8. Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad?

Rhannu 8. Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad? ar Facebook Rhannu 8. Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad? Ar Twitter Rhannu 8. Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad? Ar LinkedIn E-bost 8. Beth, hyd yma, fu effaith Magu o ran deilliannau am y buddsoddiad? dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Yn niffyg gwerthusiad ffurfiol, ac oherwydd yr amser byr y mae'r gwasanaeth wedi bod yn weithredol, ni allwn ffurfio barn bendant ynglŷn ag effaith lawn Magu. Fodd bynnag, o ystyried cysondeb cryf Magu â modelau arfer da a gyflawnir mewn awdurdodau lleol eraill, gallwn dybio’n rhesymol y bydd y gwasanaeth wedi arwain at welliannau tebyg mewn deilliannau sy'n gysylltiedig ag ymwneud ffurfiol â’r Gwasanaethau Plant, rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol, gwybodaeth a sgiliau rhianta, ac iechyd a llesiant rhieni. Bydd pennu hyd a lled y rhain yn galw am wahanol fathau o dystiolaeth, wedi'u mesur ar draws y tymor byr, canolig a hir.

Isod, rydym yn disgrifio'r hyn yr ydym yn ei wybod am effaith Magu: yn gyntaf yr effaith ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, mewn perthynas â'r categorïau o ddeilliannau a restrir uchod, yn ogystal â'r effaith ariannol bosibl i'r Cyngor.

Effaith ar ddefnyddwyr y gwasanaeth

Ceir rhywfaint o dystiolaeth eisoes ynghylch sut mae Magu yn effeithio ar ddeilliannau sy'n gysylltiedig ag ymwneud ffurfiol â’r Gwasanaethau Plant. O ran y sefyllfa ym mis Mai 2024, fe wnaeth 41 o'r 46 o fabanod a anwyd ym mlwyddyn gyntaf y gwasanaeth, lle roedd cymorth yn ei le, aros yng ngofal rhiant neu ddychwelyd i ofal rhiant ar ôl cyfnod o fod ar wahân (Evans, heb ei gyhoeddi). O ran y sefyllfa ym mis Medi 2025, roedd wyth o'r 46 o blant a anwyd ym mlwyddyn gyntaf y gwasanaeth yn cael gofal a chymorth o fewn y system plant sy’n derbyn gofal. Mae hyn yn amlygu hylifedd yn yr angen am gymorth dros amser a goblygiadau cymhleth hyn ar gyfer mesur effaith. Gan nad yw'r darlun yn aros yn gyson, mae'n anodd tracio’r effaith ar ddefnyddwyr a’r effaith ariannol. Bydd unrhyw fesur o effaith yn gipolwg ar adeg benodol a rhaid ei gyd-destunoli felly.

O ran y sefyllfa ym mis Mai 2024, bu gostyngiad hefyd mewn lleoliadau rhieni a phlant a ddaeth i ben gyda’r rhiant a’r plentyn yn cael eu gwahanu, gyda dim ond 1 o 9 lleoliad yn dod i ben gyda’r rhiant a’r plentyn yn cael eu gwahanu o'i gymharu â chyfraddau gwahanu blaenorol o 30-40% (Evans, heb ei gyhoeddi). Yn yr ail flwyddyn, mae Magu wedi dechrau gweithio gyda theuluoedd â risg uwch, ac er nad oes gennym ddata ar gyfer eleni, mae gweithwyr proffesiynol wedi ein hysbysu bod y ffigurau hyn yn debygol o fod wedi lleihau. Wrth fesur ymwneud ffurfiol, gall rhai mesurau, fel nifer y plant a roddir mewn gofal, fod yn gamarweiniol, sy'n golygu bod angen cymryd gofal wrth benderfynu pa ddeilliannau i'w defnyddio. Mae deilliannau llwyddiannus ar gyfer y plentyn yn darparu un ffordd y gellir gwneud hyn, ond mae angen mesur hyn ar adeg ddigonol ar ôl geni: mae'r rhan fwyaf o wasanaethau eraill yn edrych ar deilliannau ar ddiwedd yr ymyriad. O ran casglu data i asesu'r effaith hon, mae hwn yn fwy tebygol o fod yn cael ei ddal gan wasanaethau statudol na Magu ei hun.

Yn y tymor canolig a hir, mae'n anodd priodoli deilliannau’n uniongyrchol i un gwasanaeth. Serch hynny, mae cryfder y dystiolaeth ar gyfer effeithiau negyddol gofal statudol ar blant, sy’n para tan ar ôl iddynt droi’n oedolion, yn awgrymu na ddylai her priodoli effeithiau uniongyrchol i un gwasanaeth leihau ymdrechion i gadw plant allan o ofal.

