Casgliad

Rhannu Casgliad ar Facebook Rhannu Casgliad Ar Twitter Rhannu Casgliad Ar LinkedIn E-bost Casgliad dolen
Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein hymdrechion cychwynnol i ddatblygu proses i fapio a thracio gwariant ataliol ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd hyn yn cynnwys profi gwahanol ddiffiniadau o atal yng nghyd-destun awdurdod lleol, yn ogystal â'n hymdrechion i ddisgrifio faint sy'n cael ei wario ar weithgareddau ataliol ac asesu effaith bosibl gwariant mewn un maes ffocws: atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod.

Fe wnaeth ein hymdrechion i fapio a thracio gwariant ataliol yn y maes hwn ddatgelu nad yw echdynnu’r data hwn o gyfriflyfrau’r Cyngor yn broses syml ar hyn o bryd. Er mai un o brif bwrpasau gwasanaeth Magu yn RhCT yw atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, mae gwasanaethau eraill sy'n cyfrannu at y diben hwn yn gweithio gyda phlant o bob oedran, sy'n golygu bod angen dosrannu'r cyllidebau hyn i dracio gwariant. Mae tua £1.17 miliwn yn cael ei wario ar atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn RhCT, gyda thua 55% o hyn ar atal trydyddol: ymyrryd i atal problem rhag gwaethygu neu ailddigwydd.

O ystyried deilliannau buddiol ymdrechion i atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod, a bod 73% o'r buddsoddiad cyfredol yn cael ei ariannu â grantiau byrdymor, efallai y bydd ar CBS RhCT eisiau ystyried ailddyrannu cyllid craidd yn y camau cynradd ac eilaidd i liniaru'r risg bosibl i ymyriadau cynharach pe bai cyllid grant yn cael ei leihau neu’n dod i ben.

Er mwyn pennu effaith bosibl gwariant, gan ganolbwyntio ar Magu, aethom ati yn gyntaf i geisio deall y broblem ymhellach a pha ddeilliannau ellid eu hatal. Canfuom fod cynnydd graddol wedi bod ledled Cymru yng nghanran y babanod a roddwyd mewn gofal dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Canfuom hefyd fod cael eu rhoi mewn gofal yn gysylltiedig â risg uwch o brofi ystod o ddeilliannau negyddol yn y tymor byr, canolig a hir, ac y gallai atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod atal rhai o'r deilliannau negyddol hyn. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar yr hyn sydd orau i'r plentyn unigol, gan ei bod weithiau'n angenrheidiol eu gwahanu oddi wrth eu rhieni oherwydd y risg sy'n gysylltiedig. Mae babanod hefyd yn fwy tebygol o gael eu rhoi mewn mathau mwy parhaol o ofal gyda llai o ddelliannau negyddol fel arfer.

Mae gwasanaethau sy'n anelu at atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod hefyd yn anelu at gefnogi teuluoedd trwy'r broses gofal statudol ac atal achosion gofal sy’n digwydd dro ar ôl tro. Gall hyn hefyd gael effaith ataliol, gan bod y profiad o achosion statudol yn hynod negyddol.

Ar ôl adnabod pa ddeilliannau negyddol ellid eu hatal, aethom ati i archwilio arfer da gan wasanaethau lle mae atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod yn un o'r prif bwrpasau. Fe wnaeth hyn ein galluogi i fynd ati’n ddiweddarach i gymharu Magu, sy'n anelu at weithio gyda theuluoedd yn RhCT i atal achosion o wahanu babanod o dan ddeuddeng mis, ag arfer da mewn ardaloedd eraill, i archwilio effaith bosibl gwariant ataliol yn RhCT heb werthusiad ffurfiol.

Canfuom fod gwasanaethau yn cynnig model sy'n seiliedig ar gryfderau gydag ymgysylltu cyfannol sydd wedi'i fwriadu i fod yn wahanol i wasanaethau statudol. Maent yn defnyddio dull sy’n deall trawma sy'n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd. Yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol a therapiwtig, mae gwasanaethau hefyd yn darparu cynnwys addysgol i gynyddu hyder a sgiliau rhianta. Roedd pedwar prif fath o ddeilliannau o ganlyniad i ymgysylltu â'r gwasanaethau, sy’n gysylltiedig ag ymwneud ffurfiol â’r Gwasanaethau Plant, rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol, gwybodaeth a sgiliau rhianta, ac iechyd a llesiant rhieni.

Yn RhCT, canfuom fod Magu yn cyd-fynd yn dda â'r arfer da a ganfuwyd mewn ardaloedd eraill. Mae'n rhesymol tybio y gallai Magu ddwyn deilliannau tebyg i arfer da a adnabuwyd mewn ardaloedd eraill. Fodd bynnag, yn niffyg gwerthusiad ffurfiol, ac oherwydd yr amser byr y mae'r gwasanaeth wedi bod yn weithredol, nid yw'n bosibl ffurfio barn bendant ynglŷn â’i effaith lawn. Fodd bynnag, mae geirdaon sy’n disgrifio profiad personol yn amlygu effeithiau cadarnhaol ar ymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol, iechyd a llesiant rhieni, a hyder a sgiliau rhianta.

