CYBI RhCT yn Tanio Arloesedd yn achlysur Datathon Cenedlaethol Cyntaf y DU: Data Collision

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
Mae Ceri ac Alex o Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) newydd wneud hanes yn “Data Collision” – Datathon cenedlaethol cyntaf o’i fath a gynhaliwyd gan ADR UK (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) a'i bartneriaid. Nid cynhadledd gyffredin oedd hon. Doedd dim cyfres o gyflwyniadau PowerPoint. Dim ond arloesi data pur, egnïol, ymarferol.

Beth yw Datathon?
Dychmygwch hacathon (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig) – ond ar gyfer data. Rasiodd timau o ymchwilwyr, dadansoddwyr a staff rheng flaen yn erbyn y cloc i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn gan ddefnyddio offer arloesol, meddyliau creadigol a chydweithio difrifol. Y nod? I ddatgelu mewnwelediadau a allai drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.
Beth Wnaeth yr Achlysur yma mor Arloesol?
1. Defnyddio Data “Ffug” i Hyfforddi’n Ddiogel
Am y tro cyntaf yn y DU, defnyddiodd y timau ddata synthetig (ffug ond realistig) i ymarfer gweithio gyda gwybodaeth sensitif. Roedd hyn yn golygu y gallen nhw archwilio problemau byd go iawn heb beryglu preifatrwydd unrhyw un, ac roedd hyn i gyd mewn amgylchedd digidol diogel.
2. “Timau Enfys” wedi’u Codio â Lliwiau
Cafodd pawb eu grwpio’n dimau yn seiliedig ar eu sgiliau – fel codio, dadansoddi data, neu ymchwil gymdeithasol – gan ddefnyddio system lliw. Helpodd y cymysgedd yma o dalentau bobl o wahanol gefndiroedd i weithio gyda'i gilydd, yn union fel mewn prosiectau bywyd go iawn.
3. Dysgu drwy Wneud – gyda Chymorth Arbenigol
Nid cystadleuaeth yn unig oedd hon – roedd yn gyfle i ddysgu. Roedd arbenigwyr o brifysgolion uchel eu parch fel Abertawe, Caerdydd, Coleg y Brenin Llundain, a hyd yn oed Singapore wrth law i arwain timau wrth iddyn nhw weithio. Dysgodd pawb drwy wneud, nid drwy wrando yn unig.
4. Datrys Problem Go Iawn
Roedd yr her yn seiliedig ar fater go iawn: sut i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifainc wrth iddyn nhw symud rhwng gwahanol fathau o ofal. Gwnaeth hyn yn siŵr bod y gwaith yn ystyrlon a'i fod yn gallu helpu i lunio polisïau ar gyfer y dyfodol.
5. Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Ffordd Gywir
Cafwyd sesiynau ar sut i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gyfrifol ac yn foesegol – gan sicrhau bod data’n cael ei drin yn deg, yn dryloyw, ac mewn ffyrdd y gellir ymddiried ynddyn nhw.
6. Edrych i'r Dyfodol
Doedd hyn ddim yn achlysur unigryw. Mae'r trefnwyr yn bwriadu defnyddio'r math yma o hyfforddiant ledled y DU i helpu rhagor o bobl i feithrin sgiliau data. Maen nhw hefyd yn cydweithio ag arbenigwyr byd-eang o leoedd fel MIT a Singapore i gynnal y momentwm.
Pam Roedd Rôl CYBI RhCT yn Bwysig
Roedd CYBI RhCT yn un o'r ychydig sefydliadau a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr achlysur cenedlaethol yma, ac mae hyn yn dangos ei ymrwymiad cryf i ddefnyddio data mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Drwy rannu gwybodaeth leol a dysgu gan arbenigwyr gorau ledled y DU a thu hwnt, daeth y tîm â syniadau, offer a phartneriaethau ffres yn ôl. Bydd y rhain yn helpu i lunio gwasanaethau mwy deallus a mwy effeithiol a fydd o fudd gwirioneddol i'n cymunedau.
Hoffech chi wybod rhagor?
Gallwch ddarllen yr adroddiad ar ôl yr achlysur (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig), neu os oes gennych chi gyfrif LinkedIn, gallwch wylio crynodeb fideo o'r achlysur (dolen allanol - ar gael yn Saesneg yn unig).
Y Gair Olaf
Nid diwrnod allan o'r swyddfa yn unig oedd hwn – roedd yn gam beiddgar i ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus. Mae CYBI RhCT yn falch o fod yn rhan o fudiad sy'n gwneud mwy na thrin data yn unig - mae'n trin data er lles.