Mae geirdaon sy’n disgrifio profiad personol yn awgrymu bod Magu yn mynd ati’n effeithiol i helpu i gynyddu hyder defnyddwyr wrth gael mynediad at wasanaethau ac yn y broses gwasanaethau cymdeithasol yn fwy cyffredinol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth sy'n amlygu effeithiau cadarnhaol ar hyder a sgiliau rhianta, yn ogystal ag ar iechyd a llesiant rhieni, ond mae hyn yn gyfyngedig. Fodd bynnag, o ystyried ein bod wedi canfod bod Magu yn cyd-fynd yn dda â gwasanaethau eraill sy'n cyflawni’r deilliannau hyn, mae'n rhesymol tybio bod deilliannau tebyg yn RhCT o ganlyniad i Magu.

Dylid amlygu hefyd bod deilliannau gwasanaethau tebyg wedi cael eu hadnabod trwy archwilio gwerthusiadau ffurfiol o wasanaethau. Nid yw Magu wedi cael ei werthuso'n ffurfiol, felly mae'n afresymol disgwyl y bydd tystiolaeth o effaith ar draws ystod mor eang o fesurau. Fodd bynnag, gallai'r deilliannau a amlygir yn yr adroddiad hwn helpu i oleuo ffocysau ar gyfer gwerthusiad allanol ffurfiol, os dymunir hyn.

Byddai casglu data fel rhan o’r drefn arferol yn gwella tystiolaeth ynghylch effaith Magu ar y deilliannau hyn, er y byddai'n hynod lafurus casglu'r data ar gyfer yr holl ddeilliannau a amlygir yn yr adroddiad hwn. Gan hynny, bydd angen blaenoriaethu rhai deilliannau: dyfarniad goddrychol yw hwn ac mae angen ystyried yr hyn sy'n bwysig i reolwyr y gwasanaeth, uwch arweinwyr, a defnyddwyr y gwasanaeth.

Effaith ariannol

Er mwyn archwilio effaith ariannol atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod o safbwynt awdurdod lleol, cynhaliodd ein tîm prosiect werthusiad ariannol a wnaeth archwilio cost gofal ar gyfer y 46 o fabanod a anwyd ym mlwyddyn gyntaf y gwasanaeth. O ran y sefyllfa ym mis Medi 2025, roedd wyth o'r 46 o fabanod yn cael gofal a chymorth o fewn y system plant sy’n derbyn gofal, sy’n cyfateb i oddeutu 17% o'r garfan wreiddiol. Mae Tabl 7 isod yn crynhoi'r lleoliadau gofal ar gyfer yr wyth plentyn hyn, a'r gost gysylltiedig.

Tabl 7: Crynodeb o leoliadau gofal ar gyfer babanod a anwyd ym mlwyddyn gyntaf Magu sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd

Math o leoliad

Nifer y lleoliadau

Cost wythnosol

Wedi'u Lleoli gyda Gwarcheidwad Arbennig

2

£393

Wedi’u Lleoli gyda Gofalwr sy’n Berthynas

2

£448

Wedi'u Lleoli gydag un o Ofalwyr Maeth RhCT

3

£1,330

Wedi'i Leoli gyda Rhieni Mabwysiadol

1

£0*

Cyfanswm

8

£2,171

Cost wythnosol gyfartalog y lleoliad

£271

* Mae gorchymyn mabwysiadu wedi'i ganiatáu ar gyfer yr achos hwn, ond nid oes unrhyw lwfans mabwysiadu parhaus yn ei le ar hyn o bryd

Mae Tabl 8 isod yn amlygu cyfanswm cost gofal a chymorth ataliol a oedd yn gysylltiedig â'r 46 o fabanod yn ystod eu hymwneud â’r Gwasanaethau Plant. Mae'r costau a gynhwysir yn gysylltedig â darparu gwasanaeth uniongyrchol yn unig, ac nid costau ymylol sy'n gysylltiedig â'r cymorth a gynigir i'r teulu (megis Gwasanaethau Asesu a Rheoli Gofal, neu Daliadau Atal).

Tabl 8: Cyfanswm cost cymorth ataliol i'r babanod a anwyd ym mlwyddyn gyntaf Magu yn ystod eu hymwneud â’r Gwasanaethau Plant

Costau lleoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal interim

Cyfanswm cost tîm Magu

Cyfanswm cost ymyriad ataliol

Cymorth gyda GGA/Gofal Maeth

Lleoliadau Rhieni a Babanod

Cyfanswm

£98,543

£343,382

£441,926

£420,178

£862,104

Nifer y babanod a gefnogwyd

46

46

46

Cost gyfartalog ymyriad ataliol

£9,607

£9,134

£18,741

Dadansoddiad o’r Costau/Manteision

Mae'n anodd asesu costau a manteision tymor hwy yr ymyriad ataliol. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dangos bod y gost a osgowyd trwy beidio â darparu gofal ffurfiol wedi cynyddu o ganlyniad i'r ymyrraeth ychwanegol a ddarparwyd trwy Magu. Gan bod angen yn gallu newid dros amser, gellid adolygu'r dadansoddiad hwn a'i ailadrodd bob blwyddyn i bennu hirhoedledd y buddsoddiad ar gyfer y garfan hon.

