystod o lwybrau i mewn i'r gwasanaeth
  • Cyswllt a thrafodaethau â gwasanaethau eraill i sicrhau bod y teulu yn cael y cymorth cywir
  • Gall gynnwys ymweliadau ar y cyd rhwng gwasanaethau
  • Cynnig cymorth i'r ddau riant hyd yn oed os ydynt wedi gwahanu
  • Archwilio rhwydweithiau cymorth – fe’u hanogir i fod yn bresennol yn y cyfarfod cychwynnol
  • Atgyfeirio at y Gwasanaeth Teuluoedd Gwydn, bydwreigiaeth a gwasanaethau eraill i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol a chorfforol
  • Gwaith ar risgiau dynodedig a amlygwyd mewn asesiadau
  • Cymorth i gael mynediad at eitemau babanod a fframiau lluniau ar gyfer sganiau/llun cyntaf
  • Yn rhan o apwyntiad rhyddhau
  • Help gyda thasgau ymarferol
  • Mae'r cymorth yn parhau os bydd rhieni a babanod yn cael eu lleoli mewn lleoliad maeth/preswyl
  • Ceir adborth gan unigolion i helpu i lunio’r gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol

Y gwahaniaeth allweddol rhwng Magu a'r gwasanaethau eraill a astudiwyd fel rhan o'r gwaith hwn, yw nad yw Magu yn defnyddio sesiynau grŵp wrth ddarparu gwasanaethau. Mae gwasanaethau eraill yn cynnig sesiynau addysgol gwirfoddol ar bynciau penodol, sydd hefyd yn anelu at gryfhau rhwydweithiau cymorth. Dywedodd ymarferwyr y byddent yn hoffi rhoi’r math hwn o gymorth, ond nad oedd cyllid yn caniatáu hyn ar hyn o bryd. Yn hytrach, maent yn anelu at ddefnyddio perthnasoedd presennol â'r sector gwirfoddol a rhwydweithiau cymunedol eraill ac atgyfeirio defnyddwyr y gwasanaeth at y rhain i leihau hunan-ynysu a chynyddu gwydnwch unigol.

O ystyried y cysondeb cryf rhwng Magu a sut mae gwasanaethau eraill yn cael eu darparu, gellid tybio'n rhesymol y gallai deilliannau tebyg ddeillio o Magu yn RhCT. Yn yr adran nesaf, rydym yn archwilio'r hyn rydyn ni'n ei wybod am yr effaith y mae Magu yn ei chael.

Pwyntiau Allweddol

  • Mae'r gwasanaeth Magu yn cyd-fynd â'r egwyddorion craidd a ymgorfforir gan wasanaethau tebyg yn ystod pob cam o ddarparu’r gwasanaeth.

  • Ceir pwyslais eglur ar atgyfeirio at y gwasanaeth mor gynnar â phosibl, ac ar sicrhau bod cymorth ar ôl geni yn dod i ben ar adeg y mae'r rhiant yn gyfforddus â hi, gydag atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol eraill a grwpiau cymunedol lle y bo'n briodol.

  • Oherwydd cyfyngiadau cyllid nid yw Magu yn darparu sesiynau grŵp a ddarperir gan wasanaethau tebyg. Yn hytrach, maent yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael ac yn adeiladu ar berthnasoedd da â'r sector gwirfoddol a rhwydweithiau cymunedol.

Darllenwch yr adran nesaf: Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad?

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:03 PM