Stondin fywiog yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru!
Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English
A welsoch chi ein stondin fywiog yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru eleni?
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd – 2 a 3 Awst, 2025
P'un a wnaethoch chi droelli ein holwyn gwobrau lliwgar, bwrw pleidlais yn ein cwis ar benderfynyddion ehangach sy’n effeithio ar iechyd, profi eich gwybodaeth yn ein cwis ar-lein, neu alw heibio am sgwrs - roedden ni wrth ein bodd yn cwrdd â chi!
Dros ddau ddiwrnod prysur (gyda dros 31,000 o ymwelwyr) fe wnaethon ni ymgysylltu â miloedd o aelodau brwd o'r gymuned a oedd wedi rhannu'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. O faterion yn ymwneud â thai a digartrefedd, i fannau gwyrdd a lles meddyliol, bydd eich lleisiau'n helpu i lywio trafodaethau ystyrlon am flaenoriaethau cymunedol.
Diolch yn Fawr!
Dyma neges i bawb a ddaeth i'r achlysur, i'r rhai a chwaraeodd, sgwrsiodd, ac a gofrestrodd — diolch i chi, roedd ein penwythnos yn un bythgofiadwy!
Mae gyda ni Ganlyniadau'r Arolwg Barn
Ar ein stondin, gofynnon ni i ymwelwyr ddewis y mater sydd bwysicaf iddyn nhw drwy ollwng tocyn i mewn i jariau - roedd pob jar yn cynrychioli ffactor gwahanol sy ddim yn feddygol sy'n cael effaith ar ein hiechyd a'n lles (sy'n cael eu hadnabod fel penderfynyddion iechyd ehangach.
Roedd y garfan yn bresennol i esbonio sut mae pob un o'r ffactorau yma'n chwarae rhan hanfodol wrth lywio ein hiechyd - o'r aer rydyn ni'n ei hanadlu i'r swyddi rydyn ni'n eu gwneud, a'r cymunedau rydyn ni'n byw ynddyn nhw. Er bod pob ffactor yn bwysig, cynigiodd yr arolwg yma gipolwg i ni ar yr hyn sydd bwysicaf yn eich barn chi ar hyn o bryd:
Nodwch: Doedd yr ymarfer yma ddim wedi'i reoleiddio ac ni ddylid ei ddehongli fel cynrychiolaeth bendant o flaenoriaethau cymunedol. Fodd bynnag, roedd yr ymarfer wedi sbarduno trafodaethau gwerthfawr a oedd o gymorth i godi ymwybyddiaeth o benderfynyddion iechyd ehangach a rôl yr awdurdod lleol.
Ydych chi’n awyddus i wybod rhagor?
Mae modd i chi barhau i archwilio penderfynyddion iechyd ehangach a herio'ch hun gyda'n cwis ar-lein. Mae'n hwyl, yn gyflym, ac efallai y bydd rhai o'r atebion yn eich synnu!