Beth yw Anghyfartaleddau Iechyd?

Rhannu Beth yw Anghyfartaleddau Iechyd? ar Facebook Rhannu Beth yw Anghyfartaleddau Iechyd? Ar Twitter Rhannu Beth yw Anghyfartaleddau Iechyd? Ar LinkedIn E-bost Beth yw Anghyfartaleddau Iechyd? dolen

Yn ôl i Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach?

Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Beth yw anghyfartaleddau iechyd?

Gwahaniaethau yn pa mor hir mae pobl yn byw a faint o salwch maen nhw’n ei brofi yw anghyfartaleddau iechyd. Yn RhCT, mae’r dau beth yma yn is na cyfartaleddau cenedlaethol.

Pan mae mwy o bobl yn profi iechyd gwael (h.y. mae lefel uwch o anghyfartaleddau iechyd) mewn cymuned, mae hynny’n rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau sy’n cael eu hariannu gydag arian cyhoeddus. Mae hyn yn creu problem dwbl i ddarparwyr fel y Cyngor: mae mwy o bobl angen gwasanaethau ond mae llai o bobl sy’n gallu talu i mewn i’r pwrs cyhoeddus.

Felly, mae anghyfartaleddau iechyd yn arwain at wahaniaethau mewn:

  • argaeledd gwasanaethau
  • ansawdd gwasanaethau, e.e. rhestrau aros hirach, bodlonrwydd defnyddwyr gwasanaeth is, ayyb.
  • ymddygiadau sy’n peri risg i iechyd, e.e. diffyg ymarfer oherwydd mynediad gwael i lefydd gwyrdd

Pwy sy’n profi anghyfartaleddau iechyd?

Mae’r ffordd bod pobl yn profi anghyfartaleddau iechyd yn unigryw iddyn nhw. Sut bynnag, mae pedwar grŵp eang o bobl sy’n profi lefelau uwch o anghyfartaleddau iechyd uwch yn gallu cael eu hadnabod yn y data. Y ffactorau sy’n cael eu dadansoddi gan amlaf er mwyn datblygu gwasanaethau i leddfu anghyfartaleddau iechyd yw:

  • ffactorau economaidd-cymdeithasol
    1. er bod llawer o bobl gyda cyflogau is-na’r-cyfartaledd yn byw’n iach, mae perthynas agos rhwng tlodi a chanlyniadau iechyd gwaeth na’r disgwyl
  • daearyddiaeth
    1. gall hyn cael ei gysylltu gyda ffactorau economaidd-cymdeithasol, e.e. mae ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel RhCT yn gweld lefelau uwch o ddiweithdra
    2. ond hefyd, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, neu mewn ardaloedd gyda buddsoddiad isel mewn trafnidiaeth cyhoeddus, yn ei ganfod yn anoddach i gyrraedd gwasanaethau
  • nodweddion penodol, e.e. rhyw, hil neu anabledd
    1. mae rhai pobl gyda nodweddion penodol hefyd yn cael anghenion iechyd penodol
    2. mae rhai grwpiau gyda nodweddion penodol yn gallu ei chael hi’n anodd i gyrraedd gwasanaethau
  • grwpiau wedi’u neilltuo’n gymdeithasol, e.e. pobl sy’n profi di-gartrefedd, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ayyb.
    1. e.e. efallai dydy pobl heb gyfeiriad parhaol neu gyfrif banc ddim yn gallu cael mynediad i wasanaethau a chefnogaeth

Mae hi'n brin bod pobl yn byw gydag anghyfartaleddau iechyd am un o’r ffactorau hyn yn unig. Mae’r ffactorau hyn yn plethu mewn ffyrdd cymhleth ac mae’n gallu bod yn anodd i ddarparwyr gwasanaethau darparu’r cefnogaeth cywir, e.e. mae menywod sy’n profi di-gartrefedd yn wynebu risgiau ac anghenion iechyd gwahanol i ddynion sy’n profi di-gartrefedd. Yn debyg, gall person anabl sy’n byw mewn comuned mwy ynysig yn bwrdeistref sirol profi anghyfartaleddau yn sgîl pob un o’r nodweddion hyn. Gelwir hyn yn groestoriadedd.

Gwnewch gynnig ar ein cwis isod i ddarganfod mwy am sut mae anghyfartaleddau iechyd yn effeithio ar bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Diweddaru: 31 Jul 2025, 11:18 AC