22 Gorffennaf 2025

Defnyddio Tystiolaeth

HYFFORDDIANT AM DDIM - AR-LEIN - 14:00 - 16:00

"Defnyddio Tystiolaeth" Gweithdy Hyfforddiant.

Yn rhan o'r newid mae'r Cyngor yn ei wneud i'w ddiwylliant er mwyn gwreiddio gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ym mhopeth mae'n ei wneud, mae'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) yn gweithio gyda'r garfan yng nghanolfan What Works Centre for Local Economic Growth, er mwyn cyflwyno sesiwn hyfforddiant ar ddefnyddio tystiolaeth.

 Mae mwyfwy o hyd o dystiolaeth ar gael i bobl, yn rhwydd, ond dyw hynny ddim yn golygu bod y cyfan yn ddefnyddiol. 

Yr amcan o ran y gweithdy yma yw rhoi cyflwyniad i'r maes ynghyd â gwneud digonedd o weithgareddau ymarferol. Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio at ddibenion annog pobl i ystyried tystiolaeth, ei hasesu a'i defnyddio, mewn modd mwy effeithiol.

Mae angen o leiaf 6 person i gymryd rhan ym mhob cwrs ac mae hyn yn berthnasol i bob cwrs, waeth beth yw’r dewis iaith. Yn anffodus, os bydd llai na 6 o bobl, fydd y cwrs ddim yn rhedeg gan ei bod hi'n rhy ddrud i'w gynnal o dan y fath amgylchiadau. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd rhoi digon o rybudd os na fyddwch chi'n gallu dod i ryw gwrs penodol rydych chi wedi cadw lle ar ei gyfer (5 diwrnod fan hwyraf), er mwyn inni benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen â chynnal y cwrs neu beidio.

Er mwyn CADW LLE e-bostiwch HDRC@rctcbc.gov.uk. Mae ein holl hyfforddiant ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Os hoffech chi dderbyn eich hyfforddiant yn y Gymraeg a wnewch chi roi wybod i ni o leiaf 10 diwrnod cyn yr achlysur, os gwelwch yn dda.

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.

Diolch

Carfan CYBI RhCT

09 Hydref 2025

Defnyddio Tystiolaeth

HYFFORDDIANT AM DDIM - AR-LEIN - 9:30 - 11:30