Recriwtio Golfalwyr Maeth

Rhannu Recriwtio Golfalwyr Maeth ar Facebook Rhannu Recriwtio Golfalwyr Maeth Ar Twitter Rhannu Recriwtio Golfalwyr Maeth Ar LinkedIn E-bost Recriwtio Golfalwyr Maeth dolen

Click here for English / Cliciwch yma am Saesneg

Rydym eisiau ei gwneud yn haws i bobl yn RhCT ddod yn ofalwyr maeth fel bod mwy o blant yn gallu tyfu fyny mewn cartrefi teuluol lleol, diogel a sefydlog.

Nod y prosiect

Rydym eisiau clywed gan bobl sydd:

  • Erioed wedi meddwl am faethu
  • Ddim yn gwybod llawer am faethu
  • Wedi meddwl am faethu ond heb gymryd y cam nesaf a gwneud ymholiad
  • Ddim yn siŵr os ydy maethu yn addas iddyn nhw

Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall beth sydd yn atal pobl rhag maethu a beth all annog pobl i gymryd y cam cyntaf.

I wneud hyn, byddwn yn casglu gwahanol fathau o dystiolaeth i ddeall:

· Pam nad yw pobl yn maethu

· Beth sy’n achosi’r prinder cenedlaethol o ofalwyr maeth

· Beth all gymell pobl i ystyried maethu

· Sut mae modd gwella dull recriwtio presennol RhCT i ddenu a chadw mwy o ofalwyr maeth

Ein hamcan yw defnyddio’r wybodaeth yma i siapio dulliau recriwtio gwell a mwy effeithiol.

  • Hydref 2026

    Rhannu Hydref 2026 ar Facebook Rhannu Hydref 2026 Ar Twitter Rhannu Hydref 2026 Ar LinkedIn E-bost Hydref 2026 dolen

    Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'r Tîm Maethu ac yn cynnal dau grŵp ffocws gyda gofalwyr maeth cyfredol i archwilio'u taith maethu, adnabod themâu allweddol a syniadau i helpu llunio recriwtio yn y dyfodol. Mae'r cwestiynau ar gyfer y grwpiau ffocws wedi'u cyd-ddylunio gyda rhai o ofalwyr maeth arloesol ac mae un arloeswr wedi gwirfoddoli i gyd-hwyluso gyda'r CYBI.

    Rydyn ni'n cynnal cyfweliadau gyda phobl a ddechreuodd eu taith gofalwr maeth ond stopion nhw am resymau anhysbys, gan geisio deall yr hyn achosodd eu penderfyniad i stopio ac os gallai cefnogaeth amgen wedi newid hyn.

    Unwaith bod y gwaith hwn wedi'i orffen, bydd y Tîm Maethu yn edrych ar y dystiolaeth i gyd a bydd e'n helpu llywio'u cynllunio am strategaeth recriwtio yn y dyfodol.

Diweddaru: 07 Hyd 2026, 09:43 AC