Deall Diffyg Ymgysylltiad

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Am y prosiect yma
Mae Cyngor RhCT eisiau deall mwy am y bobl sy ddim yn defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd a Hamdden ar hyn o bryd. Er ein bod ni'n casglu gwybodaeth dda am ddefnyddwyr rheolaidd, rydyn ni'n gwybod llawer llai am drigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma yn anaml, o bryd i'w gilydd neu ddim o gwbl. Bwriad y prosiect yma yw llenwi'r bwlch yna gan wrando ar brofiadau trigolion â lleisiau sy'n cael eu clywed yn llai aml. Rydyn ni eisiau deall yr hyn sy'n atal pobl rhag defnyddio'r gwasanaethau hyn, beth allai'u gwneud nhw'n fwy apelgar, a sut rydyn ni'n gallu cynllunio gwasanaethau, llefydd a chyfleoedd sy'n cwrdd ag anghenion ein poblogaeth gyfan yn well.
Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd:
· defnyddio ein gwasanaethau'n aml neu o bryd i'w gilydd
· byth neu bron byth yn defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd neu Hamdden RhCT
· ddim yn gwybod llawer am yr hyn mae'r gwasanaethau yma yn eu cynnig
· wedi ystyried eu defnyddio nhw ond sy heb gymryd y cam nesaf
· ddim yn siŵr os bod y gwasanaethau yma ar eu cyfer 'nhw'
· yn teimlo bod y gwasanaethau yma ddim yn cwrdd â'u hanghenion
· yn rhan o gymuned nad yw eu profiadau yn cael eu casglu yn aml
Bydd eich barnau yn ein helpu ni i ddeall yr hyn sy'n atal pobl rhag ymgysylltu â'r hyn allai annog mwy o drigolion i gymryd rhan yn y dyfodol.
Beth wnewn ni
Fe wnewn ni gasglu ystod o brofiad byw, adborth, a thystiolaeth gan bobl ar draws RhCT er mwyn deall yn well:
Anghenion y boblogaeth ehangach i gefnogi gwaith mwy ffocysedig a gwell gynllunio gwasanaethau
Y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau Celf, Llyfrgelloedd a Hamdden
Yr hyn fyddai'n helpu pobl i ymgysylltu yn fwy hyderus - gan gynnwys ffactorau ymarferol, diwylliannol, cymdeithasol ac emosiynol
Sut mae'r gwasanaethau yma'n cyfrannu i gydlyniad cymunedol, lles ac ansawdd bywyd
Sut rydyn ni'n gallu mesur eu heffaith ehangach ar drigolion a chymunedau
Ein hamcan yw defnyddio'r wybodaeth yma i lunio gwasanaethau sy'n fwy croesawgar, perthnasol a hygyrch i bawb.