Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach?

Rhannu Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach? ar Facebook Rhannu Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach? Ar Twitter Rhannu Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach? Ar LinkedIn E-bost Beth yw Penderfynyddion Iechyd Ehangach? dolen
Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Barod am her? Neidiwch i mewn i fyd y penderfynyddion iechyd ehangach – a gwelwch os fedrwch chi daro naw yn y cwis sy’n aros amdanoch chi ar ddiwedd y dudalen!

Beth yw’r Penderfynyddion Iechyd Ehangach?

Y Penderfynyddion Iechyd Ehangach yw’r ffactorau an-feddygol yn ein bywydau pob dydd sy’n effeithio ar ein hiechyd a lles. Mae penderfynyddion iechyd ehangach yn cynnwys:

  • llygredd aer a dŵr
  • diogelwch bwyd a diet
  • tai a di-gartrefedd
  • mynediad at lefydd gwyrdd a glas
  • cyflog
  • gwaith ac amodau gwaith
  • trafnidiaeth
  • cynhwysiant cymdeithasol
  • newid hinsawdd

Weithiau mae rhain yn cael eu galw’n penderfynyddion iechyd cymdeithasol.

Pam bod y penderfynyddion iechyd ehangach yn bwysig?

Mae angen ar gymdeithas iach y blociau adeiladu cywir, megis swyddi a thai o ansawdd da, mynediad at addysg, trafnidiaeth a bwyd iach, a chyflog ac adnoddau digonol. Mae pobl sy’n byw gyda phenderfynyddion iechyd negyddol yn byw yn fyrrach ac yn cael mwy o salwch (gelwir rhain yn anghyfartaleddau iechyd).

Pa rhan sy gan y Cyngor yn y penderfynyddion iechyd ehangach?

Achos bod y penderfynyddion iechyd ehangach yn ffactorau an-feddygol sy’n effeithio ar ein hiechyd a lles, nid yw’r gwasanaethau sy’n help pobl gyda rhain yn cael eu darparu gan y GIG, fel arfer y Cyngor sy’n darparu rhain. Mae'r fideo byr yma gan y NIHR (dolen allanol - dim ar gael yn y Gymraeg) yn esbonio mwy.

Rhowch gynnig ar ein cwis i brofi’ch gwybodaeth o rhai o’r penderfynyddion iechyd ehangach sydd o bwys yn RhCT, megis:

  • tlodi
  • statws cymdeithasol ac economaidd
  • tai
  • cyflogaeth
  • addysg ar gyfer oedolion
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • byw’n iach

Pa rhan sy gan y CYBI yn y penderfynyddion iechyd ehangach?

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Cyngor i sicrhau bod penderfyniadau am wasanaethau wedi’u seilio ar y gwybodaeth gorau sy ar gael. Oherwydd hyn, gall y Cyngor wella’r penderfynyddion iechyd ehangach a lleihau anghyfartaleddau iechyd. Mae hyn yn golygu:

  • helpu pobl ifanc cyrraedd eu potensial
  • cefnogi gwasanaethau sy’n gallu stopio problemau cyn iddyn nhw ddechrau neu atal problemau rhag mynd yn waeth, e.e. di-gartrefedd
  • ei wneud yn haws i gael mynediad i wasanaethau a chefnogaeth

Mae’r CYBI wedi datblygu’r Gacen Dystiolaeth i ddangos y chwe math o wybodaeth sydd yr un mor bwysig ar gyfer llunio penderfyniadau.

Mae profiad pobl sy’n byw, gweithio, chwarae neu astudio yn RhCT yn un o chwech ffynhonnell hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Rydych chi’n gallu gwneud newid gan gymryd rhan a’n helpu ni i ddeall yn well sut mae’r penderfynyddion iechyd ehangach yn effeithio arnoch chi.

Sut wnewn ni hyn?

Fe gasglwn ni wybodaeth i’n helpu ni ddeall blaenoriaethau cymunedau RhCT. Bydd y gwybodaeth a cesglir oddi wrth bobl sy’n byw, gweithio, astudio neu chwarae yn RhCT yn cael ei ychwanegu at y ffynonellau eraill sy gyda ni ac bydd yn ein helpu ni adnabod pa bethau i ffocysu arnyn nhw nesaf. Rydych chi’n gallu gweld y pethau ein bod ni’n ffocysu arnyn nhw ar hyn o bryd yn ein parth prosiectau.

Er enghraifft, mae Gwasanaeth Cyngor yn gofyn i’r CYBI am gefnogaeth i gynyddu nifer y pobl sy’n defnyddio’u gwasanaeth:

Sut gallech chi gymryd rhan

Mae eich profiadau chi yn werthfawr i ni ac fe allech chi gymryd rhan mewn sawl ffordd, sy’n cael eu hesbonio yma. Sut bynnag, gallai fe fod mor syml ag ateb pôl neu arolwg.

Hefyd, mae gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gwefan o’r enw Dewch i Siarad RhCT (dolen allanol) ble mae trigolion yn gallu rhannu’u barn ar faterion lleol, fel prosiectau newydd, y Cynllun Corfforaethol, cyllid a mwy!

Profwch eich gwybodaeth!

Credu eich bod chi wedi dod i ddygymod â'r penderfynyddion iechyd ehangach? Profwch eich gwybodaeth trwy gymryd ein cwis isod.

Diweddaru: 31 Jul 2025, 11:16 AC