Prif Siaradwyr

Rhannu Prif Siaradwyr ar Facebook Rhannu Prif Siaradwyr Ar Twitter Rhannu Prif Siaradwyr Ar LinkedIn E-bost Prif Siaradwyr dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Paul Mee - Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Mae Paul Mee wedi bod yn Prif Weithredwr y Cyngor ers Rhagfyr 2022. Fel Prif Weithredwr, ymhlith ei ddyletswyddau eraill, mae Paul yn gyfrifol am osod gweledigaeth a chyfeiriad strategol y Cyngor ynghyd ag Arweinydd y Cyngor; am gynghori a chefnogi aelodau etholedig a’r Cyngor ar ddatblygiad a darpariaeth polisi a strategaeth; yn gyfrifol am yr holl staff sy'n gweithio i'r Cyngor ac am drefnu'i adnoddau'n gywir er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cwrdd â'i ddyletswyddau; ac mae rhaid iddo sicrhau bod y Cyngor â'r gallu i ymateb i unrhyw argyfwng y gall y Cyngor ei wynebu. Cyn mynd yn Prif Weithredwr, roedd Paul yn Ddirprwy Brif Weithredwr & Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Gwasanaethau Plant a Chymuned a chyn hynny Paul oedd y Cyfarwyddwr dros Iechyd Cyhoeddus, Amddiffyn a Gwasanaethau'r Gymuned. Mae Paul wedi dal llawer o rolau ac wedi cael amrywiaeth o gyfrifoldebau ers dechrau ei yrfa fel Swyddog Iechyd Amgylcheddol ym 1991 ac mae e'n dal i fod yn Aelod o Institiwt Siartredig Iechyd Amgylcheddol. Hefyd, mae Paul yn Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.

Yr Athro Kerry Hood - Deon Ymchwil ac Arloesi yng Ngholeg Biofeddygaeth a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Kerry Hood yn Athro Treialon ac yn Ddeon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer y Coleg Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn Uwch Arweinydd Ymchwil ac yn fentor i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae gan Kerry radd a doethuriaeth mewn Ystadegau ac mae wedi gweithio yn y maes ystadegau meddygol ers 1996. Canolbwyntiodd rhan gyntaf ei gyrfa ar ymchwil mewn gofal sylfaenol ac yn 2006 fe sefydlodd Uned Treialon De Ddwyrain Cymru ac fe ddatblygodd bortffolio ymchwil ehangach. Yn 2015 cafodd ei phenodi i arwain uniad o dair uned treialon clinigol yng Nghaerdydd a chreodd y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon ble buodd hi’n gyfarwyddwr tan 2023. Mae hi wedi cydweithio ar draws y DU ac Ewrop ar astudiaethau ymchwil i ystod eang o arianwyr gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, Yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau mewn diwydiant, ac mae ganddi dros 360 o gyhoeddiadau ymchwil wedi’i adolygu gan gymheiriaid ac mae hi bellach yn dal £32 miliwn o grantiau ymchwil fel cyd-ymgeisydd. Mae hi’n Gymrawd ac yn Ystadegydd Siartredig yng Nghymdeithas Ystadegau Brenhinol a’r Academi Addysg Uwch ac mae hi’n aelod o’r Gymdeithas ar gyfer Gofal Sylfaenol a’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Cemotherapi Microbaidd. Mae Kerry yn awyddus i ddatblygu llwybrau gyrfa ar gyfer ymchwilwyr ac mae hi’n fentor ar nifer o gynlluniau mentora ar draws y DU, ac mae hi hefyd yn mentora myfyrwyr meddygaeth israddedig.

Zoe Lancelott - Pennaeth RhCT Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd

Mae gan Zoe dros 30 mlynedd o brofiad o gyflawni a rheoli gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru, ac mae ganddi ddiddordeb yn rôl ymyrraeth ac atal cynnar i leihau rhwystrau i addysg, ymgysylltiad a chyfleoedd, sy’n wynebu unigolion a chymunedau a gwneud iawn am anghydraddoldebau iechyd. I’w rôl fel pennaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, mae Zoe yn dod a hanes profedig o arweinyddiaeth strategol gref, gweithio mewn partneriaeth, cyflawni rhaglenni newid gwerth miliynau ar draws wasanaethau llywodraeth leol, partneriaid yn y sector gyhoeddus a’r trydydd sector a thrawsnewid gwasanaethau traddodiadol y Cyngor o fewn meysydd Addysg a Gofal Cymdeithasol i gyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Ben Lewing - Cyfarwyddwr Making Evidence Work

Ben Lewing yw cyfarwyddwr Making Evidence Work, cwmni buddiant cymunedol sydd â nod o ddatgloi potensial tystiolaeth bywyd go iawn i wella bywydau plant. Mae’n disgrifio ei hun fel rhywun sy’n rhychwantu ffiniau, ac mae cael ei gymell yn fawr gan lawenydd plant. Mae ei siwrne broffesiynol wedi mynd o gartrefi plant ym Mirmingham i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol ar ddefnyddio tystiolaeth, drwy gomisiynu gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar y GIG ac awdurdodau lleol. Fe dreuliodd ddegawd yn y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar a Foundation, yn arwain gwaith i gefnogi arweinwyr lleol i ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth. Fe yw pensaer Changemakers ar Academi Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar, fe greodd y Gacen Dystiolaeth ac fe yw awdur ‘Arwain a chyflawni gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar: 10 mewnwelediad o 20 lle ar draws Cymru a Lloegr’.

Yr Athro Jim Mcmanus - Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymunodd Jim ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 ac mae’n goruchwylio rhaglenni ar draws Penderfynyddion Ehangach, gweithio mewn partneriaeth, Gofal Sylfaenol, Gwella Iechyd, Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, Iechyd Meddwl a Llesiant, Diabetes a Gofal Iechyd, Iechyd y Cyhoedd. Mae Jim yn Seicolegydd Siartredig, yn Wyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain yn ogystal â bod yn arbenigwr Iechyd y Cyhoedd cofrestredig ac yn Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. Roedd ganddo Gymrodoriaeth Cenhedlaeth Q Y Sefydliad Iechyd ac ymgymerodd â chymhwyster arweinyddiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Fusnes Ashridge Hult. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd Jim yn Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Swydd Hertford ac yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU, a chyn hynny roedd yn Gyd-gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Birmingham. Mae wedi gweithio ar ofal sylfaenol, gofal cardiaidd a strôc, iechyd meddwl y cyhoedd, cyffuriau ac alcohol, HIV ac iechyd rhywiol. Bu’n arweinydd cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd (ADPH) ar gyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl a hunanladdiad am dros bum mlynedd ac mae wedi gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Cynghori Rhaglen Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd. Mae Jim yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Swydd Hertford ac mae’n Uwch Ddarlith Gwadd yn Is-adran Gwyddorau Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Diweddaru: 19 Mar 2026, 12:48 PM