Tabl 9: Cyfanswm cost cymorth ataliol i'r babanod a anwyd ym mlwyddyn gyntaf Magu yn ystod eu hymwneud â Gwasanaethau Plant

Cyfradd gwahanu cyn Magu (33%)

Cyfradd gwahanu ym mis Medi 2025 (17%)

Cost y tybir ei bod wedi ei hosgoi

Cost wythnosol barhaus Plant sy’n Derbyn Gofal

£4,119

£2,171

£1,948

Cost flynyddol barhaus Plant sy’n Derbyn Gofal

£214,208

£112,889

£101,318

Cyfanswm cost ymyriad gan Magu

£420, 178

Cyfnod ad-dalu (blynyddoedd) ar gyfer cyfanswm cost Magu

4.1

Cyfanswm cost ymyriad ataliol (gan gynnwys Magu)

£862,104

Cyfnod ad-dalu (blynyddoedd) ar gyfer cyfanswm cost ymyriad ataliol

8.5

Cyfran y plant yn RhCT o dan flwydd oed sy’n perthyn i’r dosbarth Plant sy'n Derbyn Gofal, o'i gymharu â'r rhai sy’n perthyn i’r dosbarth plant sy'n derbyn gofal a chymorth (canolrif dros bum mlynedd; Llywodraeth Cymru, 2024).

Mae Tabl 9 uchod yn darparu manylion ychwanegol, ond daeth y canfyddiadau allweddol canlynol i'r amlwg o'r dadansoddiad o gostau/manteision:

  • Gostyngodd y gyfradd wahanu nodweddiadol o oddeutu 33% cyn Magu, i oddeutu 17% ym mis Medi 2025;
  • Amcangyfrifir bod y cyfnod ad-dalu ar gyfer cost Magu yn unig yn 4.1 mlynedd, ac amcangyfrifir bod y cyfnod ad-dalu ar gyfer cyfanswm cost atal, gan gynnwys Magu, yn 8.5 mlynedd; ac
  • Os yw statws Plant sy’n Derbyn Gofal y garfan o flwyddyn gyntaf Magu yn parhau o fis Medi 2025 (fel a nodir yn Nhabl 7), gyda'r rhai sy'n byw gartref gyda’u rhieni a heb wasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny am weddill eu plentyndod, hyd at 18 oed), tua £1.3 miliwn fyddai cyfanswm y gost a osgowyd (ar ôl didynnu cost Magu).

Pwyntiau Allweddol

  • Mae effaith Magu yn anodd i’w mesur oherwydd yr amser byr y mae wedi bod yn weithredol ac anhawster cysylltu deilliannau ag un gwasanaeth.

  • Ym mlwyddyn gyntaf gweithrediad Magu, fe wnaeth 41 o 46 o fabanod aros yng ngofal rhieni neu ddychwelyd ar ôl cyfnod o fod ar wahân. Mae geirdaon sy’n disgrifio profiad personol wedi dangos mwy o hyder a sgiliau rhianta a llesiant gan rieni.

  • Mae Magu yn cyd-fynd yn agos â gwasanaethau tebyg sydd wedi cael eu gwerthuso'n ffurfiol; mae'n rhesymol tybio y gellid disgwyl deilliannau tebyg.

  • Gallai newidiadau i gasglu data fel rhan o’r drefn arferol helpu i ddangos tystiolaeth bellach o effaith Magu, a byddai angen rhoi blaenoriaeth i fesur deilliannau penodol.

  • Bu gostyngiad o oddeutu hanner yng nghyfradd nodweddiadol gwahanu rhieni a’u babanod, o tua 33% cyn Magu, i oddeutu 17% ym mis Medi 2025. Os bydd statws Plant sy’n Derbyn Gofal y garfan o flwyddyn gyntaf Magu yn parhau o fis Medi 2025, gyda'r rhai sy'n byw gartref gyda’u rhieni a heb wasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny tan eu bod yn 18 oed, tua £1.3 miliwn fyddai cyfanswm y gost a osgowyd (ar ôl didynnu cost Magu).

  • Mae potensial ar gyfer dadansoddiad tymor hwy o arbedion a chostau ar gyfer y garfan hon o fewn gwasanaeth Magu i ddeall hirhoedledd y buddsoddiad ymhellach, gan y gall anghenion cymorth teuluoedd newid dros amser.

Darllenwch yr adran nesaf: Casgliad

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:04 PM