CYBI Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â'r Grandpiefather: Ben Lewing

Rhannu CYBI Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â'r Grandpiefather: Ben Lewing ar Facebook Rhannu CYBI Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â'r Grandpiefather: Ben Lewing Ar Twitter Rhannu CYBI Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â'r Grandpiefather: Ben Lewing Ar LinkedIn E-bost CYBI Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â'r Grandpiefather: Ben Lewing dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae newid ar droed - ac mae'n newid y ffordd mae Cynghorau yn meddwl! Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) wedi bod yn defnyddio ei Gacen Dystiolaeth enwog, adnodd syml ond pwerus sy'n helpu pawb - o Staff y Cyngor i Aelodau Etholedig - er mwyn deall a defnyddio tystiolaeth yn well wrth lunio penderfyniadau.

Aeth pethau yn fwy cyffrous fyth pan wnaeth Zoe Lancelott o GYBI RhCT gwrdd ag un o'r unigolion wnaeth greu'r cysyniad yn wreiddiol, sef Ben Lewing, yng nghynhadledd genedlaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag "Atal yn Gyntaf". Mae'r garfan yn cyfeirio at Ben fel y "Grandpiefather" am fod fersiynau newydd o Gacen Dystiolaeth RhCT wedi cael eu creu ac yn cael eu defnyddio ledled y DU.

Gyda'i gilydd, mae Zoe a Ben wedi creu blog o'r enw "Getting Your Hands Dirty: Unearthing Evidence" – sy’n galw ar y rheiny sy'n arbenigo mewn gwasanaethau cyhoeddus i gofleidio ochr flêr ac ystyrlon tystiolaeth y byd go iawn. Anghofiwch ystadegau a metrigau oeraidd; mae'r blog yma yn hyrwyddo chwilfrydedd, cydweithio, a'r dewrder i fynd i'r afael â phrofiad byw a mewnwelediadau lleol. Mae'n ddeunydd darllen hanfodol i unrhyw un sydd eisiau gwneud i dystiolaeth weithio ar waith - yn hytrach na theori yn unig.

Darllenwch y blog cyfan yma: Getting Your Hands Dirty: Unearthing Evidence (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig)

Y tro nesaf y byddwch chi'n clywed rhywun yn dweud "llunio penderfyniadau wedi'u llywio gan dystiolaeth", gwenwch a gofynnwch: "Ydych chi wedi rhoi cynnig ar y Gacen?"

Diweddaru: 04 Tach 2025, 05:44 PM