Cefnogaeth CYBI RhCT yn cael ei ganmol wrth i Grŵp Craffu Tlodi Plan yn cyflwyno’i ganfyddiadau

Rhannu Cefnogaeth CYBI RhCT yn cael ei ganmol wrth i Grŵp Craffu Tlodi Plan yn cyflwyno’i ganfyddiadau ar Facebook Rhannu Cefnogaeth CYBI RhCT yn cael ei ganmol wrth i Grŵp Craffu Tlodi Plan yn cyflwyno’i ganfyddiadau Ar Twitter Rhannu Cefnogaeth CYBI RhCT yn cael ei ganmol wrth i Grŵp Craffu Tlodi Plan yn cyflwyno’i ganfyddiadau Ar LinkedIn E-bost Cefnogaeth CYBI RhCT yn cael ei ganmol wrth i Grŵp Craffu Tlodi Plan yn cyflwyno’i ganfyddiadau dolen

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) wedi cael ei ganmol am ei arbenigedd yn cefnogi gwneud penderfyniadau wedi’u goleuo gan dystiolaeth, wrth i’r Grŵp Craffu Tlodi Plant cyflwyno’i argymhellion i Bwyllgor Craffu a Throsolwg Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Yn ystod cyfarfod y pwyllgor ar 7fed Ionawr 2026, trafododd aelodau ddull arloesol y grŵp o fynd i’r afael â chasglu, dadansoddi a defnyddio tystiolaeth - dull a gafodd ei lunio a’i hwyluso gan y CYBI RhCT. Cymeradwyodd y Pwyllgor y rôl ymgynghorol blaenllaw mae’r CYBI RhCT wedi chwarae dros y 12 mis diwethaf.

Ffyrdd newydd o weithio

Cafodd yr argymhellion eu datblygu gan ddefnyddio model newydd o graffu wedi’i fabwysiadu gan y gweithgor ynghyd â chefnogaeth CYBI RhCT, yn cynnwys hybu cyfranogiad uniongyrchol gan y cyhoedd, gwahodd aelod o’r cyhoedd i eistedd ar y gweithgor a’r defnydd o “Gacen Dystiolaeth” y CYBI i gasglu ac ystyried mathau gwahanol o dystiolaeth - megis ymchwil academaidd, data’r Cyngor, mewnwelediadau’r sector gwirfoddol, a phrofiad byw. Mae’r dull hwn yn bwriadu gosod lleisiau’r gymuned wrth galon gwneud penderfyniadau wrth help aelodau etholedig datblygu argymhellion wedi’u goleuo gan dystiolaeth.

Uchafbwyntiau allweddol

Mae uchafbwyntiau allweddol o’r cyfarfod yn cynnwys canmoliaeth gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Democrataidd o ddull arloesol y gweithgor a’r ffordd wnaeth rôl ymgynghorol a mewnbwn y CYBI RhCT wedi cryfhau’r broses, gan gadarnhau’r bwriad i ddefnyddio’r model hwn eto ar gyfer gweithgorau yn y dyfodol. Pwysleisiodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg sut gafodd yr argymhellion terfynol eu llunio gan ddefnydd strwythuredig o dystiolaeth. Dangosodd sefydliadau’r sector gwirfoddol eu cefnogaeth i’r argymhellion, gan adnabod eu hunain fel partneriaid cydradd ac yn ysgogi’r defnydd o dystiolaeth o’r sector gwirfoddol a lleisiau profiad byw yn y broses.

Camau nesaf

Bydd argymhellion y Gweithgor yn cael eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor yn yr wythnosau i ddod. Unwaith eu bod nhw wedi’u cyhoeddi, bydd tîm y CYBI RhCT yn rhannu manylion llawn y prosiect ar y gwefan Gwnewch Newid: Gwnewch Newidyn RhCT

Gwyliwch y cyfarfod: Mae’r sesiwn ar gael i’w wylio trwy we-lediad (Saesneg yn unig): Overview and Scrutiny Committee Webcast – 7 January 2026 (Eitem Tlodi Plant yn dechrau am 1:04:30).

Cyhoeddi: 29 Jan 2026, 04:18 PM