Mae data sefydliadol o flwyddyn gyntaf gweithrediad Magu hefyd yn dangos, ym mis Mai 2024, bod 41 allan o 46 o fabanod wedi aros yng ngofal eu rhieni neu wedi dychwelyd ar ôl cyfnod o fod ar wahân, gyda hyn yn gostwng ychydig i 38 o'r 46 o blant ym mis Medi 2025. Mae'n bwysig deall mai cipolwg ar effaith ar gyfnodau penodol mewn amser yw hyn, ac y gall hyn newid ymhellach dros amser, wrth i'r anghenion cymorth ar gyfer pob teulu newid. Mae hyn yn golygu, o ran y sefyllfa ym mis Medi 2025, mai tua 17% yw’r gyfradd wahanu, sy’n ostyngiad sylweddol o'i gymharu â’r gyfradd wahanu nodweddiadol cyn Magu, sef 33%. Pe bai statws Plant sy’n Derbyn Gofal presennol y garfan hon yn aros yn sefydlog dros y tymor hwy, gyda'r rhai nad oes angen gwasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal arnynt yn aros fel ag y mae ar hyn o bryd nes eu bod yn 18 oed, tua £1.3 miliwn fyddai cyfanswm y gost a osgowyd (ar ôl didynnu cost Magu). Gellid ailadrodd y dadansoddiad ar gyfer y garfan hon ar wahanol gyfnodau mewn amser i bennu hirhoedledd y buddsoddiad.

Fodd bynnag, mae'r seilwaith data presennol yn golygu ei bod yn anodd dangos tystiolaeth o effaith barhaus Magu. Mae data ar ddeilliannau achosion yn cael eu dal gan wasanaethau statudol yn hytrach na Magu, ac nid oes unrhyw fecanwaith o fewn y setiau data i adnabod y deilliannau ar gyfer plant a theuluoedd a gefnogwyd gan Magu heb ddibynnu ar wybodaeth broffesiynol am achosion unigol, sy'n llafurus. Bydd angen blaenoriaethu deilliannau eraill, y gellir eu mesur trwy eirdaon sy’n disgrifio profiad personol, er enghraifft, gan nad yw'n bosibl eu mesur i gyd fel rhan o’r drefn arferol. Dylai'r gwasanaeth weithio gydag adrannau eraill o fewn y Cyngor (gan gynnwys Cyllid a TGCh), rhanddeiliaid, a defnyddwyr y gwasanaeth i benderfynu pa ffactorau sydd bwysicaf wrth farnu effeithiolrwydd Magu, sut y gellid mesur hyn a'r data a gesglir fel rhan o’r drefn arferol heb roi baich ychwanegol ar ymarferwyr.

Argymhellion

  1. Archwilio cyfleoedd i ddatblygu system gwybodaeth reoli newydd MOSAIC gan ddefnyddio ymarferoldeb ariannol y system i’w gwneud yn bosibl ymgorffori data Magu o fewn seilwaith data ehangach y Gwasanaethau Plant i’w gwneud yn haws adrodd fel rhan o’r drefn arferol ar ddeilliannau y gellir eu cysylltu â chost y ddarpariaeth.
  2. Sicrhau arbenigedd a chapasiti i fynd ati’n effeithiol i reoli’r broses o gasglu data Magu ac adrodd arno yn ganolog i liniaru'r angen i'r tîm darparu rheng flaen gasglu data â llaw mewn modd llafurus.
  3. Cydweithio gyda rhanddeiliaid, defnyddwyr y gwasanaeth a meysydd gwasanaeth eraill i ystyried y mesurau deilliannau a adnabuwyd o wasanaethau tebyg eraill a blaenoriaethu'r rhai y gellid eu casglu gan Magu fel rhan o’r drefn arferol.
  4. Defnyddio’r daenlen CIPFA wedi’i phoblogi i godio gwariant ataliol yn erbyn llinellau cyllideb perthnasol i fonitro lefel y buddsoddiad dros amser, ochr yn ochr â deilliannau hysbys ar gyfer teuluoedd sy'n cael ymyriadau Magu.
  5. Tracio deilliannau achosion Magu dros gyfnod o sawl blwyddyn i bennu effaith ariannol hirdymor buddsoddiad mewn atal achosion o wahanu rhieni a’u babanod.
  6. Ystyried yr opsiynau i ailddyrannu cyllid craidd yn y camau atal cynradd ac eilaidd i liniaru'r risg bosibl i ymyriadau cynnar pe bai cyllid grant yn cael ei leihau neu’n dod i ben.

Darllenwch yr adran nesaf: Cyfeiriadau

Diweddaru: 02 Mar 2026, 04:04 PM