Mae Gwnewch Newid yn RhCT yn ennill Gwobr Genedlaethol Ddibynadwyedd a Thryloywder

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Ebrill 2026
Mae Gwnewch Newid yn RhCT wedi ennill y Wobr Ddibynadwyedd a Thryloywder yn y Granicus Digital Awards UK (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig). Mae'r wobr yn cydnabod y wefan am ei gwneud yn haws i bobl rhannu'u profiadau a chyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio ar y penderfynyddion iechyd ehangach yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wobr yn dathlu sefydliadau sy'n eglur, agored ac yn hawdd ymgysylltu â nhw ar-lein. Mae Gwnewch Newid yn RhCT, gwefan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT (CYBI RhCT), wedi cael ei chydnabod am helpu trigolion a sefydliadau deall yr hyn mae'r CYBI yn ei wneud a'u hyrwyddo nhw i gymryd rhan.
Mae pobl yn gallu cymryd rhan mewn amryw o ffyrdd, o rannu'u barn a phrofiadau byw, trwy bolau ac arolygon, i ddod yn aelodau cyfartal gyda hawliau pleidleisio ar baneli recriwtio, a helpu llunio prosiectau.
Cafodd ymddangosiad y wefan, sut mae'n gweithio a sut mae gwybodaeth yn cael ei ysgrifennu eu dylunio gyda chymorth trigolion a sefydliadau lleol. O'r dechrau, roedd y ffocws ar wneud y wefan yn hawdd i'w defnyddio, gydag iaith eglur ac offer hygyrchedd i gefnogi amrywiaeth o anghenion gwahanol.
Mae hyn yn meddwl:
· Bod trigolion yn gallu gweld yr hyn sy'n digwydd a chael mynegi'u barn
· Bod y Cyngor yn gallu gwrando ar brofiadau go iawn i'w helpu nhw wneud penderfyniadau gwell
· Bod sefydliadau lleol a phartneriaid yn gallu gwybod yr hyn sy'n digwydd a chymryd rhan
Dywedodd Ceri Parsons, Cydlynydd Effaith a Gweithredu Data:
'Mae Gwnewch Newid yn RhCT am ei wneud yn haws i bobl cymryd rhan a gwybod yr hyn sy'n digwydd. Mae'r wobr hon yn dangos pwysigrwydd gwrando ar drigolion a gweithio gyda sefydliadau lleol i greu rhywbeth sy'n gweithio i bawb.'
Bydd Gwnewch Newid yn RhCT yn parhau i gefnogi ffyrdd agored, cynhwysol a thryloyw i bobl helpu gwneud penderfyniadau yn Rhondda Cynon Taf.